Goruchwylio'r gwaith o lanhau safleoedd bwyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio staff sy'n glanhau safleoedd sy'n gysylltiedig â bwyd gan gynnwys ceginau, gwasanaethau gweini, gweithgynhyrchu bwyd, cynhyrchu bwyd a manwerthu bwyd.
Mae risg sylweddol i iechyd y cyhoedd os na chaiff adeiladau sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu, cynhyrchu, gweini a manwerthu bwyd eu glanhau'n briodol. Mae'n bwysig sicrhau bod staff yn arsylwi ac yn cynnal safonau uchel o hylendid personol drwy gydol y broses lanhau. Mae'n bwysig dilyn manylion glanhau'r gweithredwr yn y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd.
Bydd gwahanol gyfarpar mewn safleoedd bwyd, felly mae'n bwysig sicrhau bod staff yn cymryd y rhagofalon cywir o ran defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) a chyflenwadau pŵer diogel ar wahân i gyfarpar cynhyrchu bwyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod y staff yn gyfarwydd â manylion glanhau'r gweithredwr am weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- rhoi gwybod i'ch staff am safon yr hylendid personol sydd ei hangen, sut i'w chynnal a'r mathau o gyflyrau iechyd y dylid rhoi gwybod amdanynt cyn dechrau gweithio
- sicrhau bod staff yn defnyddio'r cyfarpar, y cynhyrchion glanhau a'r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir ar gyfer y gwaith glanhau penodol
- sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau ar gyfer ynysu cyflenwadau pŵer, dadosod, glanhau ac ailosod cyfarpar
- asesu'r gwaith glanhau sy'n cael ei wneud yn erbyn gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd eich sefydliad neu'r gweithredwr
- sicrhau bod gwastraff a slyri wedi'u gwaredu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad neu'ch gweithredwr
- cymryd camau priodol ynghylch problemau a gyflwynwyd i chi
- gwneud yn siŵr bod y staff wedi gadael y man bwyd mewn cyflwr glân sy'n ddiogel i'w ddefnyddio a bod y cyfarpar wedi'i storio'n gywir
- sicrhau bod camau priodol wedi'u cymryd os cafodd arwyddion o blâu eu nodi
- rhoi adborth ar unrhyw broblemau i'r sawl sy'n gyfrifol am weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam mae'n bwysig dilyn manylion glanhau'r gweithredwr yn y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd.
- lefel yr hylendid personol sydd ei hangen a sut i'w chynnal
- y mathau o gyflyrau iechyd y dylid rhoi gwybod amdanynt a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny
- y mathau o gynhyrchion glanhau sy'n addas ar gyfer gwaith glanhau penodol a'r risgiau sy'n gysylltiedig â gwneud dewis anghywir
- y mathau o gyfarpar diogelu personol (PPE) sy'n addas ar gyfer gwaith glanhau yn y man bwyd
- sut i gadw cyfarpar bwyd ar wahân i gyflenwadau pŵer
- y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer dadosod, glanhau ac ailosod cyfarpar bwyd
- y mathau o broblemau a allai olygu na ellir ailagor y man bwyd i'w ddefnyddio
- y mathau o broblemau y gallwch fynd i'r afael â nhw o fewn cwmpas eich cyfrifoldeb
- y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwaredu gwastraff a slyri
- ble a sut y dylai cyfarpar glanhau gael ei lanhau a'i storio
- pa gamau y dylid eu cymryd os oes arwyddion o blâu wedi'u nodi
- pwy ddylai gael gwybod am broblemau gyda gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd