Glanhau strydoedd drwy ddefnyddio cyfarpar a weithredir â llaw
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau strydoedd â llaw gan ddefnyddio cyfarpar a weithredir â llaw. Mae ar gyfer glanhawyr sy'n symud sbwriel a malurion o fannau cyhoeddus gan gynnwys tiroedd, strydoedd, palmentydd, ardaloedd i gerddwyr a meysydd parcio. Mae'n cynnwys nodi'r gwastraff a dilyn gweithdrefnau cyfredol eich sefydliad er mwyn cael gwared ag unrhyw sbwriel a allai beri risg i iechyd a diogelwch. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr, pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith, nad oes sbwriel yn yr ardal a bod detritws wedi'u symud lle bo hynny'n ymarferol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
Rheoli'r risg o haint
10. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
11. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
12. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
13. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
14. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
15. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
Cael gwared ar sbwriel a detritws o'r ardal
16. gwneud yn siŵr bod gennych gyfarwyddiadau eich sefydliad a'ch bod yn ymwybodol o weithdrefnau diogelwch ar gyfer cyflawni'r gwaith
17. gwneud yn siŵr bod cyfarpar diogelu yn cael ei ddarparu a'i wisgo yn ystod y gwaith glanhau
18. cadarnhau'r man i'w lanhau
19. dewis y cyfarpar a'r dulliau glanhau sy'n addas ar gyfer casglu'r sbwriel a'r detritws a chlirio'r arwyneb
20. defnyddio'r dulliau y cytunwyd arnynt ar gyfer symud y sbwriel oddi ar arwyneb y ddaear
21. gwneud yn siŵr bod unrhyw gyfarpar symudol yn ddiogel er mwyn atal y risg o anaf i chi eich hun a'r cyhoedd
22. nodi'r math o sbwriel a'r gwastraff i'w gasglu a chadw at y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer eu symud
23. didoli sbwriel a'i roi yn y cynwysyddion dynodedig, lle bo angen
24. clirio cymaint o detritws a malurion ag y gallwch o fewn yr amodau gwaith
25. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad os byddwch chi'n dod ar draws eitemau, detritws neu falurion sy'n beryglus neu'n peri risg i iechyd yn ôl pob golwg
Cynnal mannau casglu gwastraff
26. cadarnhau nifer y cynwysyddion y mae'n rhaid i chi eu gwagio a'u lleoliad
27. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad os dewch o hyd i gynwysyddion sydd â mathau o sbwriel, detritws a malurion y mae angen triniaeth neu ddull trin arbenigol ar eu cyfer
28. dewis cyfarpar sy'n addas ar gyfer symud sbwriel, detritws a malurion o fewn eich amodau gwaith
29. defnyddio'r cyfarpar hwn yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol eich sefydliad
30. gwagio'r cynwysyddion yn gyfan gwbl a chael rhai eraill yn eu lle os oes angen
31. gwneud yn siŵr bod y man o amgylch y cynhwysydd yn lân ac yn daclus
32. mynd â'r detritws a'r malurion a gasglwyd i'r man casglu cywir
33. rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am unrhyw broblemau mewn modd amserol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
7. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
Rheoli'r risg o haint
10. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
11. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
12. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
13. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
14. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
15. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu
Cael gwared ar sbwriel a detritws o'r ardal
16. cyfarwyddiadau a gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad ar gyfer cyflawni'r gwaith
17. y ffactorau i'w hystyried wrth nodi sbwriel a gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am eitemau os ydych yn credu y gallent beri risg i iechyd a diogelwch
18. pam mae'n rhaid gwisgo cyfarpar diogelu wrth lanhau
19. â phwy i gysylltu os yw'r math o sbwriel, detritws neu falurion yn beryglus neu'n anniogel yn ôl pob golwg ac angen ei symud mewn modd arbenigol
20. y cyfarpar addas ar gyfer gwahanol ddulliau o waredu sbwriel
21. pam y dylech wneud yn siŵr bod cyfarpar symudol yn ddiogel a beth allai ddigwydd os byddwch yn methu â gwneud hynny
22. pam mae angen didoli sbwriel a'r cynwysyddion dynodedig i'w gwaredu
23. sut i waredu gwastraff swmpus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
24. y man dynodedig ar gyfer cynwysyddion sbwriel a sut i'w trosglwyddo'n ddiogel
25. pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad oes unrhyw sbwriel yn cael ei adael yn y man gwaith
26. sut i gynnal archwiliad gweledol o'r eitemau i'w gwaredu
Cynnal mannau casglu gwastraff
27. ble i ddod o hyd i wybodaeth am nifer y cynwysyddion gwastraff i'w gwagio a'u lleoliad
28. beth yw mathau annerbyniol a / neu anniogel o falurion a detritws a'r camau i'w cymryd i fynd i'r afael â hyn
29. y cyfarpar addas ar gyfer cael gwared â malurion a detritws a sut i'w weithredu'n ddiogel, yn unol â gofynion eich sefydliad
30. y gweithdrefnau ar gyfer gwagio cynwysyddion a sut i nodi pryd mae angen cael rhai newydd yn eu lle
31. y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am broblemau a phwy ddylai gael gwybod amdanynt