Dirprwyo gwaith yn eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n dirprwyo gwaith yn eu busnes. Os byddwch yn gweld nad oes digon o amser neu os nad oes gennych yr holl sgiliau angenrheidiol, gallai eich helpu i ddirprwyo tasgau i aelodau staff eraill neu allanoli'r rhain i gymdeithion allanol eraill, isgontractwyr neu ymgynghorwyr arbenigol. Mae dirprwyo gwaith yn eich busnes yn golygu nodi eich gofynion, cynllunio'r tasgau, y cyfrifoldebau a'r targedau ar gyfer gwaith rydych chi'n ei ddirprwyo, a pharatoi gwybodaeth fydd yn helpu staff i wneud y tasgau a ddirprwywyd iddynt.
Gallech wneud hyn:
os oes angen i chi drosglwyddo gwaith na allwch ei wneud eich hun;
os ydych yn cael pobl eraill i weithio i chi;
os ydych yn briffio pobl eraill ynghylch beth i'w wneud;
os ydych yn gwirio gwaith y mae pobl eraill yn ei wneud i chi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r tasgau a'r cyfrifoldebau i'w dirprwyo
- dewis staff mewnol neu gymdeithion allanol sydd â'r sgiliau, yr amser a'r galluoedd cywir
- cytuno ar gwmpas dirprwyedig y gwaith gyda staff mewnol neu gymdeithion allanol
- dyrannu ac egluro targedau a therfynau'r gwaith
- darparu'r adnoddau a'r wybodaeth i alluogi'r staff mewnol neu gymdeithion allanol i gwblhau'r tasgau
- darparu hyfforddiant ar gyfer tasgau dirprwyedig os oes angen
- gwirio bod staff mewnol neu gymdeithion allanol yn deall eu tasgau
- nodi ffyrdd o ysgogi staff mewnol neu gymdeithion allanol i gwblhau'r tasgau
- annog staff mewnol neu gymdeithion allanol i fod yn greadigol yn y modd y maent yn cwblhau'r tasgau
- cytuno ar ddyddiadau targed ar gyfer cwblhau'r gwaith
- cytuno ar sianeli cyfathrebu a pha mor aml y cysylltir â nhw
- annog cynnydd drwy roi unrhyw gyngor a chymorth, lle bo angen
- awgrymu gwelliannau a ffyrdd o ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi
- monitro gwaith dirprwyedig i wirio bod y targedau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyrraedd
- coladu adborth ar ansawdd gwaith dirprwyedig a defnyddio'r wybodaeth i ddirprwyo yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio
1. sut i osod targedau ar gyfer gwaith dirprwyedig
2. sut i gynllunio gwaith drwy osod targedau tymor byr a thymor hir, rhannu'r targedau yn weithgareddau llai, trefnu'r gweithgareddau yn ôl pwysigrwydd a brys ac amcangyfrif yr amser a gymerir
3. sut i osod terfynau a chwmpas yr awdurdod ar gyfer y tasgau i'w gwneud
4. amserlenni a therfynau amser, costau, defnyddio deunyddiau, offer a chyfarpar, ansawdd, iechyd a diogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid
5. sut i gytuno ar gontractau gyda chymdeithion allanol
6. sut i asesu a all rhywun gyflawni tasg
7. sut i benderfynu a ellir dibynnu ar rywun i gyflawni'r dasg yn foddhaol ac yn gyfrifol
Ysgogi staff mewnol neu gymdeithion allanol
8. sut i gyfleu'r hyn rydych yn ei ddisgwyl a gwirio eich bod yn cael eich deall
9. sut i ysgogi pobl ac ennill eu hymrwymiad
10. sut i annog staff mewnol neu gymdeithion allanol i fod yn greadigol
11. sut i gynnig cyngor a chymorth drwy ddarparu gwybodaeth, hyfforddiant, cymorth ymarferol neu anogaeth
12. sianeli cyfathrebu a pham mae cael diweddariadau neu adrodd rheolaidd ar gynnydd yn bwysig
13. sut i hyfforddi rhywun i gyflawni tasg yn y ffordd yr ydych yn ei disgwyl
Gwirio gwaith
14. nodau a chynnydd gwaith dirprwyedig
15. sut i gydnabod unrhyw fethiannau a chamau i'w cymryd pan fydd y rhain yn digwydd
16. sut i ddatrys problemau o ran y gwaith rydych chi'n ei ddirprwyo
17. sut i fonitro ansawdd gwaith dirprwyedig
18. sut i asesu a yw rhywun yn perfformio'n dda
19. y dulliau cymharu rhwng safonau disgwyliedig a'r canlyniadau a gyflawnwyd
20. sut i nodi gwelliannau a'u cydnabod
21. sut i gymryd camau ar sail adborth ar ansawdd y gwaith a ddirprwywyd