Rhoi gwybodaeth a chymorth am wasanaethau a chynhyrchion mewn canolfan gyswllt

URN: INSCC009
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi gwybodaeth a chymorth am wasanaethau a chynhyrchion mewn canolfan gyswllt. Mae'n cynnwys dilyn canllawiau sefydliadol i gydymffurfio â rheoliadau neu ddeddfwriaeth yn ystod cysylltiad gan gwsmeriaid. Byddwch yn sefydlu ac yn gwirio pwy yw'r cwsmeriaid, yn rhoi gwybodaeth sy'n benodol i'w ceisiadau ac yn cyfeirio galwadau at gydweithwyr pan na allwch ddatrys ymholiadau'r cwsmer. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt sy'n rhoi gwybodaeth a chymorth am wasanaethau a chynhyrchion mewn canolfan gyswllt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dilyn canllawiau gwasanaeth i gwsmeriaid sefydliadol ar gyfer ymateb i gysylltiadau

1.       dilyn canllawiau sefydliadol sy'n ymwneud ag iaith a sgwrs

2.       defnyddio offer cyfathrebu sy'n ymdrin â chysylltiadau gan gwsmeriaid

3.       delio â chysylltiadau gan gwsmeriaid am wybodaeth benodol ar draws ystod o wasanaethau neu gynhyrchion

4.       sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a deddfwriaeth sefydliadol berthnasol yn ystod cysylltiad gan gwsmeriaid

Cadarnhau pwy yw'r cwsmeriaid a dilysu hynny

5.       cysylltu pwy yw eich cwsmeriaid â chofnodion y sefydliad, lle bo hynny'n berthnasol

6.       defnyddio protocolau diogelwch sefydliadol i gadarnhau pwy yw eich cwsmer

7.       dilyn gweithdrefnau sefydliadol i gofnodi unrhyw adeg pa na chedwir at y patrwm awdurdodi safonol

8.       esbonio i'ch cwsmer y rhesymau dros wirio pwy ydynt a'u hopsiynau pan na allant wneud hynny

Cefnogi anghenion cwsmeriaid am wybodaeth a phenderfyniadau ynghylch gwasanaethau neu gynhyrchion

9.       cyfleu gwybodaeth i gwsmeriaid am ystod benodol o wasanaethau neu gynhyrchion

10.   ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid am ystod o wasanaethau neu gynhyrchion a gwneud yn siŵr bod y cwsmeriaid yn deall

11.   cynnal a diweddaru eich gwybodaeth am yr ystod o wasanaethau neu gynhyrchion a gynigir

12.   cynorthwyo cwsmeriaid sy'n gwneud penderfyniadau am wasanaethau a chynhyrchion

13.   cynnig opsiynau i gwsmeriaid ar gyfer gwahanol gamau gweithredu am wasanaethau neu gynhyrchion

14.   datrys ceisiadau neu broblemau cwsmeriaid o fewn lefel eich awdurdod

15.   cyfeirio ceisiadau neu broblemau cwsmeriaid at gydweithiwr sydd ag awdurdod pan na allwch ddelio â'r mater eich hun

16.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o wasanaethau a chynhyrchion y gallwch ymdrin â nhw yn ystod cysylltiadau gan gwsmeriaid
  2. nodweddion gwasanaethau a chynhyrchion y gallwch eu disgrifio yn ystod cysylltiadau gyda chwsmeriaid
  3. y canllawiau sefydliadol ar ddefnyddio iaith a sgyrsiau gyda chwsmeriaid
  4. sut i ddefnyddio nodweddion allweddol offer cyfathrebu wrth gyfathrebu â chwsmeriaid
  5. lefel eich awdurdod ar gyfer delio â chysylltiadau gan gwsmeriaid am ystod o wasanaethau a chynhyrchion
  6. y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar eich cysylltiad â chwsmeriaid a gwybod pwy ydynt
  7. y rhesymau pam mae gweithdrefnau'r sefydliad yn angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
  8. sut i wirio dealltwriaeth cwsmeriaid o'r wybodaeth am gynhyrchion a gwasanaethau
  9. y ffyrdd o gynnal a diweddaru eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o wasanaethau a chynhyrchion
  10. sut i arwain cwsmeriaid sy'n gwneud penderfyniadau am wasanaethau a chynhyrchion
  11. yr opsiynau sydd ar gael i'ch cwsmeriaid wrth wneud penderfyniadau am wasanaethau a chynhyrchion
  12. yr aelod staff perthnasol i gyfeirio cwsmeriaid atynt pan mae cais neu broblem y tu hwnt i'ch cymhwysedd neu awdurdod
  13. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi manylion cysylltu â chwsmeriaid
  14. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrafod gwybodaeth bersonol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC31

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, gwasanaeth i gwsmeriaid, cysylltiad gan gwsmeriaid, canllawiau sefydliadol, cadarnhau pwy yw'r cwsmeriaid, cymorth i gwsmeriaid, gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau