Glanhau mannau cyfyng a’u cadw’n lân
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae’n ymwneud â glanhau mannau cyfyng a’u cadw’n lân Mae ar gyfer glanhawyr sy'n gweithio mewn mannau cyfyng. Mae’n bwysig bod yn wyliadwrus o beryglon a risgiau posibl a allai godi yn ystod y gwaith drwy gymryd rhagofalon er mwyn atal y cyhoedd neu weithwyr eraill sydd heb awdurdod rhag cael mynediad. Er diogelwch personol, mae'n bwysig eich bod yn gwisgo'r cyfarpar diogelu priodol, yn meddu ar agwedd seicolegol at waith mewn mannau cyfyng ac yn dilyn y gweithdrefnau diogelwch perthnasol trwy gadw mewn cysylltiad â'r aelod staff perthnasol yn rheolaidd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
Rheoli'r risg o haint
10. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
11. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
12. archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
13. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
14. defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
15. defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau
16. dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
17. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
18. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
19. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
20. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Glanhau mewn man cyfyng
21. gwneud yn siŵr bod y gweithgareddau glanhau gofynnol yn gallu cael eu cyflawni yn y mannau cyfyng
22. gwneud yn siŵr bod y man gwaith yn cael ei awyru'n ddigonol cyn ac yn ystod y gwaith
23. paratoi'r holl gyfarpar a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio a bod y cyfarpar trydanol wedi'i wefru'n llawn cyn mynd i mewn i'r man gwaith
24. cael caniatâd i fynd i mewn i'r man gwaith a'r wybodaeth berthnasol am iechyd a diogelwch gan y gweithwyr dynodedig sy'n goruchwylio'r gwaith
25. gofyn i'r aelod staff perthnasol a yw'r amodau atmosfferig wedi'u gwirio ac yn ddiogel cyn mynd i mewn i'r man gwaith
26. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng
27. rheoli mynediad i'r mannau gwaith yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad cyn dechrau glanhau
28. egluro natur y baw gyda'r aelod staff perthnasol cyn dechrau glanhau
29. ceisio cyngor gan yr aelod staff perthnasol pan ofynnir i chi lanhau amgylcheddau lle mae risg na chafodd ei rhagweld
30. ymgymryd â'r broses lanhau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Dilyn arferion gwaith diogel mewn man cyfyng
31. bod yn ymwybodol o'r risgiau wrth lanhau, gan gymryd camau ar unwaith i gywiro unrhyw weithgaredd, cyfarpar ac amodau amgylcheddol anniogel
32. dechrau gweithdrefnau ymadael mewn argyfwng ar unwaith os bydd argyfwng
33. gwneud yn siŵr bod unrhyw wastraff mewn mannau cyfyng wedi'i glirio a'i waredu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
34. rhoi gwybod am unrhyw ddifrod damweiniol neu darfu mewn mannau cyfyng a achosir gan brosesau glanhau
35. dilyn y gweithdrefnau dadheintio perthnasol
36. cynnal asesiad risg manwl ar gyfer halogiad a gadarnhawyd
37. defnyddio codau lliw ar gyfer deunyddiau glanhau i osgoi'r posibilrwydd o drawshalogi
38. dilyn y gweithdrefnau perthnasol o ran dadheintio ar gyfer y man sy'n cael ei lanhau
39. nodi'r mannau y mae'r person symptomatig yn mynd iddynt cyn eu glanhau a gosod arwyddion perthnasol o'u cwmpas
40. glanhau holl hylifau'r corff, gan ddefnyddio pecynnau gollyngiadau yn fuan ar ôl i'r rhain gael eu nodi
41. defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad
42. gwaredu cyfarpar diogelu a ddefnyddiwyd, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus yn unol â chanllawiau'r cyflogwr
43. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
7. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
Rheoli'r risg o haint
10. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
11. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
12. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
13. y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
14. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
15. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
16. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
17. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
18. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu
Glanhau mewn man cyfyng
19. sut gall amodau amgylcheddol effeithio ar y gwaith y gallwch ei wneud a pham mae'n bwysig gwneud yn siŵr eu bod wedi'u gwirio
20. pam y dylai'r man gwaith gael ei awyru'n ddigonol a'r peryglon sy'n gysylltiedig ag awyru annigonol
21. pam mae'n bwysig cadarnhau natur y baw a lefel eich sgil wrth fynd i'r afael â hyn
22. pam y dylech geisio cyngor ynghylch mannau glanhau a allai fod yn risg ac â phwy y dylech ymgynghori ynghylch hyn
23. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer trefnu dulliau cyfathrebu â'ch goruchwyliwr a pham mae'n bwysig cadarnhau gweithdrefnau o'r fath cyn dechrau'r gwaith
24. pam mae'n bwysig cael cyfarpar glanhau y gellir ei ddefnyddio cyn mynd i mewn i'r man cyfyng, sut i'w wirio ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau
25. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i fannau cyfyng, eu glanhau a'u gadael
26. y cyfarwyddiadau a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ymgymryd â'r prosesau glanhau
27. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rheoli mynediad i'r man cyfyng a pham mae'n bwysig dilyn y rhain
Dilyn arferion gwaith diogel mewn man cyfyng
28. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro amodau yn y man cyfyng
29. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gadael y man cyfyng mewn argyfwng
30. y camau perthnasol i'w cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r risgiau sy'n codi wrth weithio
31. pwy sy'n gyfrifol am wirio eich gwaith
32. pwy sy'n gyfrifol am gael gwared ar wastraff o'r mannau cyfyng
33. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am y difrod damweiniol
34. gweithdrefnau dadheintio eich sefydliad
35. sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).
36. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar diogelu a ddefnyddiwyd, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus