Rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid mewn canolfan gyswllt

URN: INSCC004
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwasanaeth cwsmeriaid mewn canolfan gyswllt. Mae'n cynnwys rheoli gweithgareddau gwasanaeth i gwsmeriaid yn gyffredinol, cytuno ar ffiniau awdurdod y cydweithwyr sy'n delio ag ymholiadau a cheisiadau gan gwsmeriaid, rheoli gweithdrefnau uwch-gyfeirio ar gyfer pob mater anodd gan gwsmeriaid, a delio â materion cwsmeriaid a allai beri cryn risg neu'n rhai proffil uchel. Mae hefyd yn cynnwys adolygu gofynion sefydliadol yn unol â rheoliadau a deddfwriaeth a diweddaru gweithdrefnau gwasanaeth i gwsmeriaid a gofynion cydymffurfio. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt ar lefelau goruchwylio neu reoli sydd â chyfrifoldeb am reoli gwasanaeth i gwsmeriaid mewn canolfan gyswllt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rheoli prosesau uwch-gyfeirio ar gyfer materion anodd gan gwsmeriaid mewn canolfan gyswllt

1.       nodi a chytuno ar ffiniau awdurdod eich cydweithwyr sy'n delio â phroblemau, pryderon neu gwynion cymhleth gan gwsmeriaid

2.       cadarnhau ffiniau awdurdod gyda chydweithwyr ar bob lefel

3.       delio â materion anodd gan gwsmeriaid a gyfeiriwyd gan gydweithwyr nad oes ganddynt y cymhwysedd na'r awdurdod priodol

4.       delio â materion gan gwsmeriaid a allai fod yn gryn risg neu'n broffil uchel

5.       nodi ffyrdd o atal problemau yn gysylltiedig â gwasanaeth i gwsmeriaid rhag digwydd eto

6.       cefnogi arweinwyr a rheolwyr tîm i atgyfnerthu'r gweithdrefnau uwch-gyfeirio a chwyno

7.       rheoli gweithdrefnau monitro perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid ac adborth gan gwsmeriaid

8.       dyfeisio dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid a chytuno arnynt

9.       cydlynu gweithgareddau monitro i asesu perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt

10.   coladu canlyniadau monitro gwasanaeth cwsmeriaid a'u dadansoddi

11.   gwirio canlyniadau monitro gwasanaeth i gwsmeriaid i weld a ydynt yn cydymffurfio â gofynion sefydliadol a rheoliadol

12.   gweithio gydag arweinwyr timau, rheolwyr a chydweithwyr i ddatblygu a gwella gweithdrefnau monitro ar gyfer perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid

Adolygu a diweddaru gofynion sefydliadol a rheoliadol ar gyfer cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid

13.   nodi'r gofynion sefydliadol a rheoliadol presennol sy'n effeithio ar gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid yn y ganolfan gyswllt

14.   adolygu strategaethau a pholisïau sefydliadol a allai gynnwys gofynion sydd wedi newid ar gyfer rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid

15.   adolygu rheoliadau neu ddeddfwriaeth allanol a allai gynnwys gofynion sydd wedi newid ar gyfer rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid

16.   ymgynghori ag arweinwyr timau, rheolwyr a chydweithwyr sy'n rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid, ar oblygiadau newidiadau mewn gofynion sefydliadol neu reoleiddiol

17.   cytuno ar newidiadau mewn gofynion sefydliadol neu reoleiddiol mewn gweithdrefnau gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer gweithgareddau canolfannau cyswllt a'u rhoi ar waith

18.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ffyrdd o ddiffinio ffiniau awdurdod y bobl sy'n delio â materion a chwynion gwasanaeth i gwsmeriaid
  2. sut i sicrhau bod cydweithwyr ar bob lefel yn deall ffiniau'r awdurdod y cytunwyd arnynt
  3. y technegau ar gyfer delio â materion cymhleth neu anodd gan gwsmeriaid
  4. y mathau o wasanaeth i gwsmeriaid neu broblemau a allai beri cryn risg neu ddod yn broffil uchel a sut i'w rheoli
  5. sut i atal materion gwasanaeth i gwsmeriaid rhag digwydd eto
  6. gweithdrefnau sefydliadol y gwasanaeth i gwsmeriaid a sut i gefnogi arweinwyr tîm a rheolwyr i atgyfnerthu'r gweithdrefnau uwch-gyfeirio a chwynion
    sut i reoli gweithdrefnau monitro perfformiad ac adborth ar wasanaeth i gwsmeriaid
  7. y technegau ar gyfer dyfeisio dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) a chytuno arnynt
  8. sut i gydlynu gweithgareddau monitro i asesu perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt
  9. sut i goladu canlyniadau sy'n dadansoddi prosesau monitro gwasanaeth i gwsmeriaid
  10. manylion y gofynion sefydliadol a rheoliadol ar gyfer cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  11. sut i wirio bod canlyniadau monitro gwasanaeth cwsmeriaid yn cydymffurfio
  12. pwysigrwydd gweithio gydag arweinwyr timau, rheolwyr a chydweithwyr i ddatblygu a gwella gweithdrefnau monitro ar gyfer perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
  13. y ffynonellau gwybodaeth am strategaethau a pholisïau sefydliadol a rheoliadau neu ddeddfwriaeth allanol sy'n effeithio ar gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  14. y broses ar gyfer adolygu strategaethau a pholisïau sefydliadol a allai gynnwys gofynion sy'n newid ar gyfer cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  15. y prosesau ar gyfer adolygu'r modd y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid yn unol â rheoliad neu ddeddfwriaeth
  16. pwysigrwydd ymgynghori ag arweinwyr timau, rheolwyr a chydweithwyr sy'n gyfrifol am gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  17. goblygiadau newidiadau mewn gofynion sefydliadol neu reoleiddiol
  18. sut i gytuno ar newidiadau mewn gofynion sefydliadol neu reoleiddiol mewn gweithdrefnau gwasanaeth i gwsmeriaid a'u rhoi ar waith
  19. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrafod gwybodaeth bersonol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC16

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, gwasanaeth i gwsmeriaid, rheolaeth, cysylltiad gan gwsmeriaid, cyfathrebu, prosesau uwch-gyfeirio, perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid, adborth gan gwsmeriaid, gofynion sefydliadol