Defnyddio systemau a thechnolegau canolfannau cyswllt i ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid

URN: INSCC001
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio systemau a thechnolegau canolfannau cyswllt i ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid. Defnyddir y rhain i ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid a chael gafael ar wybodaeth sy'n ofynnol yn eich rôl. Mae'r safon yn ymdrin â chael gafael ar wybodaeth am gwsmeriaid, delio â chwsmeriaid, defnyddio ystod o dechnolegau a swyddogaethau sydd ar gael i wella gwasanaeth i gwsmeriaid gyda'r prif bwyslais ar ddatrys y tro cyntaf y maent yn cysylltu. Mae'n cynnwys nodi categorïau'r cysylltiadau yr ydych wedi'u hawdurdodi i ddelio â nhw, deall y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymateb i gysylltiadau, defnyddio systemau technoleg ac amrywiaeth o ddulliau cysylltu (galwadau ffôn, cymdeithasol, sgwrs fyw, sgwrsio ar y we, ac ati) er mwyn mewnbynnu gwybodaeth am gysylltiadau a deall pryd i gyfeirio cwsmeriaid at gydweithwyr pan na allwch eu cynorthwyo. Mae hefyd yn cynnwys cytuno ar yr adroddiadau sefydliadol sy'n ofynnol, defnyddio technolegau i gynhyrchu adroddiadau a gwirio'r adroddiadau hyn cyn eu defnyddio a'u rhannu ag eraill 

Mae'r safon ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt y mae'n ofynnol iddynt ddefnyddio systemau a thechnolegau canolfannau cyswllt i ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

**

Ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid yn y ganolfan gyswllt

1.       defnyddio systemau ymateb i gysylltiadau er mwyn delio â chwsmeriaid

2.       ymateb i gysylltiadau a nodwyd gan y system dosbarthu cysylltiadau

3.       nodi categorïau'r cysylltiadau yr ydych wedi'u hawdurdodi i ymateb iddynt ac i bwy y dylech drosglwyddo cysylltiadau eraill

4.       cael gafael ar wybodaeth am gwsmeriaid trwy'r system yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

5.       nodi'r hyn sydd angen i chi ei wneud os bydd cysylltiad gan gwsmer yn mynd yn rhy gymhleth neu'n rhy anodd i ymateb iddo

6.       disgrifio a chymhwyso'r gweithdrefnau a'r canllawiau sefydliadol sydd eu hangen i ymateb yn llawn i bob math o gysylltiad

7.       nodi'r systemau a'r technolegau sefydliadol sy'n eich cynorthwyo i ymateb i gysylltiadau

Defnyddio systemau a thechnolegau canolfannau cyswllt i ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid

8.       mewngofnodi i'r system dechnoleg briodol i ddelio â chysylltiadau gan gwsmeriaid yn y maes yr ydych yn gyfrifol amdano

9.       cadarnhau pwy yw'r cwsmer ar sail y wybodaeth y maent yn ei rhoi a'i dilysu drwy ddefnyddio gwybodaeth o'r system

10.   nodi at bwy y byddai angen i chi gyfeirio'r ymholiad os na ellir dilysu'r wybodaeth a roddir

11.   dilyn llwybrau diffiniedig trwy'r system dechnoleg i gwblhau tasgau mewn ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid

12.   defnyddio nodweddion y system deleffoni i reoli cysylltiadau gan gwsmeriaid

13.   dod o hyd i wybodaeth ar y system sydd ei hangen i ymateb yn llawn i ymholiad gan gwsmer

14.   cyfeirio'r alwad at gydweithiwr awdurdodedig os na allwch ymateb yn llawn i ymholiad gan gwsmer

15.   mewnbynnu gwybodaeth i'r system gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

16.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol

Defnyddio nodweddion systemau a thechnolegau i ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid â chanolfan gyswllt

17.   gwneud addasiadau i osodiadau systemau unigol ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid trwy deleffoni, technolegau gwe, radio neu ddulliau rhyngweithiol eraill

18.   defnyddio technolegau yn briodol trwy wneud dewisiadau rhwng gwahanol ddulliau i wella gwasanaeth i gwsmeriaid

19.   esbonio manteision a gweithdrefnau gwahanol systemau technoleg ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid

