Rheoli gweithrediadau gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gweithgareddau gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt. Byddwch yn casglu gwybodaeth am werthu ac yn defnyddio technegau ac arddulliau perthnasol i fodloni amcanion gwerthu. Mae hefyd yn cynnwys cynllunio gweithgareddau gwerthu, dadansoddi gweithgareddau gwerthu ac adrodd ar ganlyniadau. Byddwch hefyd yn cyfrannu at gynllunio gweithgareddau gwerthu a datblygu strategaethau gwerthu sefydliadol. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt ar lefelau goruchwylio neu reoli sydd â chyfrifoldeb am reoli gweithrediadau gwerthu uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Diffinio gwybodaeth a thechnegau i'w defnyddio ar gyfer gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
1. nodi'r strategaeth werthu er mwyn gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
2. diffinio'r wybodaeth am werthu sydd ei hangen i gyflawni amcanion gwerthu
3. gwneud yn siŵr bod modd casglu'r wybodaeth sy'n ofynnol am werthu heb amharu ar weithgareddau gwerthu
4. diffinio'r arddull gwerthu a'r technegau i'w defnyddio i gyflawni amcanion gwerthu uniongyrchol
5. trefnu i ddatblygu gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer aelodau'r tîm sy'n gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
6. profi gweithdrefnau a chanllawiau sy'n cynnwys cydweithwyr sy'n cynnal gweithgareddau gwerthu i wneud yn siŵr eu bod yn ymarferol mewn canolfan gyswllt
7. monitro sut mae gweithgareddau gwerthu uniongyrchol yn cael eu goruchwylio a'u monitro wrth roi gweithdrefnau newydd ar waith ac wedi hynny
Adolygu gweithgareddau cynllunio gwerthu, eu dadansoddi a'r technegau adrodd arnynt er mwyn gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
8. coladu gwybodaeth am gwsmeriaid, marchnata a gwerthu sy'n ofynnol ar gyfer cynllunio gwerthu
9. adolygu cynlluniau gwerthu cyfredol a dulliau ar gyfer eu dyfeisio
10. gweithredu ffyrdd o wella cynlluniau gwerthu sy'n berthnasol er mwyn gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
11. nodi'r dadansoddiad o weithgareddau gwerthu sydd ei angen i gyflawni amcanion a chynlluniau gwerthu
12. cyfrannu at ddylunio offer dadansoddi gweithgareddau gwerthu i fonitro a gwella perfformiad wrth werthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
13. diffinio gofynion adrodd ar weithgareddau gwerthu i fonitro a gwella perfformiad gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt
Cyfrannu at ddatblygu strategaeth werthu sefydliadol
14. dehongli gwybodaeth a dadansoddiadau am werthu sy'n gysylltiedig â gwerthu'n uniongyrchol mewn canolfan gyswllt ac sy'n berthnasol i strategaeth werthu sefydliadol
15. nodi nodweddion allweddol strategaeth werthu sefydliadol sy'n effeithio ar weithrediadau gwerthu uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
16. argymell datblygiadau yn y strategaeth werthu a fyddai'n gwella perfformiad gwerthu yn gyffredinol
17. dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a gweithgareddau gwerthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- agweddau strategol yr ystod o wasanaethau a chynhyrchion a gynigir wrth werthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
- y dulliau a'r systemau sefydliadol cyfredol ar gyfer gwerthu'n uniongyrchol
- y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar weithrediadau gwerthu uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
- y strategaethau gwerthu posibl ar gyfer gweithrediadau gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt
- y wybodaeth sy'n ofynnol am werthu a'r technegau ar gyfer ei chasglu, trwy weithgareddau gwerthu uniongyrchol
- sut i ddiffinio arddulliau a thechnegau gwerthu er mwyn cyflawni amcanion gwerthu
- sut i ddyfeisio a chyflwyno canllawiau effeithiol ar gyfer staff sy'n gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfannau cyswllt
- y dulliau profi canllawiau a gweithdrefnau
- y technegau monitro ar gyfer goruchwylio a rheoli gweithgareddau gwerthu uniongyrchol wrth roi gweithdrefnau newydd ar waith
- y technegau cynllunio gweithgareddau gwerthu a sut i wneud gwelliannau, gan ddefnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid, marchnata a gwerthu
- y technegau dadansoddi gweithgareddau gwerthu a sut i nodi gofynion dadansoddi
- yr opsiynau ar gyfer offer monitro a dadansoddi gweithgareddau gwerthu
- y technegau a'r opsiynau ar gyfer adrodd ar weithgareddau gwerthu
- sut i ddehongli gwybodaeth am werthu a'i dadansoddi er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn cyd-fynd â strategaeth werthu sefydliadol
- sut i wneud cysylltiadau clir rhwng strategaeth werthu sefydliadol a gweithrediadau gwerthu uniongyrchol
- yr opsiynau ar gyfer argymell gwelliannau yn y strategaeth werthu sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a gweithgareddau gwerthu