Cynllunio a rheoli menter
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer intrapreneuriaid sy'n cynllunio ac yn rheoli menter. I wneud hyn mae angen i chi gynllunio menter o'r syniad cychwynnol a rheoli'r sefydliad. Mae'n golygu ennill ymrwymiad gan eraill, sicrhau bod aelodau'r tîm yn cyfathrebu i symud y syniad yn ei flaen, cynllunio a defnyddio adnoddau, adolygu perfformiad aelodau'r tîm wrth ddatblygu a chyflawni'r fenter a chynorthwyo datblygiad aelodau eraill yn y tîm i fynd i'r afael â meysydd lle gwelir tanberfformio. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol, rhagweithiol a pharhaus i'r fenter.
At ddibenion y safon hon, gall 'sefydliad' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, awdurdod lleol, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau sefydliad neu fwy yn cydweithio tuag at nodau cyffredin. Mae 'menter' yn cyfeirio at syniad am weithgaredd, datblygiad neu brosiect newydd fydd yn gwneud gwahaniaeth i berfformiad economaidd a/neu gymdeithasol y sefydliad. Mae 'amgylchedd busnes' yn cyfeirio at amgylchedd allanol a mewnol y sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael ymrwymiad gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ar gyfer rheoli'r gwaith o gyflwyno'r fenter
- cadarnhau'r adnoddau staff ar gyfer helpu i ddatblygu'r fenter a'i chyflwyno
- trefnu'r adnoddau ariannol a'r adnoddau eraill sydd eu hangen i ddatblygu'r fenter a'i chyflwyno
- cyfrifo'r cyllid sydd ei angen a'r incwm a'r gwariant posibl sy'n gysylltiedig â'r fenter
- cael adborth gan gydweithwyr yn y sefydliad ynghylch datblygiad y fenter
- datblygu cynllun a fydd yn sail i gyflwyno'r fenter a'i gadarnhau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
- cytuno ar ddulliau allweddol o fesur llwyddiant gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
- asesu heriau i gyflawni'r fenter a strategaethau i fynd i'r afael â'r heriau hyn
- gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni gweledigaeth a nodau'r fenter
- cyfrifo perfformiad ariannol y fenter gan ddefnyddio'r dangosyddion y cytunwyd arnynt
- adolygu perfformiad cydweithwyr wrth gyflwyno'r fenter
- adolygu perfformiad personol wrth gyflwyno'r fenter
- cael adborth gan gydweithwyr yn y sefydliad am gyflwyno'r fenter
- gwerthuso'r goblygiadau i'r strwythurau trefniadol wrth symud y fenter yn ei blaen
- adolygu dylanwadau mewnol ar gynaliadwyedd y fenter a chytuno ar gamau gweithredu yn y dyfodol gyda rhanddeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffyrdd o fynd ati i reoli menter mewn sefydliad
- manteision ac anfanteision y gwahanol ddulliau hyn
- y manteision a'r heriau sy'n gysylltiedig â defnyddio cydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad wrth reoli menter mewn sefydliad
- pam mae'n bwysig cael ymrwymiad gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ar gyfer datblygu'r fenter a'u chyflwyno
- y sianelau cyfathrebu rhwng cydweithwyr wrth reoli'r fenter a sut i'w defnyddio'n effeithiol
- strwythur a dull cyflwyno cynllun ar gyfer ennill ymrwymiad cydweithwyr mewn perthynas â defnyddio a chaffael adnoddau
- staff mewnol y sefydliad a rhanddeiliaid allanol ar gyfer caffael a defnyddio adnoddau
- sut i adolygu perfformiad cydweithwyr wrth ddatblygu'r fenter a'i chyflwyno
- y dulliau mesur perfformiad cydweithwyr wrth ddatblygu menter a'i chyflwyno
- y dangosyddion ar gyfer mesur perfformiad ariannol y fenter yn y sefydliad
- sut i gyfrifo perfformiad ariannol y fenter
- sut i wella perfformiad y fenter o ran ei chanlyniadau drwy fonitro ac adolygu ei chyllid
- y dulliau casglu adborth ynghylch datblygu'r fenter a'i chyflwyno
- pam mae'n bwysig adolygu perfformiad personol wrth ddatblygu'r fenter a'i chyflwyno
- y dulliau cynorthwyo datblygiad personol a datblygiad staff mewn perthynas â sicrhau bod y fenter yn cael ei chyflwyno yn erbyn y weledigaeth a'r nodau y cytunwyd arnynt