Cynnal hylendid personol wrth lanhau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â gweithio o fewn gweithdrefnau dynodedig, ac iechyd a diogelwch. Mae'n ymwneud â chynnal hylendid personol wrth lanhau. Mae ar gyfer glanhawyr a ddylai bob amser gadw eu hunain a'r mannau gwaith yn hylan, yn lân ac yn daclus wrth reoli'r risg o haint. Mae'r safon hefyd yn ymwneud â defnyddio cyfarpar diogelu, a'i waredu yn dibynnu ar y tasgau rydych chi'n eu cyflawni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a diogelu
1. cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael
5. gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau
6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu
7. gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn
8. dewis y cyfarpar côd lliw priodol
9. gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir
10. gwneud yn siŵr bod y man gwaith wedi'i awyru fel nad oes llwch a mygdarthau cemegol yn mynd yno
Diogelu
11. gwisgo dillad ac esgidiau glân
12. defnyddio'r cyfarpar diogelu yn unol â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol gan ddibynnu ar y tasgau rydych yn eu cyflawni
13. gwneud yn siŵr bod y cyfarpar diogelu wedi'i labelu'n glir yn unol â'r rheoliadau perthnasol
14. dewis y cyfarpar diogelu priodol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ac arweiniad a gweithdrefnau eich sefydliad
15. gwneud yn siŵr bod y cyfarpar diogel yr ydych yn ei ddefnyddio yn lân ac yn briodol i'w ddefnyddio a'i newid yn unol ag arweiniad a gweithdrefnau eich sefydliad
16. gwneud yn siŵr bod y cyfarpar diogelu wrth gefn ar gael, pan fo angen
17. gwaredu'r cyfarpar diogelu sydd wedi'i ddefnyddio yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Hylendid personol
18. cynnal hylendid personol drwy gadw eich gwallt, eich croen a'ch ewinedd yn lân
19. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer golchi eich dwylo ar adegau priodol
20. defnyddio'r cynhyrchion gofal croen perthnasol er mwyn atal anhwylderau croen galwedigaethol
21. rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am doriadau o'r croen, crafiadau a salwch stumog
22. gwneud yn siŵr bod rhwymynnau priodol yn cael eu rhoi ar doriadau i'r croen, crafiadau neu gyflyrau croen
23. dilyn arweiniad a gweithdrefnau perthnasol eich sefydliad ynglŷn â'r math o emwaith ac ategolion y gellir eu gwisgo
Rheoli'r risg o haint
24. dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle
25. dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
26. archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
27. glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg
28. defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol
29. defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau
30. dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
31. gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig
32. glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio
33. golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad
34. gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi a diogelu
1. y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel
2. egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle
3. y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd
4. y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau
5. sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
6. gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel
7. sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau
8. gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle
9. pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio
10. pam mae'n bwysig gweithio mewn man sydd wedi'i awyru
Diogelu
11. y mathau perthnasol o gyfarpar diogelu a sut i gael gafael arnynt
12. sut i ddefnyddio cyfarpar diogelu perthnasol yn dibynnu ar y tasgau yr ydych yn eu cyflawni
13. sut dylai cyfarpar diogelu gael ei wirio, ei ddewis a'i labelu a pham y dylai gael ei wisgo
14. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer storio'r cyfarpar diogelu a'i gadw'n lân
15. sut i waredu cyfarpar diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Hylendid personol
16. pam mae angen defnyddio'r cynhyrchion gofal croen perthnasol a'u defnyddio'n rheolaidd
17. pam mae'n bwysig dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer golchi eich dwylo ar yr holl adegau priodol
18. pam mae'n bwysig hysbysu'r aelod staff perthnasol am salwch a heintiau, yn enwedig salwch stumog
19. pam mae'n bwysig cynnal hylendid personol drwy gadw eich gwallt, eich croen a'ch ewinedd yn lân
20. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am doriadau i'r croen, crafiadau, cyflyrau croen, salwch neu heintiau
21. pam mae gwisgo gemwaith ac ategolion eraill yn gallu peryglu hylendid personol ac amgylcheddol
22. y risgiau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â'r tasgau rydych yn eu cyflawni
Rheoli'r risg o haint
23. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint
24. pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad
25. y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd
26. y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml
27. yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol
28. y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd
29. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio
30. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio
31. hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu