Glanhau mannau risg uchel
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau mannau risg uchel. Mae ar gyfer glanhawyr sy’n gorfod cynnal lefelau hylendid mewn mannau lle mae risg uchel o haint neu halogiad. Gall hyn achosi risg o heintio eich hun ac aelodau'r tîm a chwsmeriaid, a thrawshalogi i'r amgylchedd yr ydych yn gweithio ynddo os nad ydych yn dilyn y gweithdrefnau cywir yn y gweithle a chanllawiau perthnasol ar gyfer glendid. Er mwyn lleihau’r risgiau hyn, mae’n bwysig cynnal lefelau uchel o hylendid personol a chadw at y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol. Gallai’r gweithdrefnau i’w dilyn amrywio gan ddibynnu ar yr amgylchedd yr ydych yn gweithio ynddo a’r risgiau a nodir. Er enghraifft, ar gyfer dewis cyfarpar diogelu a’i ddefnyddio, pa mor aml mae angen glanhau, a’r gweithdrefnau ar gyfer mynd i mewn i ardal risg uchel a’i gadael. Gellir diffinio risg uchel mewn rhai cyd-destunau gwaith fel amgylchedd a reolir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. asesu'r categorïau risg a chymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad asesiadau a gynhelir
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
Rheoli'r risg o haint
10. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
11. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
12. gwneud yn siŵr bod yr ardal yn cael ei hawyru'n ddigonol cyn ac yn ystod y gwaith
13. archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
14. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
15. defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
16. defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau
17. dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiadau feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
18. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
19. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
20. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
21. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Atal heintiau rhag lledaenu a thrawshalogi mewn mannau risg uchel
22. golchi dwylo'n rheolaidd er mwyn atal heintiau rhag lledaenu neu drawshalogi mewn mannau risg uchel
23. defnyddio'r dulliau priodol o gynnal eich hylendid personol drwy ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
24. ceisio cyngor gan yr aelodau staff perthnasol pan ofynnir i chi lanhau amgylcheddau lle mae risg benodol o heintio neu drawshalogi
25. cael manyleb glanhau sy'n rhoi gwybodaeth fanylach am sut y dylid glanhau
26. cadarnhau eitemau unigol ar gyfer glanhau, pa mor aml mae angen glanhau, a'r safonau glendid disgwyliedig ar gyfer pob eitem
27. nodi dodrefn a chyfarpar sydd wedi'u difrodi yn y man risg uchel, rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol amdanynt a gwneud yn siŵr eu bod yn lân cyn eu symud neu eu hailosod
28. cadarnhau natur y baw gyda'r aelod staff perthnasol cyn dechrau glanhau
29. gwneud yn siŵr nad oes unrhyw wastraff yn y man risg uchel a'i fod wedi'i waredu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
30. rhoi gwybod am unrhyw ddifrod damweiniol neu darfu i'r mannau risg uchel a achosir gan brosesau glanhau
31. gwneud yn siŵr bod yr holl ddeunyddiau glanhau, cyfarpar a chynwysyddion glanhau yn cael eu dychwelyd mewn cyflwr glân a diogel i'r man storio dynodedig
32. gwneud yn siŵr bod yr holl weithdrefnau perthnasol wedi'u dilyn yn llawn cyn i chi gasglu eich eitemau personol o'r man storio
Glanhau mewn ardal risg uchel
33. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i ardaloedd risg uchel
34. tynnu unrhyw eitemau personol, megis gemwaith oherwydd y risg i chi eich hun neu'r offer, a'u storio mewn man dynodedig
35. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw gyflyrau personol a allai achosi haint neu drawshalogi yn yr ardal risg uchel
36. asesu a nodi'r holl risgiau posibl i chi eich hun, cwsmeriaid a'r amgylchedd a achosir gan ficro-organebau neu lygryddion eraill cyn glanhau neu wedi hynny
37. trefnu dulliau cyfathrebu â'ch goruchwyliwr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad wrth weithio ar eich pen eich hun
38. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau a'r offer yn addas i'r diben ac yn briodol ar gyfer glanhau'r mannau risg uchel
39. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â chyfarpar glanhau diffygiol
40. defnyddio codau lliw ar gyfer deunyddiau glanhau i osgoi'r posibilrwydd o drawshalogi
41. dilyn y gweithdrefnau perthnasol o ran dadheintio ar gyfer y man sy'n cael ei lanhau
42. defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad
43. nodi'r mannau y mae'r person symptomatig yn mynd iddynt cyn eu glanhau a gosod arwyddion perthnasol o'u cwmpas
44. glanhau holl hylifau'r corff, gan ddefnyddio deunyddiau tafladwy yn fuan ar ôl i'r rhain gael eu nodi a diheintio'r arwyneb
45. gwaredu cyfarpar sydd wedi'i ddefnyddio, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus yn unol â chanllawiau'r cyflogwr
46. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
47. symud yr arwyddion a'u dychwelyd mewn cyflwr glân i'r man storio dynodedig ar ôl gorffen eich gwaith
48. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gadael y gweithle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y categorïau risg a'r camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad asesiadau a gynhelir
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
7. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
Rheoli'r risg o haint
10. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
11. pam y dylai'r man gwaith gael ei awyru'n ddigonol a'r peryglon sy'n gysylltiedig ag awyru annigonol
12. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
13. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
14. y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
15. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
16. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
17. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
18. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
19. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu
Atal heintiau rhag lledaenu a thrawshalogi mewn mannau risg uchel
20. lleoliad cyfleusterau ar gyfer cadw dwylo'n lân a pham mae hylendid personol yn bwysig mewn man risg uchel
21. y risgiau y gallwch ddod ar eu traws yn eich tasgau glanhau arferol a'r mannau yn y gweithle lle ceir amrywiaeth o risgiau
22. pam y dylech geisio cyngor ynghylch amgylcheddau glanhau a allai beri risg benodol a'r unigolyn perthnasol y gallech ofyn am gymorth ganddo
23. y manylebau sy'n amlinellu'r ffactorau risg a nodwyd a sut y dylid cyflawni'r gweithdrefnau glanhau
24. yr eitemau unigol ar gyfer glanhau a'r safonau glendid disgwyliedig ar gyfer pob eitem
25. pa mor aml mae angen glanhau yn dibynnu ar ffactorau risg
26. y risgiau a allai fod yn gysylltiedig ag eitemau o ddodrefn neu gyfarpar sydd wedi'u difrodi yn y man risg uchel, a pham y dylech hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt
27. sut i nodi'r mathau o arwynebau a'r baw y mae'n ofynnol i chi eu glanhau
28. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw faw nad ydych yn gwybod beth ydyw
29. pwy sy'n gyfrifol am wirio eich gwaith
30. pwy sy'n gyfrifol am symud gwastraff o'r man risg uchel a pha mor reolaidd y caiff hyn ei wneud
31. cyfarwyddiadau, gweithdrefnau a chanllawiau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am ddifrod damweiniol
Glanhau mewn ardal risg uchel
32. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i ardaloedd risg uchel, eu glanhau a'u gadael
33. pam mae'n bwysig rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am unrhyw gyflyrau personol a allai achosi haint neu drawshalogi
34. y risgiau sy'n bodoli mewn man risg uchel a sut i'w nodi at ddibenion asesiad risg
35. y cynhyrchion a'r cemegau glanhau dynodedig sydd eu hangen ar gyfer y man rydych yn gweithio ynddo a'r lefelau gwanhau
36. y cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer glanhau (e.e. dŵr a draeniau) a lle i gael gafael ar y rhain
37. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer trefnu dulliau cyfathrebu â'ch goruchwyliwr a pham mae'n bwysig cadarnhau'r rhain cyn dechrau gweithio
38. pam mae'n bwysig tynnu eich eitemau personol os ydych yn glanhau mewn man risg uchel
39. y cyflyrau personol a allai gyfyngu ar eich dyletswyddau glanhau a pham mae'n bwysig hysbysu'r aelod staff perthnasol
40. pam mae'n bwysig cael offer a chyfarpar glanhau y gellir eu defnyddio ac i bwy y mae angen rhoi gwybod am broblemau
41. beth i'w wneud gyda gwrthrychau a allai fod yn beryglus neu wedi'u heintio a sut i'w gwaredu mewn cynwysyddion dynodedig
42. pwysigrwydd defnyddio deunyddiau glanhau sydd â chodau lliw i osgoi trawshalogi posibl
43. dulliau glanhau hylifau'r corff a pham mae'n bwysig diheintio'r ardal
44. gweithdrefnau dadheintio eich sefydliad
45. sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).
46. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar diogelu a ddefnyddiwyd, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus
47. pryd i symud arwyddion o'r man gwaith a lle i'w storio
48. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gadael y gweithle