Rhoi canllawiau, adnoddau a chymorth rheoli i staff er mwyn lleihau'r risg o haint
URN: INSC028
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi canllawiau, adnoddau a chymorth rheoli, gan gynnwys sicrhau bod yr hyfforddiant gofynnol yn cael ei roi i staff glanhau, i'w galluogi i leihau'r risg o gaffael a lledaenu haint. Mae'n berthnasol ar gyfer goruchwylio staff mewn unrhyw feysydd lle mae'r risg o haint yn broblem.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- mabwysiadu a chymhwyso'r polisïau a'r canllawiau perthnasol ar reoli heintiau sy'n berthnasol i'ch sefydliad
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch staff glanhau am y polisïau a'r canllawiau perthnasol ar reoli heintiau
- trefnu hyfforddiant ymsefydlu a diweddariad pellach i sicrhau bod eich staff yn dilyn arferion gwaith diogel
- sicrhau bod rheoli heintiau yn rhan annatod o drefn waith yr holl weithwyr
- diogelu eich staff drwy sicrhau bod cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gael ar eu cyfer a'r cyfleusterau ar gyfer gorfodi arferion gwaith diogel
- sicrhau bod gweithwyr yn cael yr holl frechiadau gofynnol a'u bod yn cael gwasanaethau iechyd galwedigaethol i leihau'r risgiau o haint wrth weithio
- monitro, archwilio a rhoi adborth ar arferion staff mewn cysylltiad â rheoli heintiau
- monitro'r adnoddau, y cyfarpar a'r agweddau amgylcheddol perthnasol a allai effeithio ar arferion wrth reoli heintiau
- ymchwilio i achosion problemau a gyflwynir a chychwyn camau adfer prydlon, lle bo'n briodol
- adolygu'r holl ddigwyddiadau andwyol a gofnodwyd a allai achosi risg o haint yn ogystal â chymryd cama mewn modd amserol i gael gwared ar y problemau
- dadansoddi pob achos o ddigwyddiadau andwyol a gofnodwyd er mwyn nodi tueddiadau, problemau rheolaidd a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw
- hysbysu'r aelod staff perthnasol os oes angen cymorth adferol ar gyfer rheoli'r haint
- sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol am reoli heintiau yn cael ei harddangos yn glir ym mhob rhan o safle eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Deddfwriaeth a pholisi
- y safon bresennol ar gyfer rheoli heintiau a rhagofalon, a'r ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol sy'n gysylltiedig â hyn
- y rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol
- y rheoliadau perthnasol sy'n ymwneud â sylweddau sy'n beryglus i iechyd
Gwybodaeth Dechnegol
- y ffeithiau am y gadwyn heintio
- yr imiwneiddiadau perthnasol sy'n gallu diogelu rhag haint yn y gwaith
- sut i gyfeirio staff at gyngor iechyd galwedigaethol
- y cyfleusterau dynodedig ar gyfer cadw dwylo'n lân
- y cyfleusterau dynodedig ar gyfer rhoi cymorth cyntaf
- y mathau o gyfarpar diogelu personol (PPE) sydd eu hangen ar eich staff
- ymwybyddiaeth o alergedd cudd a gweithdrefnau eich sefydliad o dan darparu menig di-latecs
- sut i sicrhau bod risgiau haint yn cael eu hasesu yn eich meysydd gweithgarwch
- y dadansoddiad o'r achos sylfaenol mewn cysylltiad â rheoli heintiau
- pa gamau i'w cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl gweithdrefn i leihau'r risgiau o haint
Dealltwriaeth Sefydliadol
- y technegau perthnasol er mwyn mabwysiadu a chymhwyso polisïau a chanllawiau eich sefydliad ar reoli heintiau
- y mecanwaith i roi hyfforddiant ymsefydlu a diweddariadau pellach i'ch gweithwyr
- sut i gaffael y cyfarpar diogelu personol (PPE) a beth i'w wneud gyda chyfarpar sydd wedi'i ddefnyddio
- y cyflenwadau a'r cyfleusterau perthnasol i alluogi staff i roi'r camau safonol y cytunwyd arnynt ar waith er mwyn rheoli ac atal heintiau
- sut i fonitro arferion gwaith staff a chymryd camau i gynnal y safonau hylendid gofynnol
- rolau a chyfrifoldebau eich gweithwyr o ran rheoli heintiau
- sut i gadw'r cofnodion sy'n ofynnol yn eich maes gweithgarwch
- y mecanweithiau perthnasol ar gyfer cofnodi unrhyw ddamweiniau a digwyddiadau er mwyn sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i gael gwared ar broblemau
- pryd i roi gwybod am faterion sydd y tu allan i gwmpas eich cyfrifoldebau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTIPC13
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Mentrau Gwasanaeth, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol
Cod SOC
9239
Geiriau Allweddol
Canllawiau, adnoddau, cymorth, staff, hyfforddiant, gweithredwyr glanhau, haint, goruchwylio