Defnyddio a storio cyfarpar a chynhyrchion glanhau yn ddiogel

URN: INSC005
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae’n ymwneud â defnyddio a storio cyfarpar a chynhyrchion glanhau yn ddiogel Mae ar gyfer glanhawyr sy’n gorfod dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau ar gyfer defnyddio a storio cyfarpar a chynhyrchion glanhau yn ddiogel. Mae hefyd yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod cyfarpar yn addas ar gyfer yr amodau gwaith a dewis cynhyrchion glanhau yn briodol, eu defnyddio’n gywir a’u gwaredu’n ddiogel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

10.  gwneud yn siŵr bod y man gwaith wedi'i awyru'n ddigonol ar gyfer y cyfarpar a ddefnyddir a'r cemegau sy'n cael eu storio

Defnyddio a storio cyfarpar a chynhyrchion glanhau

11.  gwneud yn siŵr bod cyfarpar yn ddiogel a heb ddiffygion wrth eu symud o'r man storio

12.  defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad

13.  rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddiffygion yn y cyfarpar yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

14.  defnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gwneuthurwr

15.  glanhau cyfarpar a gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel cyn ei ddychwelyd i'r man storio

16.  gwneud yn siŵr bod y man storio yn lân cyn rhoi'r cyfarpar yn ôl yno

17.  gwneud yn siŵr bod y cyfarpar a'r cynhyrchion glanhau yn cael eu storio'n ddiogel ac yn unol â rheolau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch

18.  gwneud yn siŵr nad oes hylifau'n gollwng a rheoli'r rhain os ydynt yn cael eu canfod

19.  dewis y cynhyrchion glanhau priodol ar gyfer y man i'w lanhau

20.  dewis a defnyddio cynhyrchion glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r gweithdrefnau rheoli stoc

21.  storio cynhyrchion glanhau yn ddiogel gan ddilyn gweithdrefnau mynediad a diogelwch

22.  gwirio lefelau stoc a dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw brinder

23.  ail-lenwi'r lefelau stoc pan fo angen

Rheoli'r risg o haint

24.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

25.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

26.  archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

27.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

28.  defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol

29.  defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau

30.  dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

31.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

32.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

33.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

34.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

7.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      sut i wneud yn siŵr bod y cyfarpar yn ddiogel i'w ddefnyddio

10.  pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

11.  pam mae'n bwysig awyru'r ardal

Defnyddio a storio cyfarpar a chynhyrchion glanhau

12.  pam mae'n bwysig gwisgo dillad diogelu wrth ddefnyddio cyfarpar a chynhyrchion glanhau

13.  lleoliad y man storio a sut i gael mynediad

14.  lleoliad y cyflenwadau dŵr a thrydan sydd agosaf at y man storio er mwyn glanhau cyfarpar a'i brofi

15.  sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).

16.  sut i wirio a oes diffygion yn y cyfarpar

17.  yr aelod staff perthnasol i'w hysbysu am unrhyw ddiffygion yn y cyfarpar a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwneud hyn

18.  y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol ar gyfer defnyddio cyfarpar a chynhyrchion glanhau

19.  sut i lanhau cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gwneuthurwr

20.  sut i storio cyfarpar yn unol â gofynion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol

21.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cynhyrchion glanhau sydd wedi dod i ben

22.  y gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion diogel ar gyfer defnyddio cynhyrchion glanhau

23.  yr arwyddion rhybuddio a ddefnyddir ar gynwysyddion cynhyrchion glanhau a'u hystyr

24.  sut i ddewis cynhyrchion glanhau priodol ar gyfer amrywiaeth o dasgau glanhau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau

25.  pam mae'n beryglus cymysgu rhai mathau o gynhyrchion glanhau gyda'i gilydd

26.  pam mae'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer cynhyrchion glanhau

27.  beth allai ddigwydd os nad ydych yn dilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer eich gwaith

28.  pam mae'n rhaid dilyn trefnau a dilyniannau gwaith

29.  pa baratoadau y dylid eu gwneud i'r man gwaith cyn defnyddio cynhyrchion glanhau

30.  sut dylid storio cynhyrchion glanhau yn ddiogel a'r rhesymau dros wneud hynny

31.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am brinder cynhyrchion glanhau

32.  y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth baratoi a defnyddio cynhyrchion glanhau a sut i fynd i'r afael â nhw

Rheoli'r risg o haint

33.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

34.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

35.  y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

36.  y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

37.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

38.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

39.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

40.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

41.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC108

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

cyfarwyddiadau, gweithdrefnau sefydliadol, cyfarpar, cynhyrchion glanhau, gwaredu