Gwneud gwaith glanhau yn yr awyr agored
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae’n ymwneud â gwneud gwaith glanhau yn yr awyr agored. Mae ar gyfer glanhawyr sy'n defnyddio offer a pheiriannau a allai beri risg uchel o ran iechyd a diogelwch. Gall amodau amgylcheddol hefyd effeithio ar pryd a sut gellir gwneud y gwaith. Mae’n bwysig ystyried ffactorau amgylcheddol fel tymheredd, glaw, lleithder, gwynt ac amodau rhewllyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
Eich gweithgareddau gwaith
10. gwneud yn siŵr bod yr holl drwyddedau a gwiriadau yn eu lle ar gyfer gwneud y gwaith
11. gwneud yn siŵr bod modd mynd i'r lleoliad a'i fod yn ddiogel ar gyfer gwneud y gwaith
12. gwneud yn siŵr bod eich sgiliau, cymhwysedd a hylendid personol yn bodloni safonau'r gweithle
13. archwilio'r man gwaith a phenderfynu ar drefn y tasgau er mwyn gwneud y gwaith, gan ystyried sut gallai amodau amgylcheddol effeithio ar hyn
14. gwneud yn siŵr bod yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau gofynnol ar gael
15. dewis yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau mwyaf priodol ar gyfer y gwaith gan ystyried ffactorau fel risg, mynediad, amser ac amodau amgylcheddol
16. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol sydd ei angen ar gyfer safle'r gwaith, amodau amgylcheddol, y dull a'r cyfarpar a ddefnyddir.
17. gwneud yn siŵr bod y mannau lle cynhelir y gwaith yn ddiogel ac ar gael ar gyfer y cyfarpar a'r peiriannau a ddefnyddir
18. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag unrhyw eiddo coll neu eitemau sydd wedi'u gadael
Cyflawni eich dyletswyddau glanhau
19. asesu effaith bosibl amodau amgylcheddol ar eich gwaith
20. cyflawni'r tasgau mewn trefn resymegol gan wneud yn siŵr nad yw'r mannau o'ch cwmpas wedi'u heffeithio'n andwyol
21. defnyddio'r dull glanhau priodol gan ddibynnu ar y man gwaith a natur y gwaith
22. gwneud yn siŵr nad yw eich gwaith yn rhwystro, tarfu neu'n peri niwsans i'r cyhoedd
23. addasu eich ffordd o weithio yn ôl yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau a ddefnyddir ac i gyd-fynd â ffactorau eraill fel amodau amgylcheddol neu'r tywydd
24. nodi a rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am unrhyw anawsterau wrth wneud eich gwaith ac unrhyw waith ychwanegol angenrheidiol nad ydych yn gyfrifol amdano
25. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddifrod damweiniol a achosir wrth wneud y gwaith a mynd i'r afael â'r difrod o dan sylw
26. mynd â'r offer, cyfarpar a'r peiriannau yr ydych wedi'u defnyddio yn ôl i'r man penodedig a gwneud yn siŵr eu bod yn lân, yn ddiogel ac wedi'u storio'n ofalus
27. rhoi cyfarpar a deunyddiau newydd yn lle'r hen rai a threfnu'r deunyddiau ychwanegol, pan fo angen
28. rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol pan mae angen trwsio'r offer a'r peiriannau
Rheoli'r risg o haint
29. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
30. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
31. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
32. defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
33. defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau
34. dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
35. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
36. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
37. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
38. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
7. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. sut i wneud yn siŵr bod y cyfarpar yn ddiogel i'w ddefnyddio
10. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
Eich gweithgareddau gwaith
11. y trwyddedau a'r gwiriadau gofynnol ar gyfer gwneud eich gwaith
12. y lleoliad lle caiff y gwaith ei wneud a'r ffordd orau o fynd i'r man gwaith
13. safonau sgiliau, cymhwysedd a hylendid personol eich sefydliad a pham mae'n bwysig bodloni'r rhain
14. sut i archwilio'r man gwaith er mwyn asesu pa waith sydd ei angen a'r ffordd orau o'i wneud, gan ystyried amodau amgylcheddol yn ogystal â mynediad i'r cyhoedd, lle bo'n berthnasol
15. sut gallai amodau amgylcheddol a'r tywydd effeithio ar y gwaith i'w wneud
16. y cyfarpar, y peiriannau a'r deunyddiau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer y maes gwaith
17. pa ddulliau a deunyddiau fydd fwyaf effeithiol er mwyn gwneud y gwaith gofynnol a'r adnoddau amgen sydd ar gael
18. sut i fynd i'r man gwaith heb achosi anaf neu ddifrod
19. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag unrhyw eiddo coll ac eitemau sydd wedi'u gadael a pham y dylid dilyn y rhain
Cyflawni eich dyletswyddau glanhau
20. sut gallai amodau amgylcheddol effeithio ar berfformiad cyfarpar a pheirannau a ffactorau eraill, fel amser sychu
21. y dulliau cywir o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau a ddewisir
22. goblygiadau defnyddio deunyddiau anghywir neu anaddas neu beidio â dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
23. pam y gallai fod angen i chi newid eich dulliau i gyd-fynd ag amodau amgylcheddol, y gwaith gofynnol a'r cyfarpar sydd ar gael
24. y dulliau a'r technegau a allai rwystro neu beri niwsans i'r cyhoedd a sut i osgoi hyn
25. pam mae'n bwysig asesu ansawdd eich gwaith wrth i chi fynd yn eich blaen
26. y tasgau y mae gennych y sgil i'w cyflawni ac sydd angen i chi eu cwblhau
27. yr aelod staff perthnasol sydd i gael gwybod am unrhyw anawsterau wrth wneud eich gwaith
28. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â difrod damweiniol a rhoi gwybod amdano
29. y mannau storio ar gyfer dychwelyd eiddo, deunyddiau a pheiriannau a pham y dylid eu cadw'n lân ac yn ddiogel
30. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cael cyfarpar a deunyddiau newydd i gymryd lle'r hen rai a chael rhai ychwanegol
Rheoli'r risg o haint
31. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
32. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
33. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
34. y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
35. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
36. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
37. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
38. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
39. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu