Ymdrin â gwastraff, deunyddiau y gellir eu hailgylchu, eiddo coll a phecynnau amheus
URN: INSC003
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar:
23 Rhag 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â gweithio o fewn gweithdrefnau dynodedig, ac iechyd a diogelwch. Mae’n ymwneud ag ymdrin â gwastraff, deunyddiau y gellir eu hailgylchu, eiddo coll a phecynnau amheus Mae ar gyfer glanhawyr sydd angen gwneud yn siŵr bod gwastraff, deunyddiau ailgylchadwy ac eiddo coll yn cael eu trin mewn modd priodol ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad. Mae hefyd yn ymwneud ag ymdrin â phecynnau a allai gael eu hystyried fel rhai amheus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
- dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
- cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
- gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
- gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
- gwneud yn siŵr bod arwyddion perthnasol o ran diogelwch a rheoli heintiau yn cael eu harddangos yn glir mewn mannau glanhau
- gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
- nodi categorïau gwahanol o wastraff a'i ddidoli yn unol â hynny
- nodi unrhyw beth a allai fod o werth i rywun fel eiddo coll a mynd ag ef i'r man casglu dynodedig
- cofnodi a rhoi gwybod am unrhyw eitemau sydd wedi'u darganfod yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- hysbysu'r aelod staff perthnasol ar unwaith am unrhyw eitemau amheus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- gwneud yn siŵr bod bagiau plastig neu gynwysyddion yn ddiogel cyn gafael ynddynt
- nodi'r gwastraff mae angen ei drosglwyddo i fan casglu
- gwneud yn siŵr bod y cynhwysydd gwastraff yn lân ac wedi'i ail-leinio lle bo angen
- defnyddio codau lliw ar gyfer deunyddiau glanhau i osgoi'r posibilrwydd o drawshalogi
- dilyn y gweithdrefnau perthnasol o ran dadheintio ar gyfer y man sy'n cael ei lanhau
- defnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).
- nodi'r mannau y mae'r person symptomatig yn mynd iddynt cyn eu glanhau a gosod arwyddion perthnasol o'u cwmpas
- glanhau holl hylifau'r corff, gan ddefnyddio pecynnau gollyngiadau yn fuan ar ôl i'r rhain gael eu nodi
- gwaredu cyfarpar diogelu a ddefnyddiwyd, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus yn unol â chanllawiau'r cyflogwr
- storio'r gwastraff yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad cyn ei gasglu
- delio â gwastraff sydd wedi'i ddidoli'n anghywir
- gwaredu gwahanol gategorïau o wastraff yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
- egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
- y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
- y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
- sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
- sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
- gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
- gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
- yr hylendid personol sy'n angenrheidiol wrth wneud eich gwaith
- y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer paratoi eich hun a'r man gwaith yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- y categorïau gwastraff a'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â'r rhain
- pwysigrwydd didoli gwastraff yn gywir
- y gweithdrefnau perthnasol a'r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer storio gwastraff cyn ei gasglu
- gweithdrefnau gwaredu gwahanol gategorïau o wastraff
- sut i ddelio â gwastraff sydd wedi'i ei ddidoli'n anghywir
- y gweithdrefnau a'r rheolau ailgylchu yn y gweithle
- dulliau cymeradwy eich sefydliad ar gyfer trosglwyddo gwastraff
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag eiddo coll
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag eitemau amheus
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau ac ail-leinio cynwysyddion gwastraff
- pam mae'n bwysig cynnal hylendid personol wrth ymdrin â gwastraff
- yr archwiliad gweledol ac archwilio'r eitemau i'w gwaredu
- pwysigrwydd defnyddio deunyddiau glanhau sydd â chodau lliw i osgoi trawshalogi posibl
- gweithdrefnau dadheintio eich sefydliad
- sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar diogelu a ddefnyddiwyd, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTC109
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau
Cod SOC
9223
Geiriau Allweddol
gwastraff, deunyddiau y gellir ei hailgylchu, eiddo coll, pecynnau amheus, gweithdrefnau sefydliadol