Glanhau ystafelloedd ymolchi ac ailgyflenwi cyflenwadau nwyddau traul
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau ystafelloedd ymolchi ac ailgyflenwi cyflenwadau o nwyddau traul. Mae ar gyfer glanhawyr sy’n gorfod dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i’r ystafell ymolchi, dewis y cyfarpar perthnasol a pharatoi’r cynhyrchion glanhau. Mae hefyd yn ymwneud ag ailgyflenwi nwyddau traul ac edrych ar eich gwaith ar ôl ei orffen. Mae’n bwysig cynnal lefelau uchel o hylendid personol er mwyn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch personol wrth lanhau ystafelloedd ymolchi. Gan eich bod o bosibl yn glanhau ystafelloedd golchi mewn amgylchedd lle rydych yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau eraill, mae defnyddio’r cyfarpar a’r deunyddiau côd lliw a’u gwaredu’n gywir yn bwysig hefyd er mwyn atal trawshalogi. Mae’r term ystafell ymolchi yn cynnwys pob man glanweithiol lle mae angen y math hwn o lanhau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
10. gwneud yn siŵr bod lefelau hylendid personol yn bodloni gofynion eich sefydliad ac yn cael eu cynnal wrth wneud y gwaith
Ailgyflenwi nwyddau traul a glanhau ystafelloedd ymolchi
11. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i ystafelloedd ymolchi
12. gwirio'r dalwyr a'r cynwysyddion i weld faint o nwyddau traul sy'n weddill
13. gwneud yn siŵr bod stoc ar gyfer ailgyflenwi nwyddau traul pan fo angen
14. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr wrth ail-lenwi neu ailosod eitemau
15. gwneud yn siŵr bod y cyfarpar yn lân ac yn gweithio
16. cymryd camau priodol gydag unrhyw eitemau nad ydynt yn gweithio
17. archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
18. dewis a defnyddio'r deunyddiau a chyfarpar côd lliw cywir ar gyfer y man rydych yn ei lanhau
19. gwneud yn siŵr bod yr ystafell ymolchi'n cael ei hawyru'n ddigonol cyn ac yn ystod y gwaith
20. dilyn y gweithdrefnau perthnasol o ran dadheintio ar gyfer y man sy'n cael ei lanhau
21. tynnu llwch, gwallt a malurion o arwynebau a gosodiadau
22. gwanhau a defnyddio cynhyrchion glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a rhoi ystyriaeth briodol i amser cyswllt ac aros
23. meddalu baw a staeniau dwfn gyda'r cynnyrch neu'r toddiant perthnasol cyn ceisio cael gwared arnynt
24. glanhau'r arwyneb yn drefnus, heb ei wneud yn rhy wlyb
25. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw staeniau na allwch gael gwared arnynt
26. glanhau'r gosodiadau mewn modd sydd lleiaf tebygol o ledaenu heintiau neu halogiad, gan eu gadael yn lân a heb unrhyw staen arnynt
27. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw hylifau neu ollyngiadau nad ydych yn gwybod beth ydynt. Ni ddylech eu glanhau oni bai eich bod wedi eich cyfarwyddo i wneud hynny
28. glanhau holl hylifau'r corff, gan ddefnyddio deunyddiau tafladwy yn fuan ar ôl i'r rhain gael eu nodi a diheintio'r arwyneb
29. defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad
30. gwneud yn siŵr bod arwynebau'n sych ar ôl gorffen glanhau ac osgoi peryglon llithro
31. gwneud yn siŵr nad oes baw, gwallt a malurion mewn biniau a mannau gwastraff dros ben
32. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddifrod, rhwystrau a dŵr yn gollwng
33. rhoi popeth yn ôl yn y man dynodedig ar ôl i chi orffen
34. gwneud yn siŵr bod y lefelau cywir o nwyddau traul yn y man gwaith ar ôl gorffen glanhau
35. ymdrin â gwastraff, gwaredu slyri a mynd â deunyddiau gwastraff soled i'r man casglu dynodedig
36. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddiffygion a phroblemau ar ôl gorffen glanhau
Rheoli'r risg o haint
37. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
38. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
39. nodi'r mannau y mae'r person symptomatig yn mynd iddynt cyn eu glanhau a gosod arwyddion perthnasol o'u cwmpas
40. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
41. defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
42. defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau
43. dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
44. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
45. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
46. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
7. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. sut i wneud yn siŵr bod y cyfarpar yn ddiogel i'w ddefnyddio
10. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
11. gofynion eich sefydliad o ran hylendid personol a pham mae'n bwysig ei gynnal wrth wneud tasgau glanhau
Ailgyflenwi nwyddau traul a glanhau ystafelloedd ymolchi
12. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i ystafelloedd ymolchi a'u gadael, a pham y dylid dilyn y rhain
13. y nwyddau traul a ddylai gael eu hailgyflenwi a pham mae'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr wrth wneud hynny
14. y stoc o nwyddau traul sydd ar gael er mwyn ailgyflenwi, pan fo angen
15. ble i ddod o hyd i nwyddau traul a'r gweithdrefnau cywir ar gyfer trefnu i gael nwyddau newydd neu ychwanegol
16. y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
17. pwysigrwydd defnyddio deunyddiau glanhau sydd â chodau lliw i osgoi trawshalogi posibl
18. pam y dylai'r man gwaith gael ei awyru'n ddigonol a'r peryglon sy'n gysylltiedig ag awyru annigonol
19. gweithdrefnau dadheintio eich sefydliad
20. pam y dylid cael gwared ar lwch, gwallt a malurion cyn glanhau arwynebau a gosodiadau
21. y drefn fwyaf priodol o lanhau gosodiadau er mwyn osgoi trawshalogiad neu'r perygl o haint
22. y cynhyrchion glanhau perthnasol i'w defnyddio a pham mae'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr gan roi ystyriaeth briodol i amser cyswllt ac aros
23. sut i nodi gwahanol fathau o hylifau neu ollyngiadau
24. y gwahanol ddulliau o gael gwared ar ollyngiadau a sut i ddewis y dull addas
25. pam na ddylid gwneud arwynebau'n rhy wlyb
26. pam mae'n bwysig rhoi gwybod am unrhyw ollyngiadau a hylifau'r corff nad ydych yn gwybod beth ydynt, a pheidio â glanhau'r rhain oni bai eich bod yn cael eich cyfarwyddo i wneud hynny
27. sut i lanhau holl hylifau'r corff, gan ddefnyddio deunyddiau tafladwy yn fuan ar ôl i'r rhain gael eu nodi a diheintio'r arwyneb
28. sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).
29. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar sydd wedi'i ddefnyddio, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus
30. pam y dylai arwynebau fod yn sych ar ôl gorffen glanhau a'r peryglon sy'n gysylltiedig â pheidio â gwneud hynny
31. pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad oes baw, gwallt a malurion mewn biniau a mannau gwastraff ychwanegol
32. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw ddifrod, rhwystrau a gollyngiadau
33. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu gwastraff a pham y dylid dilyn y rhain
34. y mannau dynodedig ar gyfer casglu gwastraff
35. y man cywir i storio cyfarpar a deunyddiau glanhau
36. pam y dylai cyfarpar diogelu gael ei waredu neu ei ailosod ar ôl gadael y man diheintio
37. y gweithdrefnau cywir ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion neu broblemau a pham y dylai'r rhain gael eu dilyn
Rheoli'r risg o haint
38. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
39. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
40. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
41. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
42. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
43. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
44. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
45. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu