Goruchwylio gwaith staff glanhau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â rheoli a goruchwylio ym maes glanhau. Mae'n ymwneud â goruchwylio gwaith staff glanhau. Mae ar gyfer goruchwylwyr yn y diwydiant glanhau. Mae'n mynd i'r afael â goruchwylio gwaith tîm glanhau a lefelau eich cyfrifoldeb wrth reoli staff. Gallai'r tîm yn yr achos hwn fod yn ddau neu fwy o bobl yr ydych yn eu goruchwylio'n barhaol, neu'n staff yr ydych yn eu goruchwylio dros dro. Mae cynllunio a chydlynu gwaith staff yn hanfodol er mwyn i'r busnes allu rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon.
Rydych yn gweithio gyda'ch staff bob dydd a gallwch wneud cyfraniad enfawr i'r broses hon. Rydych yn helpu'r busnes i drefnu gwaith y staff, gan gyflawni'r safonau glanhau uchaf drwy wneud y defnydd gorau o'u sgiliau. Rydych hefyd yn gwneud yn siŵr bod eich staff yn ddiogel, yn cael eu diogelu rhag feirysau a heintiau posibl ac yn monitro eu lles yn rheolaidd. Byddwch yn arsylwi eu gwaith, gan wneud yn siŵr eu bod yn gwneud eu gwaith fel y cynlluniwyd, ac yn eu helpu gydag unrhyw broblemau pan maent yn codi. Mae gennych rôl bwysig hefyd o ran rhoi adborth i staff ar eu gwaith a'u cymell i gyflawni'r canlyniadau y mae cwsmeriaid yn eu disgwyl.
Gallai eich gweithgareddau dyddiol nodweddiadol gynnwys:
- Paratoi a mesurau diogelu cyn glanhau.
- Gwneud yn siŵr bod y risg o haint yn cael ei reoli.
- Briffio eich staff ar eu dyletswyddau a gwirio eu lles.
- Cael syniadau gan aelodau eich tîm am y ffordd orau o drefnu gwaith glanhau.
- Trefnu llwyth gwaith eich tîm - er enghraifft, llunio rotâu staff.
- Newid eich cynlluniau i ystyried amgylchiadau sy'n newid, er enghraifft, pan nad yw staff yn dod i weithio fel y cynlluniwyd neu mynd i'r afael ag achosion a amheuir o haint.
- Arsylwi eich staff yn gwneud eu gwaith.
- Hysbysu eich staff a rhoi adborth iddynt ar ansawdd eu gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith diogel a gofynion yn cael eu dilyn er mwyn diogelu staff glanhau
2. monitro iechyd a lles staff mewn perthynas â feirysau a heintiau
3. hyfforddi eich staff mewn gweithdrefnau manwl o ran glanhau a rheoli heintiau, lle bo angen
4. darparu'r cyfarpar a'r cynhyrchion diogelu perthnasol i staff glanhau
5. gwneud yn siŵr bod cyfarpar diogelu yn cael ei wisgo bob amser wrth lanhau ac yn cael ei ailddefnyddio neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch sefydliadol
6. dilyn gofynion rheoli risg ffurfiol eich sefydliad cyn mynd i mewn i'r gweithle
7. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
8. dilyn gofynion sefydliadol mewn perthynas â heintiau staff a amheuir neu a gadarnhawyd
Rheoli'r risg o haint
9. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
10. gwneud yn siŵr bod y gweithdrefnau glanhau yn cael eu dilyn gan ddibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
11. gwneud yn siŵr bod gwaith glanhau'n cael ei wneud yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
12. darparu cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol i staff glanhau
13. gwneud yn siŵr bod y cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddir yn cael ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodol
14. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
15. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Goruchwylio staff glanhau ac amserlennu'r llwyth gwaith
16. nodi'r defnydd gorau o adnoddau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
17. paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer pethau a allai fynd o chwith
18. casglu gwybodaeth gan y cwsmer am y gwaith y mae'n rhaid i chi ei gynllunio
19. nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni a'r adnoddau fydd ar gael
20. gwirio eich cynlluniau gyda'r cwsmer a chael eu hadborth er mwyn gwella safonau gwaith
21. hysbysu eich staff am eich cynlluniau a gwnewch yn siŵr eu bod yn deall yr hyn yr ydych am iddynt ei wneud
22. diweddaru eich cynlluniau i ystyried unrhyw newidiadau yn y gofynion neu'r adnoddau
23. cytuno ag aelodau'r tîm ynghylch sut i rannu'r tasgau er mwyn cwblhau'r gwaith a drefnwyd
24. dyrannu'r tasgau yn y rhaglen waith a gwneud yn siŵr bod y gwaith gofynnol yn cael ei gwblhau
25. dangos i aelodau'r tîm sut i gyflawni unrhyw dasgau yn unol â'ch gwybodaeth, sgiliau a'ch cyfrifoldebau
26. ateb unrhyw gwestiynau a chynorthwyo aelodau staff gyda'u gofynion neu ymholiadau
27. mynd i'r afael ag unrhyw anghytundeb gydag aelodau'r tîm a'i ddatrys yn unol â gweithdrefnau polisi eich sefydliad
28. cofnodi unrhyw doriadau, difrod neu darfu yn y gwaith a hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt
29. coladu unrhyw dasgau sydd heb eu cwblhau a chytuno ar drefniadau ar gyfer cwblhau'r gwaith
30. cyfathrebu â chwsmeriaid a'ch cydweithwyr mewn modd proffesiynol a rhoi unrhyw wybodaeth berthnasol pan fo angen
Cydlynu a monitro gwaith staff glanhau
31. gwirio ansawdd gwaith eich staff a'i fonitro'n rheolaidd
