Archwilio a gwirio cydymffurfiaeth â safonau glendid
URN: INSC025
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â rheoli a goruchwylio ym maes glanhau. Mae’n ymwneud ag archwilio a gwirio cydymffurfiaeth â safonau glendid. Mae ar gyfer goruchwylwyr yn y diwydiant glanhau sydd angen gwneud yn siŵr bod y gweithgareddau glanhau yn cyrraedd y safonau ansawdd angenrheidiol. Mae'n hanfodol archwilio'r broses lanhau, yn ogystal â'r canlyniadau i wella ansawdd arferion gwaith yn barhaus. Mae'n cynnwys paratoi ar gyfer yr archwiliad, ei gynnal, rhoi gwybod am ganfyddiadau’r archwiliad, dadansoddi tueddiadau a dilyn y dadansoddiad drwy gymryd camau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- paratoi ar gyfer yr archwiliad a nodi'r categorïau risg ar gyfer tasgau glanhau, deunyddiau neu weithdrefnau gwaith
- pennu pa mor aml y mae angen archwilio ar gyfer pob categori risg a ddyrannwyd
- cadarnhau'r math o archwiliad yn unol â pha mor aml y glanheir a'r amserlen
- adolygu ac addasu'r categori risg ar gyfer pob archwiliad a gynhelir
- nodi a dyrannu'r systemau sgorio perthnasol ar gyfer pob math o archwiliad
- cytuno ar egwyddorion archwilio a chael systemau sgorio sy'n diffinio meini prawf ar gyfer pasio a methu
- cadarnhau'r mannau glanhau i'w harchwilio
- nodi maint y sampl ar gyfer pob maes, elfennau neu weithdrefnau gwaith sy'n cael eu harchwilio
- cadarnhau'r dull archwilio a'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn trwy gydol asesiad
- cynnal archwiliad o'r mannau glanhau yn unol â'r mathau o ddulliau archwilio, pa mor aml y glanheir, a'r systemau sgorio sydd wedi'u cadarnhau
- defnyddio'r offer, y technolegau a'r mathau perthnasol o brofion ar gyfer archwilio'r man yn erbyn safonau glendid
- gwneud yn siŵr bod yr archwiliad wedi'i lofnodi a'i stampio gydag amser a dyddiad
- cynhyrchu'r cofnod archwilio a'r adroddiad sy'n manylu ar y categorïau risg, nifer y mannau a archwilir, a'r sgoriau a gyflawnwyd
- addasu'r sgoriau a'r cyfrifiadau, lle bo angen
- gwneud yn siŵr bod yr archwiliadau wedi eu cymeradwyo gan yr adran berthnasol neu aelod staff cyfrifol
- cynnal dadansoddiad o dueddiadau sgoriau unigol a sgoriau cyffredinol dros gyfnodau o amser a gadarnheir
- nodi ffynonellau data meincnod allanol a chynnal dadansoddiad yn eu herbyn
- dadansoddi canlyniadau glendid a'r arferion glanhau
- coladu amrywiannau o ran ansawdd ar draws amrywiaeth o feysydd, gan nodi'r methiannau
- nodi meysydd penodol sydd angen eu hadolygu, gwella neu newid arferion gwaith
- nodi'r camau perthnasol yn ddibynnol ar ganlyniad asesiadau archwilio
- dyrannu'r camau gweithredu i'r aelodau staff neu'r adrannau perthnasol
- monitro ac adolygu'r safonau glanhau ansawdd a gweithdrefnau diogelwch yn rheolaidd
- gwneud yn siŵr bod lefelau eich cymhwysedd wrth gynnal archwiliadau glanhau yn gyfredol
- hyfforddi er mwyn safoni'r methodolegau archwilio yn rheolaidd
- adolygu eich cymhwysedd proffesiynol wrth gynnal asesiadau archwilio ac ymgymryd â'r holl hyfforddiant perthnasol, lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- safonau glendid eich sefydliad
- lefelau eich cymhwysedd mewn safonau glendid ac archwiliadau glanhau
- sut i baratoi ar gyfer yr archwiliad glendid a beth mae'n ei gynnwys
- y rhesymau dros gynnal archwiliad a'i nodau
- mynediad at y mannau i'w harchwilio
- yr ystod o leoliadau a chanlyniadau glanhau i'w harchwilio
- sut i samplu'r meysydd ar gyfer dilysu neu weithdrefnau gwaith ar gyfer archwilio
- y categorïau risg ar gyfer cynnal yr archwiliad
- pa mor aml y cynhelir archwiliadau mewn perthynas â risgiau
- paramedrau'r systemau sgorio, pasio a methu ar gyfer cynnal yr archwiliad
- y mathau o gwestiynau ar gyfer yr asesiad
- y dull gweithredu ar gyfer cynnal yr archwiliad
- sut i gynnal archwiliad gweledol o'r mannau sy'n cael eu glanhau
- ystod y cyfarpar, technolegau a'r mathau o brofion ar gyfer cynnal yr archwiliad
- pam mae'n bwysig cael yr adroddiadau archwilio wedi'u llofnodi a'u stampio gydag amser a dyddiad
- y mathau o adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cofnodi canlyniadau'r archwiliad
- yr aelod staff perthnasol i lofnodi'r archwiliad
- sut mae canlyniadau'r archwiliad yn cael eu coladu
- egwyddorion dadansoddi data a pham y gallai fod angen data meincnodi
- sut mae dadansoddi'r canlyniadau a nodi'r mannau i roi sylw iddynt
- y camau a'r hyfforddiant perthnasol y gallai fod eu hangen o ganlyniad i'r dadansoddiad
- pam mae'n rhaid monitro ansawdd safonau glanhau yn rheolaidd
- manteision cynnal yr archwiliad glendid
- pwysigrwydd safoni'r methodolegau archwilio
- sut i wella ansawdd y glendid a'r gweithdrefnau gwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
N/A
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau
Cod SOC
9223
Geiriau Allweddol
cefnogaeth, staff, hyfforddiant, gweithwyr glanhau, haint, goruchwylio, archwilio, safonau glendid, glanhau