Defnyddio cyfarpar glanhau trydanol neu wedi’i bweru gan fatri ar gyfer ystod o arwynebau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae’n ymwneud â defnyddio cyfarpar glanhau trydanol neu wedi’i bweru gan fatri ar gyfer ystod o arwynebau. Mae ar gyfer glanhawyr sy’n gorfod gwneud yn siŵr bod cyfarpar trydanol neu sydd wedi’i bweru gan fatri yn addas i’r diben ac yn ddiogel i’w ddefnyddio. Gall fod yn unrhyw fath o gyfarpar trydanol neu sy’n cael ei bweru gan fatri gan gynnwys glanhawyr sugno, glanhawyr chwistrellu a byfferau tro i lanhau lloriau, ond gall gynnwys nifer o rai eraill. Yn y cyd-destun hwn, diffinnir cyfarpar trydanol fel unrhyw gyfarpar sydd â chordyn neu gebl, ac sy’n gysylltiedig drwy blwg â soced pŵer. Nid oes gan gyfarpar sy’n cael ei bweru gan fatri gordyn. Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer glanhau amrywiaeth o arwynebau ac mae wedi’i pharatoi ar gyfer glanhawyr. Mae’n addas ar gyfer glanhau dodrefn, darnau gosod ar y llawr a gosodiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
Defnyddio cyfarpar
10. defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad
11. gwneud yn siŵr bod y cyfarpar gofynnol ar gael ar eich cyfer a chynnal y gwiriadau diogelwch perthnasol drwy edrych ar y dyddiad a'r label
12. awyru'r ardal os oes angen
13. addasu cyfarpar yn briodol ar gyfer gofynion y dasg ac yn unol â gweithdrefnau iechyd a diogelwch eich sefydliad
14. gwirio a pharatoi'r arwyneb er mwyn ei lanhau
15. gwneud yn siŵr nad oes peryglon llithro a baglu yn y man gwaith
16. gwneud yn siŵr bod y pecyn batri wedi'i wefru yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gweithdrefnau eich sefydliad
17. gwneud yn siŵr bod cebl neu gordyn y cyfarpar trydanol wedi'i leoli a'i gysylltu'n gywir
18. defnyddio'r dechneg gywir ar gyfer y cyfarpar o dan sylw
19. dewis y cynnyrch glanhau priodol i lanhau'r arwyneb
20. paratoi unrhyw gynhyrchion glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gweithdrefnau eich sefydliad
21. gwneud yn siŵr bod sylw'n cael ei roi i bob rhan o'r arwyneb er mwyn glanhau'r ardal gyfan yn drylwyr
22. gwirio cyflwr yr arwyneb ar ôl glanhau
23. gwagio unrhyw gynhyrchion glanhau dros ben o'r cyfarpar a'u gwaredu'n ddiogel
24. glanhau a phrofi'r cyfarpar yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad a'i ddychwelyd i'r man storio
25. ailosod y man gwaith
Rheoli'r risg o haint
26. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
27. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
28. archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
29. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
30. defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
31. defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau
32. dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
33. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
34. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
35. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
36. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
7. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. sut i wneud yn siŵr bod y cyfarpar yn ddiogel i'w ddefnyddio
10. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
Defnyddio'r offer
11. sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).
12. y cyfarpar trydanol neu sy'n cael ei bweru gan fatri sy'n briodol ar gyfer y dasg yr ydych yn ei chyflawni
13. pam mae'n bwysig awyru'r ardal yn gywir
14. lleoliad y man gwefru neu'r soced pŵer trydanol
15. y gwiriadau diogelwch perthnasol ar gyfer cyfarpar
16. pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad oes peryglon llithro a baglu yn y man gwaith
17. y cynhyrchion glanhau sy'n briodol ar gyfer gwahanol fathau o arwynebau
18. y dull cywir o baratoi'r toddiant
19. sut i addasu'r cyfarpar diogelu yn ddiogel
20. sut i baratoi'r arwyneb er mwyn ei lanhau
21. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwefru pecynnau batri
22. y dechneg gywir ar gyfer y cyfarpar
23. sut i wneud yn siŵr bod pob rhan o'r arwyneb yn cael ei lanhau
24. sut i archwilio'r arwyneb ar ôl ei lanhau
25. sut i waredu cynhyrchion glanhau yn ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
26. pam mae'n bwysig glanhau a phrofi cyfarpar cyn ei ddychwelyd i'r man storio
27. sut i ailosod y man gwaith
Rheoli'r risg o haint
28. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
29. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
30. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
31. y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
32. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
33. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
34. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
35. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
36. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu