Rhoi canllawiau, adnoddau a chymorth rheoli i staff er mwyn lleihau'r risg o haint
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â rheoli a goruchwylio ym maes glanhau. Mae’n ymwneud â rhoi canllawiau, adnoddau a chymorth rheoli i staff er mwyn lleihau'r risg o haint. Mae ar gyfer goruchwylwyr yn y diwydiant glanhau sydd angen gwneud yn siŵr bod yr hyfforddiant gofynnol yn cael ei ddarparu i staff glanhau i'w galluogi i leihau'r risg o gaffael a lledaenu haint. Mae'n berthnasol ar gyfer yr holl staff glanhau mewn unrhyw feysydd lle mae'r risg o haint yn broblem.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yn siŵr bod systemau gwaith diogel a gofynion yn cael eu dilyn er mwyn diogelu staff glanhau
- monitro iechyd a lles staff mewn perthynas â feirysau a heintiau
- hyfforddi eich staff mewn gweithdrefnau manwl o ran glanhau a rheoli heintiau, lle bo angen
- darparu'r cyfarpar a'r cynhyrchion diogelu perthnasol i staff glanhau
- gwneud yn siŵr bod cyfarpar diogelu yn cael ei wisgo bob amser wrth lanhau ac yn cael ei ailddefnyddio neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch sefydliadol
- dilyn gofynion rheoli risg ffurfiol eich sefydliad cyn mynd i mewn i'r gweithle
- cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
- dilyn gofynion sefydliadol mewn perthynas â heintiau staff a amheuir neu a gadarnhawyd
- dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
- gwneud yn siŵr bod cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol ar gael
- gwneud yn siŵr bod gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer llygredd feirws a amheuir neu a gadarnhawyd yn cael eu dilyn
- gwneud yn siŵr bod y cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddir yn cael ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodol
- golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
- gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
- mabwysiadu a chymhwyso'r polisïau a'r canllawiau perthnasol ar reoli heintiau sy'n berthnasol i'ch sefydliad
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch staff glanhau am y polisïau a'r canllawiau perthnasol ar reoli heintiau
- trefnu hyfforddiant ymsefydlu a diweddariad pellach i wneud yn siŵr bod eich staff yn dilyn arferion gwaith diogel
- gwneud yn siŵr bod rheoli heintiau yn rhan annatod o drefn waith yr holl weithwyr
- gwneud yn siŵr bod gweithwyr yn cael yr holl frechiadau gofynnol a'u bod yn cael gwasanaethau iechyd galwedigaethol i leihau'r risgiau o haint wrth weithio
- monitro, archwilio a rhoi adborth ar arferion staff mewn cysylltiad â rheoli heintiau
- monitro'r adnoddau, y cyfarpar a'r agweddau amgylcheddol perthnasol a allai effeithio ar arferion wrth reoli heintiau
- ymchwilio i achosion problemau a gyflwynir a chychwyn camau adfer prydlon, lle bo'n briodol
- adolygu'r holl ddigwyddiadau andwyol a gofnodwyd a allai achosi risg o haint yn ogystal â chymryd cama mewn modd amserol i gael gwared ar y problemau
- dadansoddi pob achos o ddigwyddiadau andwyol a gofnodwyd er mwyn nodi tueddiadau, problemau rheolaidd a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw
- hysbysu'r aelod staff perthnasol os oes angen cymorth adferol ar gyfer rheoli'r haint
- gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth berthnasol am reoli heintiau yn cael ei harddangos yn glir ym mhob rhan o safle eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Deddfwriaeth a pholisi
1. y safon bresennol ar gyfer rheoli heintiau a rhagofalon, a'r ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol sy'n gysylltiedig â hyn
2. y rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol
3. y rheoliadau perthnasol sy'n ymwneud â sylweddau sy'n beryglus i iechyd
Gwybodaeth dechnegol
4. y ffeithiau am y gadwyn heintio
5. y dadansoddiad o'r achos sylfaenol mewn cysylltiad â rheoli heintiau
6. sut i wneud yn siŵr bod risgiau haint yn cael eu hasesu yn eich meysydd gweithgarwch
7. pa gamau i'w cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl gweithdrefn i leihau'r risgiau o haint
8. yr imiwneiddiadau perthnasol sy'n gallu diogelu rhag haint yn y gwaith
9. sut i gyfeirio staff at gyngor iechyd galwedigaethol
10. y cyfleusterau dynodedig ar gyfer cadw dwylo'n lân
11. y cyfleusterau dynodedig ar gyfer rhoi cymorth cyntaf
12. y mathau o gyfarpar diogelu sydd eu hangen ar eich staff
13. ymwybyddiaeth o alergedd cudd a gweithdrefnau eich sefydliad o dan darparu menig di-latecs
Gweithdrefnau sefydliadol
14. systemau gwaith diogel eich sefydliad a'r gofynion ar gyfer diogelu staff glanhau
15. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro iechyd a lles staff mewn perthynas â feirysau a heintiau
16. hyfforddiant eich sefydliad mewn gweithdrefnau manwl o ran glanhau a rheoli heintiau
17. y cyfarpar a'r cynhyrchion diogelu perthnasol sydd eu hangen ar gyfer y swydd
18. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
19. gofynion sefydliadol i leihau'r risg o haint wrth deithio i safle a gweithio yno
20. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
21. egwyddorion asesu risg ffurfiol eich sefydliad cyn mynd i mewn i'r gweithle
22. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
23. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
24. sut i weithredu gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirws a amheuir neu a gadarnhawyd
25. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
26. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
27. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
28. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
29. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu
30. y technegau perthnasol er mwyn mabwysiadu a chymhwyso polisïau a chanllawiau eich sefydliad ar reoli heintiau
31. y mecanwaith i roi hyfforddiant ymsefydlu a diweddariadau pellach i'ch gweithwyr
32. sut i gaffael y cyfarpar diogelu a beth i'w wneud gyda chyfarpar sydd wedi'i ddefnyddio
33. y cyflenwadau a'r cyfleusterau perthnasol i alluogi staff i roi'r camau safonol y cytunwyd arnynt ar waith er mwyn rheoli ac atal heintiau
34. sut i fonitro arferion gwaith staff a chymryd camau i gynnal y safonau hylendid gofynnol
35. rolau a chyfrifoldebau eich gweithwyr o ran rheoli heintiau
36. sut i gadw'r cofnodion sy'n ofynnol yn eich maes gweithgarwch
37. y mecanweithiau perthnasol ar gyfer cofnodi unrhyw ddamweiniau a digwyddiadau er mwyn gwneud yn siŵr bod camau'n cael eu cymryd i gael gwared ar broblemau
38. pryd a sut i roi gwybod am faterion sydd y tu allan i gwmpas eich cyfrifoldebau