Cyfrannu at weithredu systemau glanhau ac arferion gwaith gorau
URN: INSC019
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
23 Rhag 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â bod yn ecogyfeillgar a chynnal cynaliadwyedd. Mae’n ymwneud â chyfrannu at weithredu systemau glanhau ac arferion gwaith gorau Mae ar gyfer goruchwylwyr glanhau sydd gorfod gwneud yn siŵr bod y systemau glanhau yn cyd-fynd â gweithdrefnau eich sefydliad. Mae'n ymwneud â gwybod beth yw arferion gwaith gorau o ran glanhau a helpu i sefydlu systemau a dulliau sy'n cefnogi hyn. Mae hefyd yn ymwneud â'r meysydd hynny y mae gennych rwymedigaeth statudol ar eu cyfer fel iechyd a diogelwch a phenderfyniadau eraill ynglŷn â'r amgylchedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yn siŵr bod systemau gwaith diogel a gofynion yn cael eu dilyn er mwyn diogelu staff glanhau
- monitro iechyd a lles staff mewn perthynas â feirysau a heintiau
- hyfforddi eich staff mewn gweithdrefnau manwl o ran glanhau a rheoli heintiau, lle bo angen
- nodi'r ffactorau i'w hystyried wrth weithredu arferion gwaith gorau wrth lanhau
- darparu'r cyfarpar a'r cynhyrchion diogelu perthnasol i staff glanhau
- gwneud yn siŵr bod cyfarpar diogelu yn cael ei wisgo bob amser wrth lanhau ac yn cael ei ailddefnyddio neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch sefydliadol
- dilyn gofynion rheoli risg ffurfiol eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i'r gweithle a'i adael
- cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
- dilyn gofynion sefydliadol mewn perthynas â heintiau staff a amheuir neu a gadarnhawyd
- dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
- gwneud yn siŵr bod y gweithdrefnau glanhau yn cael eu dilyn gan ddibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
- darparu cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
- gwneud yn siŵr bod cyfarpar glanhau tafladwy yn cael eu defnyddio
- gwneud yn siŵr bod y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd yn cael eu dilyn
- gwneud yn siŵr bod y cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddir yn cael ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodol
- gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
- datblygu a sefydlu systemau er mwyn glanhau'n effeithiol mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu gofynion cyfreithiol ac arferion gwaith gorau
- cynghori staff am systemau a gweithdrefnau newydd y mae angen eu gweithredu
- gwneud yn siŵr bod systemau a gweithdrefnau'n cael eu monitro'n barhaus er mwyn nodi meysydd i'w gwella
- gwerthuso'r systemau a'r prosesau sydd ar waith ac adolygu'r rhain yn rheolaidd
- rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am eich canfyddiadau
- cymryd camau priodol ar weithredu'r arferion gwaith gorau wrth lanhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- systemau gwaith diogel eich sefydliad a'r gofynion ar gyfer diogelu staff glanhau
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro iechyd a lles staff mewn perthynas â feirysau a heintiau
- hyfforddiant eich sefydliad mewn gweithdrefnau manwl o ran glanhau a rheoli heintiau
- darparu cyfarpar a chynhyrchion diogelu perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer y swydd
- yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
- gofynion eich sefydliad i leihau'r risg o haint wrth deithio i safle a gweithio yno
- y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
- egwyddorion asesu risg ffurfiol eich sefydliad cyn mynd i mewn i'r gweithle
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint a sut i fonitro'r rhain
- y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
- sut i wneud yn siŵr bod y gweithdrefnau glanhau yn cael eu dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
- hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu
- y systemau perthnasol ar gyfer glanhau'n effeithiol
- y mathau o ffactorau a allai ddylanwadu ar weithredu systemau glanhau
- sut i roi'r wybodaeth i'ch staff am systemau a phrosesau i'w dilyn
- y gweithdrefnau ar gyfer nodi'r meysydd i'w gwella
- pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod systemau a gweithdrefnau'n cael eu monitro
- i bwy y dylech roi gwybod am eich canfyddiadau
- dulliau gwerthuso a gweithredu'r systemau a'r gweithdrefnau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTC302
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau
Cod SOC
9223
Geiriau Allweddol
cyfrannu, gweithredu, systemau, arferion, gweithdrefnau, glanhau, yr amgylchedd