Glanhau ffenestri ac arwynebau ffasâd hynod sgleiniog eraill

URN: INSC014
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau ffenestri ac arwynebau ffasâd hynod sgleiniog eraill. Mae ar gyfer glanhawyr sy'n defnyddio gwahanol ddulliau glanhau i weddu i'r dasg: glanhau ffenestri traddodiadol, defnyddio polion sy'n cael eu bwydo â dŵr ac abseilio. Gallai'r arwynebau hefyd fod yn arwynebau gwydr eraill, neu'n laminadau, ffasadau, arwynebau hynod sgleiniog, fframweithiau, waliau llen, silffoedd ffenestri, ffasgiâu, cwteri neu gladin addurniadol. Mae'n rhaid i chi fod wedi'ch hyfforddi'n llawn ac yn gymwys i ddefnyddio'r mathau perthnasol o gyfarpar mynediad, megis ysgolion a nenbontydd cludadwy, llwyfannau gweithio uchel symudol (MEWPs), cyfarpar mynediad crog (SAE), crudau a mynediad â rhaffau. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn gwisgo cyfarpar atal cwympo, cyfarpar rhwystro rhag cwympo a dillad llachar. Dylai'r mathau hyn o gyfarpar a ddefnyddir gydymffurfio â safonau perthnasol. Mae'n bwysig asesu'r risgiau i chi eich hun, aelodau'r tîm a'r cyhoedd. Rhaid i chi ddefnyddio cyfarpar yn ddiogel gan leihau'r risg i chi'ch hun, aelodau'r tîm a'r cyhoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn y systemau ymarfer gwaith diogel y cytunwyd arnynt

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar atal cwympo, cyfarpar rhwystro rhag cwympo a dillad llachar wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu personol neu ei ailddefnyddio

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

Rheoli'r risg o haint

9.      dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

10.  defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV), lle bo'n ofynnol

11.  defnyddio bywleiddiaid yn ddiogel ac yn unol â gofynion y gwneuthurwr a'r sefydliad

12.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd, y tywydd a'r risgiau a nodwyd

13.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

14.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

15.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

Paratoi i lanhau'r ffenestri neu arwynebau hynod sgleiniog eraill

16.  gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau diogelwch ar gyfer gwneud y gwaith

17.  gwneud yn siŵr bod unrhyw hyfforddiant ar gyfer safle penodol yn cael ei ddarparu gan berchennog yr adeilad neu eich sefydliad

18.  archwilio mannau i'w glanhau, nodi a oes angen gweithio mewn mannau uchel

19.  dewis y cyfarpar mynediad perthnasol yn unol â'r math o waith glanhau

20.  gwneud yn siŵr eich bod wedi cael cyfarwyddiadau ar gyfer safle penodol ynglŷn â chael mynediad at y cyfarpar yn ddiogel

21.  cynnal gwiriad gweledol o offer mynediad, ei archwilio a'i brofi cyn ei ddefnyddio

22.  cadarnhau gweithdrefnau brys ar gyfer gweithio ar y safle

23.  dewis ac arddangos yr arwyddion priodol cyn dechrau glanhau

24.  nodi a bod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau posibl fel llinellau pŵer rhydd, sy'n hongian drosodd ac yn ymwthio allan

25.  gwneud yn siŵr bod yr holl offer diogelwch yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau, gan gynnwys mesurau i atal offer rhag syrthio i'r llawr

26.  cymryd rhagofalon i wneud yn siŵr nad yw'r cerbyd sy'n cario'r systemau glanhau yn cael ei orlwytho

27.  cymryd camau priodol i leihau risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio ar offer mynediad

Gweithredu cyfarpar glanhau ffenestri

28.  nodi'r offer a'r offer mynediad perthnasol ar gyfer gwneud y gwaith glanhau

29.  defnyddio'r technegau perthnasol ar gyfer trin â llaw wrth ddefnyddio chwistrellwyr bagiau cefn

30.  dewis cyfarpar glanhau telesgopig nad yw'n hirach na'r arwyneb i'w lanhau

31.  gwneud yn siŵr bod y dŵr sydd wedi'i ddistyllu neu ei ddad-ïoneiddio yn cael ei ddefnyddio fel nad oes staeniau neu stribynnau ar y ffenestri

32.  glanhau'r ffenestri neu arwynebau eraill hynod sgleiniog a mynd i'r afael â'r gwahanol fathau o faw

33.  gwneud yn siŵr bod cyswllt rheolaidd â'r aelod staff perthnasol pan mae'n gweithio ar ei ben ei hun

34.  dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, cyfarpar diffygiol ac wedi'u difrodi

35.  dilyn asesiad risg y sefydliad a datganiad dull (RAMS) ar gyfer glanhau ffenestri

