Rheoli sut y cynllunnir adnoddau a dyrannu adnoddau'n well mewn canolfan gyswllt

URN: INSCC010
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli sut y cynllunnir adnoddau a dyrannu adnoddau'n well mewn canolfan gyswllt. Mae'n cynnwys monitro'r galw am wasanaethau mewn amgylchedd canolfan gyswllt a sut mae adnoddau'n cael eu rheoli. Mae'n cynnwys monitro lefelau gweithgaredd, rhagweld y galw, cynllunio adnoddau a'u dyrannu. Byddwch yn adolygu dulliau ymateb i alw, rhagweld a dadansoddi; byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr i rannu gwybodaeth am dueddiadau ac argymell unrhyw newidiadau i bolisïau adnoddau sefydliadol.  Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n rheoli sut y cynllunnir adnoddau ac yn dyrannu adnoddau'n well mewn canolfan gyswllt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dyfeisio a datblygu dulliau sefydliadol o ragweld galw mewn canolfan gyswllt

1.       nodi strategaeth ac amcanion sefydliadol sy'n cynnig awgrymiadau ynghylch lefelau galw yn y dyfodol

2.       nodi metrigau sy'n cynrychioli'r galw am wasanaethau canolfannau cyswllt

3.       monitro galw tymor byr i ddadansoddi anghenion adnoddau staff canolfannau cyswllt ar hyn o bryd

4.       adolygu dulliau sefydliadol cyfredol o ragweld galw a nodi modelau amgen posibl

5.       defnyddio technegau rhagweld i ddarogan y galw yn y dyfodol am adnoddau canolfannau cyswllt

6.       asesu'r hyder a roddir mewn rhagolygon galw

7.       nodi'r data cyfredol sydd ar gael am weithwyr er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cyd-fynd â'r galw a ragwelir

8.       nodi newidiadau a ragwelir yn y galw am adnoddau canolfannau cyswllt a'r rhesymau dros y newidiadau hyn

Rhoi gwybodaeth am adnoddau i gydweithwyr priodol

9.       rhoi gwybod i gydweithwyr yn gyffredinol am dueddiadau a rhagolygon galw, pa adnoddau sydd ar gael a'r goblygiadau ar gyfer cwrdd ag amcanion sefydliadol

10.   cytuno ar y galw am adnoddau a ffactorau sy'n dylanwadu ar ddyrannu adnoddau a'u defnyddio

11.   ymgynghori â chydweithwyr ynghylch gwahanol opsiynau ar gyfer sicrhau y gellir defnyddio adnoddau i ateb y galw

Cynnal gweithgareddau amserlennu a staffio

12.   dadansoddi rhagolygon o ran y galw i nodi pa adnoddau fydd eu hangen mewn maes canolfan gyswllt

13.   nodi faint o staff sydd ar gael, cyfyngiadau a beth sydd orau ganddynt o ran amserlenni gwaith

14.   dadansoddi gofynion amserlennu o fewn y rhagolygon o'r galw cyffredinol

15.   defnyddio offer cynllunio priodol i greu cynlluniau adnoddau

16.   dyrannu adnoddau yn y ganolfan gyswllt a'u defnyddio yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol

17.   addasu amserlenni i ateb y newidiadau a nodwyd yn y galw

Cyfrannu at ddatblygu polisïau adnoddau mewn canolfan gyswllt

18.   nodi polisïau sefydliadol cyfredol o ran adnoddau yng ngoleuni amcanion sefydliadol

19.   adolygu polisïau adnoddau sefydliadol yng ngoleuni amcanion sefydliadol

20.   ymgynghori â chydweithwyr ynghylch polisïau adnoddau a'r angen am unrhyw ddatblygiadau

21.   argymell newidiadau i bolisïau adnoddau sefydliadol a chytuno arnynt

22.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o wasanaethau neu gynhyrchion sy'n cael eu cynnig neu eu cefnogi gan eich canolfan gyswllt
  2. y gofynion sefydliadol, y rheoliadau allanol a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â datblygu adnoddau
  3. y strategaethau a'r amcanion sefydliadol a allai effeithio ar gynllunio adnoddau
  4. y gweithdrefnau a'r canllawiau sefydliadol sy'n ymwneud â datblygu adnoddau
  5. pwysigrwydd defnyddio metrigau wrth gynllunio adnoddau yng nghyd-destun gweithrediadau canolfannau cyswllt effeithlon ac effeithiol
  6. y technegau ar gyfer monitro a dadansoddi anghenion adnoddau mewn canolfan gyswllt ar hyn o bryd
  7. dulliau rhagweld galw i ddarogan gofynion yn y dyfodol ar gyfer gweithrediadau canolfannau cyswllt
  8. pwysigrwydd ystyried yr hyder a roddir mewn rhagolygon galw mewn canolfannau cyswllt
  9. y mathau o ddata am weithwyr a chofnodion gwaith y gellir ei gadw
  10. sut i ddefnyddio data am weithwyr a chofnodion gwaith i gyfrannu at gynllunio adnoddau mewn canolfan gyswllt
  11. y ffynonellau gwybodaeth sy'n eich galluogi i ragweld newidiadau yn y galw a nodi'r rhesymau drostynt
  12. pwysigrwydd cyfathrebu â chydweithwyr ynghylch lefelau galw mewn canolfannau cyswllt, yr adnoddau sydd ar gael a chynlluniau adnoddau
  13. pwysigrwydd dod i gytundeb â chydweithwyr ar ddyrannu adnoddau a'u defnyddio
  14. y technegau ar gyfer nodi gwahanol opsiynau ar gyfer bodloni'r galw am adnoddau
  15. yr offer cynllunio ar gyfer amserlennu adnoddau
  16. sut i ddadansoddi rhagolygon galw i nodi gofynion adnoddau a chytuno arnynt
  17. pwysigrwydd ystyried pa staff sydd ar gael, cyfyngiadau a dewisiadau wrth amserlennu gwaith
  18. yr addasiadau a allai fod yn ofynnol i weithgareddau amserlennu
  19. y technegau ar gyfer rheoli newidiadau mewn polisïau adnoddau ar gyfer gweithrediadau canolfannau cyswllt
  20. sut i nodi ac adolygu polisïau adnoddau yn erbyn amcanion sefydliadol
  21. pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr ar bolisïau adnoddau er mwyn nodi newidiadau a gwelliannau
  22. sut i gyflwyno argymhellion ar gyfer newidiadau i bolisïau adnoddau
  23. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrafod gwybodaeth bersonol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC35, CfA CC36

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, rhagolygon galw, cynllunio adnoddau, cyfathrebu, amserlennu, staffio