Glanhau a diogelu lloriau caled a lled-galed

URN: INSC012
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau lloriau caled a lled-galed. Mae ar gyfer glanhawyr sy’n gorfod asesu faint o lanhau sydd ei angen, y cynhyrchion glanhau mwyaf addas a'r cyfarpar glanhau angenrheidiol, megis brwshys, mopiau a sugnwyr llwch neu sugnwyr. Mae’r safon yn ymwneud â defnyddio'r broses gywir wrth lanhau drwy gael gwared ar faw cyn defnyddio'r driniaeth briodol a gwneud yn siŵr bod y man yn sych ar ôl cwblhau'r gwaith. Mae'r safon hefyd yn cynnwys defnyddio haenau diogelu, sgleinio'r llawr drwy ddefnyddio cyfarpar trydanol priodol, cyn mynd ati i ailosod y man gwaith pan fyddwch wedi gorffen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

Rheoli'r risg o haint

10.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

11.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

12.  archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

13.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

14.  defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol

15.  defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau

16.  dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

17.  defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad

18.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

19.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir eu hailddefnyddio

20.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

21.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo

Paratoi er mwyn cynnal a chadw lloriau caled a lled-galed

22.  paratoi eich man gwaith a nodi'r cyfarpar perthnasol ar gyfer tasgau glanhau

23.  gwneud yn siŵr bod lefel eich hylendid personol yn bodloni safonau'r gweithredwr a'ch bod yn glynu atynt drwy gydol y broses lanhau

24.  adnabod y cyfarpar neu'r mannau gwaith perthnasol i'w trin a phenderfynu ar y driniaeth fwyaf effeithiol i'w defnyddio

25.  nodi arwynebau sydd wedi'u difrodi neu sy'n dirywio, a rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol amdanynt

26.  nodi unrhyw ffactorau fydd yn effeithio ar lanhau'r llawr

27.  nodi unrhyw safonau ychwanegol sy'n berthnasol i'r gwaith ac eithrio cyfarwyddiadau eich goruchwyliwr, er enghraifft cyfarwyddiadau sydd gan y cwsmer sy'n berthnasol i'r arwyneb rydych am ei lanhau

28.  gwneud yn siŵr bod digon o awyru yn y man gwaith wrth lanhau, ac er mwyn cynorthwyo'r broses sychu

Glanhau lloriau caled a lled-galed

29.  clirio unrhyw eitemau mawr o sbwriel â llaw yn ofalus ac yn ddiogel cyn dechrau'r gwaith

30.  cael gwared ar y llwch rhydd a'r malurion yn ofalus ac yn ddiogel heb daenu'r llwch

31.  nodi maint a math y gollyngiadau a dewis y dull perthnasol o'u clirio o'r llawr

32.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw hylifau neu ollyngiadau nad ydych yn gwybod beth ydynt. Ni ddylech eu glanhau oni bai eich bod wedi eich cyfarwyddo i wneud hynny

33.  meddalu baw a staeniau dwfn gyda'r cynnyrch neu'r toddiant perthnasol cyn ceisio cael gwared arnynt

34.  cynnal profion glanhau mewn man lle mae marciau yn lleiaf tebygol o fod yn amlwg

35.  defnyddio'r driniaeth yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a heb wneud yr arwyneb yn rhy wlyb na'i ddifrodi

36.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw staeniau na allwch gael gwared arnynt

37.  gwneud yn siŵr nad oes baw dwfn a bod haenau diogelu yn cael ei niwtraleiddio, yn sych a heb unrhyw staen

38.  gwaredu unrhyw driniaethau glanhau a chynhyrchion gwastraff sydd heb eu defnyddio yn unol â chanllawiau gweithle'r sefydliad

39.  ailosod popeth yn y man fel yr oedd yn wreiddiol

Diogelu lloriau caled

40.  dewis haenau a chyfarpar diogelu sy'n addas ar gyfer y math o arwyneb llawr

41.  paratoi i ddiogelu llawr caled gyda deunyddiau perthnasol fel sêl-barhaol neu bolish

42.  defnyddio'r nifer gofynnol o haenau diogelu mewn modd cytbwys a threfnus, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

43.  gadael y llawr yn sych ac yn wastad

44.  gwneud yn siŵr nad oes llwch ar y llawr ar ôl gorffen

45.  gwneud yn siŵr bod unrhyw ddeunyddiau na chafodd eu defnyddio yn cael eu gwaredu'n gywir a rhoi popeth yn ôl yn y man dynodedig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

7.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

Rheoli'r risg o haint

10.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

11.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

12.  y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

13.  y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

14.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

15.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

16.  sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).

