Gweithio’n annibynnol a dilyn gweithdrefnau eich sefydliad wrth lanhau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â gweithio o fewn gweithdrefnau dynodedig, ac iechyd a diogelwch. Mae'n ymwneud â gweithio'n annibynnol a dilyn gweithdrefnau eich sefydliad wrth lanhau. Mae ar gyfer glanhawyr sy'n gweithio heb oruchwyliwr neu aelodau eraill o’r tîm yn yr un maes galwedigaethol. Wrth weithio’n annibynnol gallech orfod ymdrin ag aelodau’r tîm, cwsmeriaid neu’r cyhoedd. Mae'n bwysig cyfathrebu mewn modd proffesiynol a chynnal diogelwch er mwyn osgoi'r risg o haint. Mae’r safon hon yn cynnwys elfennau o sicrhau eich diogelwch a gweithio’n annibynnol. Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
Sicrhau eich diogelwch eich hun wrth weithio'n annibynnol
10. cadarnhau'r manylion cysylltu gyda'ch sefydliad neu aelod staff perthnasol
11. gwneud yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â chyfrifoldebau cyfreithiol cyflogwr o ran gweithio ar eich pen eich hun a'r mesurau rheoli y mae eu cyflogwr wedi'u rhoi ar waith i'w diogelu
12. gwneud yn siŵr bod y camau brys a'r cysylltiadau mewn argyfwng yn eu lle
13. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i'r gweithle a'i adael, a pharhau'n effro i risgiau diogelwch wrth weithio'n annibynnol
14. cael mynediad at y gweithle awdurdodedig yn unol â'ch cyfrifoldebau
15. nodi unrhyw broblemau a risgiau posibl a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â nhw yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
16. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw broblemau sydd heb eu datrys neu risgiau iechyd a diogelwch
Gweithio'n annibynnol
17. cael y rhaglen waith gan gynnwys y tasgau a'r cyfarwyddiadau o fewn yr amserlen ofynnol
18. cynnal lefelau cyswllt y cytunwyd arnynt wrth weithio'n annibynnol
19. cyflawni eich gwaith yn unol â gweithdrefnau a phrotocolau eich sefydliad
20. nodi a blaenoriaethu'r tasgau pwysicaf ym manylion y gwaith a gwneud yn siŵr bod y rhain yn cael eu cyflawni yn gyntaf
21. ymateb i aelodau'r tîm, cwsmeriaid neu'r cyhoedd mewn modd proffesiynol a'u cynorthwyo pan fo angen
22. cofnodi unrhyw doriadau, difrod neu darfu yn y gweithle a hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt
23. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw dasgau sydd heb eu cwblhau a chytuno ar drefniadau i gwblhau'r gwaith
24. hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw dasgau sydd heb eu cwblhau a chytuno ar amseroedd ar gyfer cwblhau'r gwaith
25. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gadael y gweithle
Rheoli'r risg o haint
26. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
27. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
28. archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
29. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
30. defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
31. defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau
32. dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
33. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
34. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
35. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
36. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
7. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
Sicrhau eich diogelwch eich hun wrth weithio'n annibynnol
10. y trefniadau cysylltu gyda'ch sefydliad neu'r aelod staff perthnasol
11. cyfrifoldebau cyfreithiol eich cyflogwr o ran gweithio ar eich pen eich hun
12. y mesurau a roddwyd ar waith gan eich cyflogwr i ddiogelu gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain
13. y camau brys a'r cysylltiadau mewn argyfwng
14. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i'r gweithle a pham y dylid dilyn y rhain
15. lefelau'r mynediad awdurdodedig at y gweithle yn unol â'ch cyfrifoldebau
16. y mathau o risgiau sydd yn eich gweithle, sut i asesu'r rhain yn gywir, a'r camau i gael gwared arnynt
17. yr aelodau staff perthnasol i'w hysbysu am unrhyw broblemau sydd heb eu datrys neu risgiau iechyd a diogelwch
Gweithio'n annibynnol
18. sut i gael eich rhaglen waith, yr amserlen a'r cyfarwyddiadau perthnasol er mwyn cyflawni eich gwaith
19. pa mor aml mae angen cysylltu wrth weithio'n annibynnol
20. gweithdrefnau a phrotocolau eich sefydliad ar gyfer eich man gwaith
21. sut i flaenoriaethu'r tasgau pwysicaf a pham mae'n bwysig cwblhau'r rhain yn gyntaf
22. sut i ymateb i aelodau'r tîm, cwsmeriaid neu'r cyhoedd mewn modd proffesiynol
23. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi difrod, toriadau neu darfu a pham mae'n bwysig bod yn onest am achosi unrhyw un o'r rhain
24. pam mae'n bwysig asesu cynnydd eich gwaith a nodi unrhyw dasgau sydd heb eu cwblhau
25. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gadael y gweithle a pham mae'n bwysig ei adael yn ddiogel
Rheoli'r risg o haint
26. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
27. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
28. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
29. y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
30. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
31. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
32. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
33. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
34. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu