Glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog. Rhaid ymgymryd â'r gwaith hwn yn ofalus er mwyn peidio ag achosi difrod damweiniol fel tolciau, crafiadau a marciau eraill. Mae llawer o arwynebau allanol yn edrych yn sgleiniog; felly, mae'n bwysig bod yr arwynebau'n cael eu gadael yn sych ar ôl gorffen glanhau ac nad oes unrhyw staeniau a gweddillion glanhau. Gall y term gwydrog gyfeirio at arwynebau allanol hynod sgleiniog e.e. marmor neu gladin. Mae'n rhaid i chi fod wedi'ch hyfforddi'n llawn ac yn gymwys i ddefnyddio'r mathau perthnasol o gyfarpar mynediad, megis ysgolion a nenbontydd cludadwy, llwyfannau gweithio uchel symudol (MEWPs), cyfarpar mynediad crog (SAE), crudau a mynediad â rhaffau. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn gwisgo cyfarpar atal cwympo, cyfarpar rhwystro rhag cwympo a dillad llachar. Dylai'r mathau hyn o gyfarpar a ddefnyddir gydymffurfio â safonau perthnasol. Mae'n bwysig asesu'r risgiau i chi eich hun, aelodau'r tîm a'r cyhoedd. Rhaid i chi ddefnyddio cyfarpar yn ddiogel gan leihau'r risg i chi'ch hun, aelodau'r tîm a'r cyhoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn y systemau ymarfer gwaith diogel y cytunwyd arnynt
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar atal cwympo, cyfarpar rhwystro rhag cwympo a dillad llachar wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu personol neu ei ailddefnyddio
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
Rheoli'r risg o haint
9. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
10. defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV), lle bo'n ofynnol
11. defnyddio bywleiddiaid yn ddiogel ac yn unol â gofynion y gwneuthurwr a'r sefydliad
12. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd, y tywydd a'r risgiau a nodwyd
13. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
14. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
15. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
Paratoi i lanhau arwynebau a ffasadau gwydrog
16. gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau diogelwch ar gyfer gwneud y gwaith
17. gwneud yn siŵr bod unrhyw hyfforddiant ar gyfer safle penodol yn cael ei ddarparu gan berchennog yr adeilad neu eich sefydliad
18. asesu a oes angen gweithio mewn mannau uchel
19. dewis y cyfarpar mynediad perthnasol ac offer yn unol â'r math o waith glanhau
20. gwneud yn siŵr eich bod wedi cael cyfarwyddiadau ar gyfer safle penodol ynglŷn â chael mynediad at y cyfarpar yn ddiogel
21. cynnal gwiriad gweledol o gyfarpar mynediad ac offer, ei archwilio a'i brofi cyn ei ddefnyddio
22. cadarnhau gweithdrefnau brys ar gyfer gweithio ar y safle
23. dewis ac arddangos yr arwyddion priodol cyn dechrau glanhau
24. nodi a bod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau posibl fel llinellau pŵer rhydd, sy'n hongian drosodd ac yn ymwthio allan
25. gwneud yn siŵr bod yr holl offer diogelwch yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau, gan gynnwys mesurau i atal offer rhag syrthio i'r llawr
26. cymryd rhagofalon i wneud yn siŵr nad yw'r cerbyd sy'n cario'r systemau glanhau yn cael ei orlwytho
27. cymryd camau priodol i leihau risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio ar offer mynediad
Glanhau arwynebau gwydrog a ffasadau
28. archwilio'r arwyneb am unrhyw ddiffygion cyn eu glanhau a hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt
29. gwneud yn siŵr bod yr holl ffenestri ac agoriadau ar gau yn ddiogel cyn glanhau
30. cael gwared ar unrhyw lwch a thrin arwynebau cyn rhoi unrhyw gynhyrchion glanhau ar waith i feddalu baw dwfn
31. cadw at ddulliau a chyfarpar cymeradwy'r cwsmer neu eich sefydliad ar gyfer glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog
32. cynnal gweithrediadau glanhau drwy ddefnyddio cyfarpar a thechnegau cymeradwy fydd yn lleihau'r risg o gwympo, llithro, baglu, straen personol ac anaf
33. gweithredu cyfarpar glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau eich sefydliad
34. osgoi gwneud y man gwaith yn rhy wlyb er mwyn atal gollyngiadau neu ddiferion rhag mynd i mewn
35. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw arwynebau oedd wedi'u difrodi'n flaenorol ond heb eu nodi
36. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddifrod damweiniol a achoswyd o ganlyniad i lanhau
37. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad neu eich cwsmer os bydd nam neu sefyllfaoedd brys eraill
Glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog yn llwyr ac ailosod y man gwaith.
38. cael gwared ar ddŵr dros ben oddi ar arwynebau, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw staeniau a gweddillion glanhau
39. gwneud yn siŵr bod yr holl arwynebau'n sych ar ôl gorffen glanhau
40. rhoi unrhyw driniaethau neu haenau amddiffynnol ar arwynebau ar ôl glanhau
41. gwneud yn siŵr nad oes unrhyw weddillion glanhau ar ategolion, ffitiadau, fframiau a / neu ddodrefn fel dolenni a chaeadau
42. ailosod y man gwaith fel yr oedd yn y lle cyntaf ar ôl gorffen glanhau
43. gwaredu gwastraff yn unol â pholisïau'r cwsmer neu'ch sefydliad
44. gwneud yn siŵr bod yr holl gyfarpar glanhau a pheiriannau yn lân, yn gweithio ac yn sych ar ôl cwblhau'r gwaith
45. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw gyfarpar neu beiriannau diffygiol
46. dychwelyd yr holl gyfarpar i'r man dynodedig, gan wneud yn siŵr ei fod yn cael ei storio'n ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r systemau arferion gwaith diogel y cytunwyd arnynt
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r dulliau rheoli heintiau
5. y cyfarpar atal cwympo, y cyfarpar rhwystro rhag cwympo a'r dillad llachar.
6. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
7. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
8. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
Rheoli'r risg o haint
9. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
10. sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).
11. y defnydd o fioleiddiaid a'r hyfforddiant gofynnol ar ei gyfer
12. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
13. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd, y tywydd a'r risgiau a nodir
14. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
15. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
Paratoi i lanhau arwynebau a ffasadau gwydrog
16. cyfarwyddiadau a gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad ar gyfer cyflawni'r gwaith
17. yr arwyddion priodol i'w harddangos a'r rhesymau dros wneud hynny
18. y cymwysterau neu'r hyfforddiant perthnasol i ddefnyddio'r offer mynediad
19. y cyfarpar a'r offer mynediad perthnasol yn dibynnu ar y math o waith glanhau, gan gynnwys gweithio mewn mannau uchel
20. y cyfarwyddiadau ar gyfer safle penodol ynglŷn â chael mynediad diogel at yr offer
21. pwysigrwydd gwiriadau gweledol, profi ac archwilio'r cyfarpar a'r offer mynediad cyn ei ddefnyddio
22. y gweithdrefnau brys ar gyfer gweithio ar y safle
23. sut i fod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau posibl
24. sut i gynnal asesiad risg a pham mae'n bwysig ymweld â'r safle
25. pam mae'n bwysig cadw at y gweithdrefnau gweithio ar gyfer y gwaith glanhau
26. y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio'r offer a'r cyfarpar mynediad
27. y cam ataliol i atal offer rhag syrthio i'r llawr
28. y gweithdrefnau diogelwch wrth ddefnyddio cerbydau a pham mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad yw'r cerbyd yn cael ei orlwytho
Glanhau arwynebau gwydrog a ffasadau
29. sut i archwilio'r arwyneb ar gyfer ei lanhau
30. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion a pham mae'n bwysig gwneud hyn
31. pam y dylai cyfarpar glanhau fod yn lân, yn gweithio a heb unrhyw weddillion cyn dechrau gweithio
32. pam y dylai ffenestri ac agoriadau gael eu cau cyn dechrau glanhau a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwneud hynny
33. yr arwyddion perthnasol yn y man gweithio cyn glanhau
34. manteision trin arwynebau cyn defnyddio unrhyw gynhyrchion glanhau
35. dulliau cymeradwy'r cwsmer neu'ch sefydliad ar gyfer glanhau arwynebau a'r cyfarpar priodol i'w ddefnyddio
36. y technegau ar gyfer osgoi peryglon cwympo, llithro a baglu, straen personol ac anaf
37. ble i ddod o hyd i gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer defnyddio cyfarpar a / neu beiriannau
38. gweithdrefnau'r cwsmer a'ch sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion ac argyfyngau
39. pam mae'n bwysig hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddifrod damweiniol a achoswyd o ganlyniad i lanhau
Glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog yn llwyr ac ailosod y man gwaith.
40. y technegau ar gyfer cael gwared â gormod o ddŵr a'r cyfarpar priodol i'w ddefnyddio
41. y triniaethau perthnasol i'w rhoi ar arwynebau ar ôl gorffen glanhau
42. pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad oes unrhyw staeniau neu weddillion glanhau ar ategolion, ffitiadau a dodrefn ar ôl gorffen glanhau
43. sut i ailosod y man gwaith fel yr oedd yn edrych yn y lle cyntaf a pham y dylech wneud hyn
44. gweithdrefnau eich sefydliad neu'ch cwsmer ar gyfer gwaredu gwastraff
45. pam y dylai cyfarpar a pheiriannau glanhau gael eu glanhau a'u sychu a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith a sut i fynd ati i wneud hyn
46. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion gyda chyfarpar a pheiriannau
47. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer storio cyfarpar a pheiriannau glanhau a lle caiff y rhain eu cadw