17.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

18.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

19.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu

Paratoi i lanhau lloriau caled a lled-galed

20.  y cyfarpar perthnasol ar gyfer tasgau glanhau

21.  sut i baratoi'r lloriau er mwyn eu glanhau

22.  lefel yr hylendid personol sydd ei hangen ar gyfer y man yr ydych yn gweithio ynddo a pham mae'n bwysig ei chynnal

23.  pam mae angen tynnu eich eitemau personol a ble dylai'r rhain gael eu storio wrth lanhau

24.  cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch eich sefydliad a pham y dylid gwirio'r rhain yn erbyn gweithdrefnau'r gweithle

25.  pam mae gwiriadau a chyfyngiadau ar gyfer defnyddio cyfarpar glanhau a pham mae'n rhaid cadw at y rhain

26.  y ffactorau fydd yn effeithio ar sut rydych yn glanhau'r llawr

27.  pam mae'n bwysig awyru'r man gwaith

Glanhau lloriau caled a lled-galed

28.  pam y dylech glirio eitemau mawr o sbwriel â llaw cyn dechrau'r gwaith

29.  y technegau diogel ar gyfer trin eitemau mawr o sbwriel

30.  y gwahanol ddulliau o gael gwared ar lwch rhydd a malurion, a sut i ddewis yr un cywir

31.  y cynwysyddion dynodedig ar gyfer rhoi llwch a malurion ynddynt

32.  sut i adnabod gwahanol fathau o hylifau neu ollyngiadau

33.  pam mae'n bwysig rhoi gwybod am unrhyw ollyngiadau a hylifau'r corff nad ydych yn gwybod beth ydynt, a pheidio â glanhau'r rhain oni bai eich bod yn cael eich cyfarwyddo i wneud hynny

34.  y gwahanol ddulliau o gael gwared ar ollyngiadau a sut i ddewis y dull addas

35.  y triniaethau sydd ar gael a'r rhai mwyaf addas i'w defnyddio

36.  sut i nodi'r man ar gyfer cynnal profion glanhau a pham y dylid gwneud hyn cyn defnyddio triniaethau

37.  o dan ba amgylchiadau y dylid trin arwynebau llawr ymlaen llaw

38.  pam y dylid rhoi triniaethau yn gytbwys ar arwynebau a beth fyddai'n digwydd petai hyn ddim yn cael ei wneud

39.  pam mae'n bwysig rhoi gwybod am unrhyw staeniau na ellir cael gwared arnynt

40.  pam mae'n bwysig gwaredu toddiannau glanhau dros ben yn gywir a sut i wneud hynny

41.  pam mae'n rhaid gwneud yn siŵr nad oes baw dwfn a haenau diogelu yn cael eu gadael ar y llawr, a beth allai ddigwydd os na chaiff hyn ei wneud

42.  pwysigrwydd gadael y llawr wedi'i niwtraleiddio, yn sych a heb unrhyw staeniau a beth allai ddigwydd os na chaiff hyn ei wneud

Diogelu lloriau caled

43.  ystod yr haenau diogelu sydd ar gael a sut i ddewis yr un sy'n addas ar gyfer y math o arwyneb llawr

44.  sut i benderfynu beth yw'r nifer cywir o haenau diogelu

45.  sut i roi'r haen ymlaen yn gytbwys ac yn drefnus, a pham

46.  sut i sgleinio'r llawr yn drefnus, a sut i gael y lefel ofynnol o sglein

47.  sut i fynd ati yn y modd cywir i waredu haenau diogelu sydd heb eu defnyddio

48.  pwysigrwydd rhoi pethau'n ôl yn y drefn yr oeddent yn wreiddiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC213

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

glanhau, lled-galed, caled, cyfarpar llaw, cynhyrchion glanhau, triniaeth