Glanhau lloriau meddal, carpedi a dodrefn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau lloriau meddal, carpedi a dodrefn. Mae ar gyfer glanhawyr sy'n tynnu staeniau ac yn rhoi triniaethau annibynnol ar garpedi a dodrefn meddal. Mae'r safon hon yn cynnwys ystod o ddulliau arbenigol gan gynnwys sugno sych, corddi deunydd trwchus, amsugno haen uchaf, echdynnu powdr sych, echdynnu dŵr, rhoi toddydd sych, defnyddio siampŵ, adlinio deunydd trwchus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
Rheoli'r risg o haint
10. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
11. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
12. archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
13. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
14. defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
15. defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau
16. dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
17. defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad
18. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
19. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
20. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
21. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Paratoi ar gyfer glanhau lloriau meddal, carpedi a dodrefn
22. gwneud yn siŵr bod lefel eich hylendid personol yn cwrdd â safonau eich sefydliad ac yn cael ei dilyn trwy gydol y broses lanhau
23. paratoi eich man gwaith a'ch cyfarpar er mwyn gallu glanhau yn ôl yr angen
24. gwneud yn siŵr bod y gwrthrychau sy'n rhwystro'r man gwaith yn cael eu symud yn ddiogel
25. nodi'r deunydd arwyneb cywir i'w drin driniaeth a phenderfynu ar y driniaeth fwyaf cywir
26. archwilio deunydd yr arwyneb i wneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer y driniaeth a gynlluniwyd o ystyried natur deunydd a'i fath, lleoliad, ffurf a faint o faeddu sydd arno
27. nodi a yw'r deunydd wyneb yn cadw ei liw ac yn gwrthsefyll crebachu
28. nodi arwynebau sydd wedi'u difrodi neu sy'n dirywio, a rhoi gwybod amdanynt
29. nodi unrhyw ffactorau fydd yn effeithio ar sut rydych chi'n glanhau deunydd yr arwyneb
30. nodi unrhyw safonau ychwanegol sy'n berthnasol i'r gwaith heblaw am gyfarwyddiadau eich goruchwyliwr, er enghraifft cyfarwyddiadau cwsmer mewn perthynas â'r deunydd yr ydych i'w drin
31. gwneud yn siŵr bod digon o awyru yn y man gwaith wrth lanhau'n ddwfn, ac er mwyn cynorthwyo unrhyw broses sychu
Gwneud yn siŵr bod lloriau meddal, carpedi a dodrefn yn aros yn lân.
32. cael gwared ar lwch a malurion rhydd cyn i chi gymhwyso'r cynnyrch glanhau neu'r driniaeth
33. meddalu baw a staeniau dwfn gyda'r cynnyrch neu'r toddiant perthnasol cyn ceisio cael gwared arnynt
34. defnyddio'r driniaeth yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a heb wneud yr arwyneb yn rhy wlyb na'i ddifrodi
35. archwilio'r man i'w drin a defnyddio rhagor o driniaeth os oes angen er mwyn cael gwared ar y staen yn ddiogel
36. gwneud yn siŵr bod gan arwynebau yn edrych yn wastad pan fyddwch wedi gorffen glanhau
37. gwneud yn siŵr nad yw'r deunydd yn rhy wlyb a heb faw dwfn ynddo pan fyddwch wedi gorffen glanhau
38. gwaredu gwastraff yn unol â chanllawiau'r gweithle
39. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw staeniau na allwch gael gwared arnynt
40. rhoi popeth yn ei ôl fel yr oedd yn wreiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
7. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
Rheoli'r risg o haint
10. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
11. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
12. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
13. y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
14. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
15. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
16. sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV), ac ymwybyddiaeth o allyriadau anwedd gweddillol ar ôl ei ddefnyddio
17. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
18. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
19. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu
Paratoi ar gyfer glanhau lloriau meddal, carpedi a dodrefn
20. lefel yr hylendid personol sydd ei hangen ar gyfer y man yr ydych yn ei lanhau a pham mae'n bwysig ei chynnal
21. sut i baratoi'r mannau gwaith a'r cyfarpar i'w ddefnyddio
22. sut i gael gwared ar wrthrychau rhwystrol yn ddiogel
23. y deunydd cywir ar gyfer trin yr arwyneb a'r driniaeth gywir i'w defnyddio
24. natur y deunydd i'w lanhau, ei fath, safle, ffurf a faint o faw sydd arno
25. sut i brofi deunydd yr arwyneb i weld a yw'n cadw ei liw ac yn aros yr un maint
26. pam mae gwiriadau a chyfyngiadau ar gyfer defnyddio cyfarpar glanhau a pham mae'n rhaid cadw at y rhain
27. cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch eich sefydliad a pham y dylid gwirio'r rhain yn erbyn gweithdrefnau'r gweithle
28. sut i asesu a yw'r deunydd yn addas ar gyfer y driniaeth a gynlluniwyd a pha ffactorau i'w hystyried
29. pam mae'n bwysig awyru'r man gwaith
Gwneud yn siŵr bod lloriau meddal, carpedi a dodrefn yn aros yn lân.
30. pam mae'n bwysig cael gwared ar lwch arwynebol a malurion cyn dechrau'r broses o lanhau'n ddwfn
31. sut i feddalu baw a / neu staeniau, pan fydd yn ddigon meddal a pham mae'n bwysig gwneud hyn
32. sut i nodi'r lle mwyaf addas i gynnal prawf glanhau a pham y dylid gwneud hyn cyn defnyddio triniaethau
33. o dan ba amgylchiadau y dylid trin yr arwynebau ymlaen llaw
34. pam y dylid rhoi triniaethau yn gytbwys ar ddeunyddiau arwynebau a beth fyddai'n digwydd petai hyn ddim yn cael ei wneud
35. sut i osgoi niweidio'r arwyneb a goblygiadau posibl ei ddifrodi
36. y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am y staeniau nad oes modd eu tynnu
37. canllawiau'r gweithle ar gyfer cael gwared ar y gwastraff
38. sut i roi popeth yn ei ôl fel yr oedd yn wreiddiol