Adrodd ar wybodaeth am ymateb i gwsmeriaid a chysylltiadau drwy ddefnyddio fformatau a ddiffiniwyd ymlaen llaw

20.   delio â chwsmeriaid y tro cyntaf y maent yn cysylltu i ddatrys unrhyw faterion neu bryderon neu gyfeirio'r cyswllt at yr aelod staff perthnasol

21.   nodi'r wybodaeth sydd ei hangen i ymateb i gwsmeriaid a chysylltiadau er mwyn cynllunio gwaith neu baratoi adroddiadau sefydliadol

22.   cytuno ar anghenion adrodd sefydliadol gydag arweinydd tîm neu aelod staff sydd â'r awdurdod priodol

23.   gwneud unrhyw addasiadau gofynnol i fformatau adroddiadau a ddiffiniwyd ymlaen llaw i sicrhau bod allbynnau fel y cytunwyd arnynt

24.   defnyddio nodweddion meddalwedd i gynhyrchu gwybodaeth am gwsmeriaid wedi'i diffinio ymlaen llaw ac adroddiadau trin cyswllt

25.   gwirio canlyniadau adroddiadau cyn eu defnyddio'n llawn

26.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y wybodaeth am y gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir neu a gefnogir gan y ganolfan gyswllt
  2. y cysylltiadau y mae gennych yr awdurdod i ymateb iddynt
  3. sut i gofnodi a mewnbynnu gwybodaeth drwy ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  4. y gweithdrefnau sefydliadol a'r canllawiau ar gyfer ymateb i wahanol fathau o gysylltiadau gan gwsmeriaid
  5. y systemau a'r technolegau sefydliadol sy'n ofynnol i gynorthwyo'r gwaith o ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid
  6. yr amrywiaeth o ddulliau cyswllt trwy systemau a thechnolegau perthnasol
  7. y broses o gyfeirio cysylltiadau pan fydd y rhain y tu hwnt i ffiniau eich awdurdod
  8. y gweithdrefnau ar gyfer mewngofnodi i'r systemau technoleg
  9. y gweithdrefnau ar gyfer cadarnhau pwy yw'r cwsmer a'i ddilysu
  10. sut i ymateb i awgrymiadau gan y system sy'n dynodi'r llwybr i'w ddilyn
  11. nodweddion y system gyswllt deleffoni sy'n ofynnol i reoli cysylltiadau gan gwsmeriaid
  12. y technegau ar gyfer dod o hyd i wybodaeth ar system y ganolfan gyswllt
  13. y gofynion sefydliadol a'r rheoliadau neu ddeddfwriaeth allanol sy'n effeithio ar weithrediadau canolfannau cyswllt
  14. y gweithdrefnau a'r canllawiau sefydliadol ar gyfer ymateb i gysylltiadau gan gwsmeriaid
  15. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadarnhau pwy yw cwsmeriaid a dilysu hynny
  16. diben systemau dosbarthu cysylltiadau a sut mae system eich sefydliad yn gweithio
  17. nodweddion systemau gwybodaeth cwsmeriaid eich sefydliad sy'n eich galluogi i ddelio â chwsmeriaid y tro cyntaf y maent yn cysylltu
  18. gosodiadau'r system sy'n eich galluogi i gael mynediad at wahanol nodweddion rhyngweithiol
  19. sut i wneud dewisiadau rhwng gwahanol nodweddion rhyngweithiol i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid
  20. manteision gwahanol dechnolegau ar gyfer delio â chwsmeriaid
  21. sut i nodi'r wybodaeth sy'n ofynnol mewn adroddiadau er mwyn rhoi cynllunio neu roi adborth sefydliadol
  22. pwysigrwydd cytuno ar gynnwys adroddiadau gydag arweinydd tîm neu unigolyn ag awdurdod priodol
  23. y mathau o addasiadau a allai fod yn ofynnol i adroddiadau a ddiffiniwyd ymlaen llaw
  24. nodweddion y meddalwedd i gynhyrchu adroddiadau a ddiffiniwyd ymlaen llaw
  25. pwysigrwydd gwirio allbwn adroddiadau cyn ei ddefnyddio
  26. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrafod gwybodaeth bersonol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC18

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, cysylltiad gan chwsmeriaid, systemau canolfannau cyswllt, technolegau canolfannau cyswllt