Glanhau cyfarpar ac arwynebau yn ddwfn

URN: INSC011
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau cyfarpar ac arwynebau yn ddwfn. Mae ar gyfer glanhawyr sy'n glanhau'r cyfarpar a'r arwynebau a allai gynnwys defnyddio peiriannau arbenigol. Gall glanhau dwfn hefyd olygu bod angen defnyddio offer, brwsys, cemegau a thriniaethau arbenigol fel dad-iro, dad-gwyro, tynnu tar a glud, glanhawyr asid, glanedyddion metel, dad-iro toddyddion, cwyrau a pholish. Yn aml, mae glanhau dwfn yn golygu datgymalu cyfarpar, tynnu cen, dwstio mannau anodd eu cyrraedd a phwyntiau cyffwrdd, a diheintio gwahanol arwynebau a chyfarpar. Mewn safleoedd bwyd mae'n bwysig cyfeirio at weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr wrth lanhau'n ddwfn oherwydd gallai fod angen dilyn gweithdrefnau neu ragofalon arbennig. Wrth lanhau'n ddwfn, mae'n bwysig bod yn wyliadwrus o risgiau iechyd a diogelwch fel mygdarthau cemegol, difrod i arwynebau cyfagos o ganlyniad i ddod i gysylltiad â cynhyrchion a thriniaethau glanhau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      cydymffurfio â gweithdrefnau asesu risg a chynnal asesiad risg deinamig yn y gweithle ac mewn ymateb i amodau sy'n bodoli

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

Rheoli'r risg o haint

10.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

11.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

12.  archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

13.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

14.  defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol

15.  defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau

16.  dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

17.  defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad

18.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

19.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

20.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

21.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo

Paratoi'r man gwaith ar gyfer glanhau

22.  nodi'r arwynebau neu'r cyfarpar perthnasol sydd angen eu glanhau'n ddwfn

23.  cael manylion y gweithredwr ar gyfer glanhau dwfn gan yr aelod staff perthnasol

24.  gwneud yn siŵr bod lefel eich hylendid personol yn bodloni safonau'r gweithredwr ac yn cael ei chynnal drwy gydol y broses lanhau

25.  tynnu unrhyw eitemau personol a allai ddal bacteria, neu a allai gael eu difrodi drwy ddod i gysylltiad â thriniaethau arbenigol neu faw ar yr arwyneb

26.  nodi'r cyfarpar neu'r arwyneb i'w drin a dewis y cynnyrch neu'r toddiant glanhau mwyaf addas

27.  archwilio'r cyfarpar neu'r arwyneb er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer y driniaeth a gynllunnir yn unol â natur y deunydd a math, safle, ffurf a maint y baw

28.  cyfeirio at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr wrth ddadosod cyfarpar

29.  nodi arwynebau neu gyfarpar bwyd sydd wedi'u difrodi neu sy'n dirywio, a rhoi gwybod amdanynt

30.  hysbysu'r aelod staff perthnasol mewn modd amserol os nad yw natur y baw yn hysbys neu os credwch y gallai'r weithred glanhau ddifrodi'r arwyneb, neu os gallai'r sylwedd beryglu iechyd

31.  ynysu cyflenwadau trydanol neu nwy cyn glanhau yn unol â gofynion diogelwch y gweithredwr, clirio'r llinellau cyflenwi a diogelu pwyntiau ynysu rhag troi ymlaen ar ddamwain yn ystod y gwaith glanhau

32.  glynu wrth unrhyw safonau ychwanegol y mae angen cadw atynt gyda'r gwaith fel cyfarwyddiadau gweithredwr

33.  gwneud yn siŵr bod digon o awyru yn y man gwaith wrth lanhau'n ddwfn, ac er mwyn cynorthwyo'r broses sychu

Trin y man gwaith

34.  gwneud yn siŵr bod caniatâd yn cael ei roi ar gyfer defnyddio unrhyw gyfarpar glanhau dwfn cyn dechrau gweithio

35.  edrych ar eich cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch perthnasol eich hun yn erbyn gweithdrefnau'r gweithredwr ar gyfer y gweithle er mwyn diogelu eich hun ac aelodau staff drwy gydol y broses lanhau

36.  cydosod yr offer perthnasol sydd ei angen ar gyfer glanhau dwfn gan ddibynnu ar y math o arwyneb neu gyfarpar o dan sylw

37.  gwneud yn siŵr bod cyfarpar glanhau mewn cyflwr gwaith diogel cyn dechrau gweithio

38.  gwaredu unrhyw lwch a malurion cyn dechrau'r glanhau dwfn

39.  paratoi'r cynhyrchion a'r toddiannau perthnasol ar gyfer glanhau dwfn

40.  cynnal profion glanhau i weld a fydd yn effeithio ar liwiau deunyddiau, yn eu crebachu ac yn gwaredu baw mewn mannau lle na sylwir ar farciau yn ôl pob tebyg

41.  meddalu'r baw a'r staeniau dwfn gyda'r cynnyrch neu'r toddiant perthnasol cyn ceisio cael gwared arnynt

42.  defnyddio'r driniaeth yn ddiogel, heb wneud yr arwyneb yn rhy wlyb na'i ddifrodi yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

43.  gwneud yn siŵr bod y driniaeth yn cael ei defnyddio'n gytbwys ac yn drefnus a bod unrhyw ddarnau amsugnol yn cael eu trin ymlaen llaw, gan ganolbwyntio'r driniaeth ar y baw neu'r staen mwyaf ystyfnig neu ddwfn

44.  glanhau yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr

45.  defnyddio'r cyfarpar neu'r peiriannau glanhau dwfn yn effeithlon, gan ddilyn cyfarwyddiadau diogelwch eich sefydliad a'r gwneuthurwr

46.  nodi unrhyw ddiffygion neu resymau dros beidio â defnyddio'r cyfarpar penodedig a hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt

Ailosod y man gwaith

47.  golchi arwynebau sy'n cael eu trin gan fydd hynny'n effeithio ar y mannau o'u cwmpas, lle bo hynny'n berthnasol

48.  archwilio'r arwyneb sy'n cael ei drin er mwyn iddo edrych yn wastad, gan wneud yn siŵr nad oes baw nac yn rhy wlyb

49.  defnyddio triniaethau neu haenau diogelu, lle bo'n berthnasol

50.  rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am unrhyw staeniau neu faeddu nad oes modd cael gwared arnynt

51.  rhoi popeth yn ôl yn y man dynodedig, gan ddiogelu dodrefn a chyfarpar os cafodd triniaeth wlyb ei defnyddio, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw weddillion wedi'u gadael

52.  gwneud yn siŵr eich bod yn gwirio nad oes plâu a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â hyn

53.  lle defnyddir cyfarpar gyda rhannau symudol, gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio'n gywir ar ôl glanhau dwfn a'i ailosod

54.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddiffygion neu ddifrod a achosir wrth lanhau

55.  gwaredu toddiannau a ddefnyddir ac sydd heb eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, a glanhewch eich cyfarpar yn drylwyr

56.  rhoi cynhyrchion glanhau a thriniaethau o'r neilltu yn ddiogel pan fyddwch wedi gorffen gyda nhw

57.  glanhau a storio neu waredu'r holl gyfarpar diogelu gan ddilyn cyfarwyddiadau, gweithdrefnau neu ganllawiau perthnasol y gweithle


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

7.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

Rheoli'r risg o haint

10.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

11.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

12.  y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

13.  y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

14.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

15.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

16.  sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).

17.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

18.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

19.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu

Paratoi'r man gwaith ar gyfer glanhau

20.  sut i nodi ac asesu'r man gwaith a'r hyn sydd yno ar gyfer y gwaith glanhau gofynnol

21.  pam mae'n bwysig cael manylion glanhau y gweithredwr a gan bwy y gellir cael y rhain

22.  lefel yr hylendid personol sydd ei hangen ar gyfer y man yr ydych yn gweithio ynddo a pham mae'n bwysig cynnal hylendid personol

23.  pam mae angen tynnu eich eitemau personol a ble dylai'r rhain gael eu storio wrth lanhau

24.  sut gall ffactorau fel math, safle, ffurf a maint y baw ddylanwadu ar y math o lanhau sydd ei angen

25.  y dulliau trin sydd ar gael a'r rhai mwyaf effeithiol i'w defnyddio

26.  sut i asesu a yw'r cyfarpar neu'r arwyneb yn addas ar gyfer y driniaeth mewn golwg

27.  pam mae'n bwysig rhoi gwybod am arwynebau sydd wedi'u difrodi neu sy'n dirywio a'r effaith y gallai defnyddio triniaethau ei chael arnynt

28.  y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch y gweithgaredd glanhau a pham y dylai hyn gael ei wneud yn brydlon

29.  sut i ynysu cyflenwadau trydanol neu nwy yn ddiogel a pham mae'n rhaid i chi wneud hyn cyn dechrau glanhau

30.  y safonau perthnasol y mae angen eu cymhwyso ar gyfer y cyfarpar a'r arwyneb gwaith a phwy sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr y glynir wrth y rhain

31.  pam mae'n bwysig awyru'r man gwaith

Trin y man gwaith

32.  sut i gael y caniatâd ar gyfer defnyddio unrhyw gyfarpar glanhau dwfn cyn dechrau gweithio

33.  sut i fonitro'r gwaith glanhau rydych yn ei wneud a pham mae'n bwysig cynnal safonau yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr

34.  yr offer perthnasol sydd ei angen ar gyfer glanhau dwfn gan ddibynnu ar y math o arwyneb neu gyfarpar o dan sylw

35.  pam mae gwiriadau a chyfyngiadau ar waith ar gyfer defnyddio gyfarpar glanhau dwfn a pham mae'n rhaid cadw at y rhain

36.  sut i wneud yn siŵr bod cyfarpar mewn cyflwr diogel cyn ei ddefnyddio, o dan ba amgylchiadau na ellir defnyddio cyfarpar, a phwy ddylai gael gwybod am unrhyw broblemau

37.  y cynhyrchion a'r toddiannau perthnasol ar gyfer glanhau dwfn

38.  pam mae'n bwysig cael gwared ar lwch arwynebol a malurion cyn dechrau'r broses lanhau dwfn

39.  pam y dylid rhoi triniaethau yn gytbwys ar arwynebau a beth fyddai'n digwydd petai hyn ddim yn cael ei wneud

40.  sut i feddalu baw neu staeniau dwfn a pham mae angen gwneud hyn

41.  sut i nodi'r lle mwyaf priodol i gynnal prawf glanhau a pham y dylid gwneud hyn cyn defnyddio triniaethau

42.  cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch eich sefydliad a pham y dylid gwirio'r rhain yn erbyn gweithdrefnau'r gweithle

43.  ble i ddod o hyd i gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer dad-gydosod ac ailosod cyfarpar bwyd, defnyddio triniaethau, gweithredu cyfarpar glanhau neu beiriannau a pham mae'n bwysig dilyn y rhain

44.  y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion neu resymau dros beidio â defnyddio'r cyfarpar penodedig

Ailosod y man gwaith

45.  y triniaethau y mae angen eu golchi, sut ddylai hyn gael ei wneud, a beth allai ddigwydd os na chaiff gweddillion eu gwaredu'n ddigonol o fannau bwyd

46.  pwy ddylai gael gwybod am y baw neu'r staeniau nad oedd modd eu tynnu

47.  y ffactorau i'w hystyried wrth ystyried a ddylid rhoi mwy o driniaeth ar arwynebau

48.  yr arwynebau sydd angen triniaethau diogelu a sut i'w cymhwyso, yn unol â chyfarwyddiadau perthnasol

49.  y man dynodedig ar gyfer symud pob eitem cyn glanhau, a thrwy gydol cyfnod y gweithgaredd glanhau, a pham mae'n bwysig rhoi eitemau yn ôl i lle oeddynt yn wreiddiol cyn iddynt gael eu symud

50.  sut i nodi arwyddion o blâu ac i bwy y dylech roi gwybod amdanynt

51.  sut i wneud yn siŵr bod cyfarpar sydd wedi'i lanhau yn gweithio'n ddiogel a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu ddifrod

52.  y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwaredu triniaethau a ddefnyddir neu driniaethau sydd heb eu defnyddio a pham y dylai'r rhain gael eu dilyn

53.  y dull perthnasol ar gyfer glanhau cyfarpar neu beiriannau a ddefnyddir yn ystod eich gwaith a pham mae'n bwysig ei adael mewn cyflwr glân

54.  y man dynodedig ar gyfer cadw triniaethau glanhau, cyfarpar a pheiriannau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC212

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

arbenigol, glanhau, cyfarpar, cemegau, triniaethau, glanhau dwfn, iechyd a diogelwch, gweithdrefnau