Datblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer menter
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer intrapreneuriaid sy'n datblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer menter. Mae angen i chi ddatblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer menter newydd yn y sefydliad er mwyn symud ymlaen â'r gwaith o'i datblygu a'i chyflwyno. Mae'n cynnwys myfyrio ar nodau a gwerthoedd personol, alinio'r rhain â blaenoriaethau'r busnes ac asesu pa mor agored yw'r sefydliad i ymateb yn fentrus i gefnogi datblygiad y fenter. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol, rhagweithiol a pharhaus i'r fenter.
At ddibenion y safon hon, gall 'sefydliad' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, awdurdod lleol, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau sefydliad neu fwy yn cydweithio tuag at nodau cyffredin. Mae 'menter' yn cyfeirio at syniad am weithgaredd, datblygiad neu brosiect newydd fydd yn gwneud gwahaniaeth i berfformiad economaidd a/neu gymdeithasol y sefydliad. Mae 'amgylchedd busnes' yn cyfeirio at amgylchedd allanol a mewnol y sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio i'r amgylchedd busnes i archwilio cyfleoedd i'r fenter wneud gwahaniaeth i'r sefydliad
- diffinio eich gweledigaeth bersonol a'ch nodau ar gyfer y fenter newydd
- diffinio gweledigaeth a nodau sefydliadol sy'n cyd-fynd â'ch blaenoriaethau, eich nodau a'ch gwerthoedd chi a'ch sefydliad
- cyflwyno syniadau yn anffurfiol i gydweithwyr a rhanddeiliaid
- sicrhau cefnogaeth cydweithwyr a rhanddeiliaid ar gyfer gweledigaeth a nodau'r fenter
- nodi opsiynau ar gyfer cyflawni gweledigaeth a nodau'r fenter newydd
- dadansoddi'r opsiynau i ddewis yr un gorau
- gwerthuso effaith debygol perfformiad y sefydliad ar hyn o bryd ar eich gweledigaeth a'ch nodau ar gyfer y fenter newydd
- asesu'r adnoddau o fewn y sefydliad i helpu'r datblygiad y fenter a'i chyflwyno
- datblygu achos busnes i ymrwymo adnoddau sy'n amlygu'r manteision i'r sefydliad os cyflawnir gweledigaeth a nodau'r fenter newydd
- defnyddio eich nodau a'ch gwerthoedd eich hun i gael cefnogaeth gan gydweithwyr eraill i symud y fenter newydd yn ei blaen
- llunio cynllun i roi'r fenter newydd ar waith
- nodi'r rhwystrau a'r heriau a allai effeithio ar y fenter newydd
- nodi offer monitro a gwerthuso cyflawniad y weledigaeth a'r nodau a amlinellwyd ar gyfer y fenter newydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffyrdd o alinio gweledigaeth a nodau personol ar gyfer y fenter newydd â rhai'r sefydliad
- sut i ddiffinio datganiad gweledigaeth ar gyfer y fenter newydd
- pam mae'n bwysig cael cefnogaeth cydweithwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer y fenter newydd
- y dulliau anffurfiol o gyflwyno'r syniadau sy'n ymwneud â'r weledigaeth a'r nodau a nodwyd ar gyfer y fenter newydd o fewn sefydliad
- sut i gyflwyno'r manteision sy'n gysylltiedig â'r fenter newydd i ennill ymrwymiad cydweithwyr a rhanddeiliaid o fewn y sefydliad
- yr offer ar gyfer mesur perfformiad y sefydliad ar hyn o bryd a'r manteision a'r anfanteision cysylltiedig
- y systemau monitro ac adolygu i nodi cynnydd tuag at weledigaeth a nodau'r fenter newydd
- yr adnoddau sydd ar gael o fewn y sefydliad i roi sylfaen ar gyfer datblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer y fenter newydd
- y dulliau ar gyfer marchnata a chyfleu gweledigaeth a nodau'r fenter newydd i gydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol
- sut i lunio cynllun sy'n amlygu'r gweithgareddau a'r cerrig milltir sydd eu hangen i gyflawni'r weledigaeth a'r nodau ar gyfer y fenter newydd
- goblygiadau'r fenter ar gyfer prosesau a systemau gweithredol yn y sefydliad
- sut gallai ffyrdd o waith sydd wedi ennill eu plwyf yn y sefydliad greu rhwystrau a heriau i lwyddiant y fenter newydd
- y strategaethau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag unrhyw heriau a chyfleoedd mewn perthynas â gweledigaeth a nodau'r fenter newydd