Cydweithio â rhanddeiliaid menter
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer intrapreneuriaid sy'n cydweithio â rhanddeiliaid menter. Gyda menter newydd mae angen i chi nodi gwahanol grwpiau o randdeiliaid i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu'r busnes a'i gyflwyno. Mae'n golygu mabwysiadu ymagwedd drefnus a gwrthrychol at nodi anghenion rhanddeiliaid, o fewn a thu allan i'r sefydliad, gan ddadansoddi eu hanghenion a gweithio trwy ymatebion i fynd i'r afael â'r anghenion hyn. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol, rhagweithiol a pharhaus i'r fenter.
Gall 'sefydliad' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, awdurdod lleol, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau sefydliad neu fwy yn cydweithio tuag at nodau cyffredin. Mae 'menter' yn cyfeirio at syniad am weithgaredd, datblygiad neu brosiect newydd fydd yn gwneud gwahaniaeth i berfformiad economaidd a/neu gymdeithasol y sefydliad. Mae 'amgylchedd busnes' yn cyfeirio at amgylchedd allanol a mewnol y sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi rhanddeiliaid a'u hanghenion mewn perthynas â chyflawni'r fenter
- nodi'r mathau o ddylanwad y gall rhanddeiliaid mewnol ac allanol ei gael ar gyflwyno'r fenter
- ymgynghori â rhanddeiliaid i ddadansoddi eu hanghenion mewn perthynas â chyfleoedd y fenter
- nodi unrhyw wrthdaro posibl mewn buddiannau rhwng gwahanol grwpiau o randdeiliaid
- rheoli pob gwrthdaro mewn buddiannau â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol
- defnyddio gwahanol ffyrdd o brofi hyfywedd y fenter arfaethedig wrth fynd i'r afael ag anghenion rhanddeiliaid
- ymgynghori â chydweithwyr i werthuso perfformiad y timau yn y sefydliad ar hyn o bryd a'r gallu i gefnogi'r fenter
- ceisio cyngor ac arweiniad gan aelodau staff eraill y sefydliad a'i ddefnyddio
- diffinio meini prawf i fesur cyfraniad y fenter
- adolygu cyfraniad y fenter at flaenoriaethau a nodau'r sefydliad
- nodi a datrys gwahanol heriau mewnol ac allanol i fynd i'r afael ag anghenion drwy'r fenter
- adolygu sut mae'r fenter wedi'i derbyn o fewn y sefydliad
- nodi ac adolygu'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw fylchau a nodwyd o ran adnoddau a chytuno ar gamau gweithredu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam mae'n bwysig nodi a deall anghenion cydweithwyr yn y sefydliad
- sut i ddatblygu offer i ymgynghori ag aelodau staff eraill ynghylch anghenion y sefydliad a grwpiau o randdeiliaid allweddol
- dulliau dadansoddi anghenion gwahanol grwpiau o randdeiliaid mewnol ac allanol
- sut i ymgynghori â rhanddeiliaid i nodi eu hanghenion gan y sefydliad
- sut i adolygu a dadansoddi perfformiad y sefydliad ar hyn o bryd wrth ymgysylltu â grwpiau mewnol ac allanol o randdeiliaid
- y gwahanol gamau yn y broses o ddadansoddi anghenion rhanddeiliaid
- y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rheoli gwrthdaro mewn buddiannau
- ffynonellau cyngor ac arweiniad mewnol er mwyn deall y canlyniadau o'r dadansoddiad o anghenion a nodwyd
- pam mae'n bwysig ystyried y dylanwadau a'r blaenoriaethau a roddir mewn gwahanol rannau o'r sefydliad
- y dulliau mesur sy'n adolygu i ba raddau y bydd yr anghenion yn cael eu diwallu gan y fenter newydd a sut i'w defnyddio
- y gwahanol fathau o anghenion a fynegir gan gydweithwyr a rhanddeiliaid y sefydliad
- dylanwadau aelodau staff unigol ar anghenion y sefydliad
- sut i ddeall effaith gwahanol heriau a rhwystrau ar weithredu'r fenter, gan gynnwys adnoddau