32. gwneud yn siŵr bod eu gwaith yn bodloni'r gofynion y cytunwyd arnynt
33. rhoi'r cymorth a'r hyfforddiant perthnasol sydd eu hangen ar staff
34. achosi cyn lleied o darfu â phosibl wrth fonitro staff
35. ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n digwydd o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
Rhoi adborth i staff glanhau ar eu gwaith
36. cyfathrebu â staff mewn modd sy'n ceisio cynnal perfformiad a'i wella
37. rhoi adborth clir a gwrthrychol i staff
38. canmol cyflawniadau eich staff
39. rhoi awgrymiadau adeiladol ac anogaeth i'ch staff i wella eu gwaith
40. trin eich staff â pharch wrth roi adborth iddynt
41. cadw'r holl adborth yn gyfrinachol
42. rhoi cyfleoedd i staff ymateb i'ch adborth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. systemau gwaith diogel eich sefydliad a'r gofynion ar gyfer diogelu staff glanhau
2. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro iechyd a lles staff mewn perthynas â feirysau a heintiau
3. hyfforddiant eich sefydliad mewn gweithdrefnau manwl o ran glanhau a rheoli heintiau
4. y cyfarpar a'r cynhyrchion diogelu perthnasol sydd eu hangen ar gyfer y swydd
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. gofynion eich sefydliad i leihau'r risg o haint wrth deithio i safle a gweithio yno
7. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
8. egwyddorion asesu risg ffurfiol eich sefydliad cyn mynd i mewn i'r gweithle
Rheoli'r risg o haint
9. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
10. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
11. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
12. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
13. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol ar gyfer staff glanhau
14. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
15. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
16. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu
Goruchwylio staff glanhau ac amserlennu'r llwyth gwaith
17. pwysigrwydd goruchwylio gwaith eich staff fel eu bod yn gwneud gwaith fel y trefnwyd
18. y meysydd deddfwriaeth perthnasol o ran cyflogaeth ac iechyd a diogelwch
19. terfynau eich cyfrifoldeb o ran goruchwylio staff eraill
20. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer goruchwylio gwaith eich staff
21. pwysigrwydd deall gofynion gwaith glanhau
22. pwysigrwydd gwybod am yr adnoddau sydd ar gael ar eich cyfer
23. sut i nodi'r gofynion ar gyfer darn o waith a'r adnoddau sydd ar gael ar eich cyfer
24. sut i gynllunio llwyth gwaith, rotâu staff ac amserlenni
25. sut i hysbysu eich staff am eich cynlluniau ar gyfer eu gwaith
26. sut i gyfathrebu ag aelodau'r tîm er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gweithdrefnau a'r arferion dynodedig yn y gweithle
27. y tasgau i'w dyrannu ymysg aelodau eich tîm
28. cwmpas eich gwybodaeth, sgiliau a chyfrifoldebau wrth hyfforddi eich cydweithwyr ynghylch y tasgau newydd
29. pwysigrwydd cynlluniau wrth gefn a sut i ddatblygu hyn
30. sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau a sgiliau staff
31. pwysigrwydd ymgynghori â chwsmeriaid ynghylch y cynlluniau gwaith
32. y mathau o gyfyngiadau sefydliadol a allai effeithio ar eich cynlluniau
33. pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod eich staff yn deall eich cynlluniau ar gyfer eu gwaith
34. y mathau o sefyllfaoedd a allai olygu bod angen i chi ddiweddaru eich cynlluniau
35. eich meysydd gwaith lle gallwch oruchwylio eich cydweithwyr
36. y problemau sy'n codi yn y gweithle sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch
37. sut i fynd i'r afael ag anghytundebau a'u datrys yn unol â gweithdrefnau polisi eich sefydliad
38. sut i goladu unrhyw gofnodion am doriadau, difrod neu aflonyddwch yn y gwaith
39. y gweithdrefnau ar gyfer gweithredu unrhyw dasgau sydd heb eu cwblhau a threfniadau i gwblhau'r gwaith
40. sut i gyfathrebu â chwsmeriaid ac aelodau'r tîm a rhoi unrhyw wybodaeth berthnasol pan fo angen
Cydlynu a monitro gwaith staff glanhau
41. pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod staff yn bodloni'r gofynion y cytunwyd arnynt ar gyfer eu gwaith
42. sut i wirio gwaith staff heb darfu arnynt
43. y mathau o gymorth a hyfforddiant y gallai fod eu hangen ar staff a sut i'w darparu
44. y mathau o broblemau a allai godi a sut i'w datrys
Rhoi adborth i staff ar eu gwaith
45. sut i gyfathrebu â'ch staff er mwyn cynnal y perfformiad a'i wella
46. pwysigrwydd rhoi adborth i staff a gwneud yn siŵr ei fod yn glir ac yn wrthrychol
47. sut i ddewis amser ar gyfer rhoi eich adborth i staff
48. pwysigrwydd canmol cyflawniadau staff
49. pwysigrwydd nodi meysydd gwaith lle gallai staff wella eu perfformiad
50. sut i roi awgrymiadau adeiladol ac anogaeth i staff
51. pam mae'n bwysig trin eich staff â pharch wrth roi adborth
52. egwyddorion cyfrinachedd wrth roi adborth - pa bobl ddylai gael darnau penodol o wybodaeth
53. sut i ysgogi staff ac ennill eu hymrwymiad drwy roi adborth