Cynnal cyfarpar glanhau ffenestri

36.  gwneud yn siŵr bod y systemau tanciau, yr offer a'r cyfarpar mynediad yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol

37.  cymryd y camau perthnasol i atal cronni yn y tanc dŵr

38.  ailosod hidlwyr dŵr yn rheolaidd a dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer gwasanaethu

39.  draenio'r tanc a'r hidlwyr pan fydd y cyfarpar glanhau ffenestri wedi bod yn segur am gyfnod estynedig

40.  gwneud yn siŵr bod y cyfarpar glanhau yn cael ei storio mewn man dynodedig pan nad yw'n cael ei ddefnyddio

41.  cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol ar gyfer glanhau ffenestri


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r systemau arferion gwaith diogel y cytunwyd arnynt

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r dulliau rheoli heintiau

5.      y cyfarpar atal cwympo, y cyfarpar rhwystro rhag cwympo a'r dillad llachar.

6.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

7.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

8.      pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

Rheoli'r risg o haint

9.      gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

10.  sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).

11.  y defnydd o fioleiddiaid a'r hyfforddiant gofynnol ar ei gyfer

12.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

13.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd, y tywydd a'r risgiau a nodir

14.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

15.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

Paratoi i lanhau'r ffenestri neu arwynebau hynod sgleiniog eraill

16.  cyfarwyddiadau a gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad ar gyfer cyflawni'r gwaith

17.  yr arwyddion priodol i'w harddangos a'r rhesymau dros wneud hynny

18.  y cymwysterau neu'r hyfforddiant perthnasol i ddefnyddio'r offer mynediad

19.  sut i gynnal asesiad gweledol o'r mannau i'w glanhau

20.  yr offer mynediad perthnasol yn unol â'r math o waith glanhau, gan gynnwys gweithio mewn mannau uchel 

21.  y cyfarwyddiadau ar gyfer safle penodol ynglŷn â chael mynediad diogel at yr offer

22.  pwysigrwydd gwiriadau gweledol, profi ac archwilio'r offer mynediad cyn ei ddefnyddio

23.  y gweithdrefnau brys ar gyfer gweithio ar y safle

24.  sut i fod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau posibl

25.  sut i gynnal asesiad risg a pham mae'n bwysig ymweld â'r safle

26.  pam mae'n bwysig cadw at y gweithdrefnau gweithio ar gyfer y gwaith glanhau

27.  y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio'r offer a'r cyfarpar mynediad

28.  y cam ataliol i atal offer rhag syrthio i'r llawr

29.  y gweithdrefnau diogelwch wrth ddefnyddio cerbydau a pham mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad yw'r cerbyd yn cael ei orlwytho

Gweithredu cyfarpar glanhau ffenestri

30.  yr offer a'r cyfarpar mynediad perthnasol ar gyfer gwneud y gwaith glanhau

31.  pam na ddylid defnyddio cyfarpar diffygiol ac arwyddion o hyn

32.  pryd mae angen defnyddio system chwistrellu bag cefn a sut i'w defnyddio'n ddiogel

33.  y risgiau sy'n gysylltiedig â gweithredu cyfarpar glanhau ffenestri a sut gellir eu lleihau

34.  pam mae'n bwysig dewis cyfarpar telesgopig o'r hyd cywir

35.  y technegau trin perthnasol ar gyfer systemau cludadwy

36.  y gwahanol ddefnyddiau a ddefnyddir ar gyfer cyfarpar glanhau ffenestri a phryd mae angen eu defnyddio

37.  sut i lanhau'r ffenestri neu arwynebau hynod sgleiniog eraill a mynd i'r afael â'r gwahanol fathau o faw

38.  â phwy y dylid cadw mewn cysylltiad pan yn gweithio ar eich pen eich hun

39.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, cyfarpar diffygiol ac wedi'u difrodi

40.  yr asesiad risg sefydliadol a datganiad dull (RAMS) ar gyfer glanhau ffenestri

Cynnal cyfarpar glanhau ffenestri

41.  y ddeddfwriaeth berthnasol y dylai'r offer glanhau a'r cyfarpar mynediad gydymffurfio â hi

42.  pam mae'n bwysig cadw'r tanc dŵr yn lân ac nad oes cronni ynddo

43.  sut i ailosod hidlwyr dŵr a phryd mae angen gwneud hynny

44.  pam mae'n bwysig bod y system tanciau yn cael ei draenio a bod y cyfarpar yn cael eu storio yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

45.  sut i gynnal a chadw'r cyfarpar glanhau ffenestri sydd wedi bod yn segur am gyfnod estynedig

46.  y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer glanhau ffenestri


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC221

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

Glanhau, arwynebau sgleiniog, risgiau, cyfarpar diogelu personol