Hyfforddi staff glanhau
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer goruchwylwyr glanhau. Mae'n ymwneud â rhoi'r hyfforddiant perthnasol a diweddaru eich staff glanhau. Mae'n ymwneud ag asesu anghenion hyfforddi gweithwyr a'u hyfforddi hyd at safonau eich sefydliad. Mae hefyd yn ymwneud â rhoi adborth i unigolion ar eu cynnydd a'u cyflawniadau.
Mae'r safon yn cwmpasu'r canlynol:
Asesu anghenion hyfforddi eich gweithwyr
Hyfforddi gweithwyr hyd at safonau gofynnol o ran ansawdd a pherfformiad
Rhoi adborth ar gynnydd a pherfformiad gweithwyr
Gallai eich gweithgareddau dyddiol nodweddiadol ar gyfer yr uned hon gynnwys:
Asesu sgiliau unigol eich gweithwyr
Nodi anghenion hyfforddi o fewn cwmpas eich cyfrifoldeb
Nodi'r hyn y dylai gweithwyr ei ddysgu
Gweithredu hyfforddiant sydd wedi'i gynllunio yn eich maes cyfrifoldeb.5. Sicrhau bod staff yn gallu cymhwyso'r sgiliau newydd
Rhoi cyfarwyddyd yn y gwaith i weithwyr a goruchwylio eu gwaith
Asesu cynnydd gweithwyr wrth gaffael a chymhwyso sgiliau newydd
Rhoi adborth i weithwyr ar eu cynnydd a'u cyflawniadau
Cadw cofnodion hyfforddiant
Cofnodi cynnydd unigol gweithwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Asesu anghenion hyfforddi eich gweithwyr
- sefydlu perthynas waith gynhyrchiol gyda'ch staff glanhau
- asesu sgiliau a phrofiad gwaith blaenorol gweithwyr newydd
- nodi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen gan eich gweithwyr i gyflawni safonau perfformiad ansawdd
- nodi'r lefelau gwybodaeth am weithdrefnau iechyd a diogelwch a allai fod eu hangen ar eich gweithwyr
- pennu faint o oruchwyliaeth fydd eu hangen ar weithwyr wrth iddynt gael eu hyfforddi
- hysbysu'r aelod staff perthnasol am eich asesiad o'u hanghenion hyfforddi
Hyfforddi gweithwyr hyd at safonau gofynnol o ran ansawdd a pherfformiad
- paratoi rhaglen hyfforddi er mwyn diwallu anghenion hyfforddi eich gweithwyr
- esbonio'r hyn a ddisgwylir gan staff glanhau
- rhoi'r wybodaeth a'r cyfarwyddiadau gofynnol i weithwyr
- arddangos arferion gwaith gorau i ategu'r dysgu
- dangos sut y gweithredir cyfarpar drwy ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- cefnogi staff glanhau wrth ymarfer eu sgiliau o dan amodau gwaith diogel
- gofyn am y cymorth hyfforddi gan yr aelod staff perthnasol os yw eich gwybodaeth a'ch sgiliau y tu allan i'r cwmpas gofynnol
- monitro cynnydd gweithredwyr glanhau a'u gallu i ymdopi â gofynion eu gwaith a'r amgylchedd gwaith
- cofnodi manylion gweithgareddau hyfforddi a chynnydd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Rhoi adborth ar gynnydd a pherfformiad gweithwyr
- rhoi cyfleoedd i weithwyr asesu eu perfformiad eu hunain ar wahanol gamau o'u hyfforddiant
- rhoi adborth i'ch gweithwyr ar eu cynnydd a'u perfformiad
- nodi'r camau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion hyfforddi gweithwyr
- rhoi gwybod am gynnydd gweithwyr
- nodi'r rhesymau dros amrywiadau mewn cynnydd unigolion
- awgrymu atebion pan mae cynnydd gweithiwr yn arafach neu'n gyflymach na'r disgwyl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Asesu anghenion hyfforddi eich gweithwyr
- y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i fodloni safonau ansawdd a pherfformiad
- y risgiau iechyd a diogelwch sy'n codi yn eich maes cyfrifoldeb a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â'r rhain
- cwmpas eich cyfrifoldebau ar gyfer asesu anghenion hyfforddi
- sut i nodi'r anghenion hyfforddi yn dibynnu ar brofiad blaenorol y gweithiwr
- y gweithdrefnau rhoi gwybod ar gyfer asesu anghenion hyfforddi
Hyfforddi gweithwyr hyd at safonau gofynnol o ran ansawdd a pherfformiad
- cwmpas eich cyfrifoldebau ar gyfer hyfforddi gweithwyr glanhau
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer hyfforddi staff glanhau
- y rhaglen hyfforddi ddatblygedig ar gyfer staff glanhau
- sut i annog gweithwyr i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd
- sut i ddangos arferion gwaith gorau a sut i weithredu cyfarpar i staff
- y technegau perthnasol ar gyfer dangos y dulliau glanhau a sut i weithredu cyfarpar yn dibynnu ar anghenion y gweithiwr
- yr anogaeth i gwestiynu'r technegau a ddangosir
- y mathau o gymorth sy'n galluogi pobl i ymarfer y sgiliau maent newydd eu caffael
- y risgiau iechyd a diogelwch sy'n codi yn eich maes cyfrifoldeb a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â'r rhain
Rhoi adborth ar gynnydd a pherfformiad gweithwyr
- y technegau perthnasol ar gyfer hunanasesiadau gweithwyr ar wahanol gamau o'u hyfforddiant
- sut i roi adborth i gweithwyr ar eu cynnydd a'u perfformiad
- y camau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion hyfforddi gweithwyr
- y mathau o anawsterau a allai fod gan gweithwyr wrth wneud cynnydd
- nodi'r rhesymau dros amrywiadau mewn cynnydd unigolion
- i bwy mae angen rhoi gwybod am fanylion cynnydd gweithwyr