Ceisio cyngor a help ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen ceisio cyngor a help ar gyfer eu busnes. Mae llawer o achosion pan fydd angen i chi gael cyngor neu gymorth ar gyfer eich busnes. Mae llawer o wahanol weithwyr proffesiynol, asiantaethau a sefydliadau sy'n gallu eich helpu gyda'ch busnes. Gallant gynnig cyngor a gwybodaeth gyffredinol am sefydlu neu redeg busnes neu gyngor a help sy'n benodol i'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu. Byddwch am wneud yn siŵr bod y cyngor rydych yn ei dderbyn yn gyfoes, yn berthnasol i'ch busnes ac yn bodloni eich gofynion. Mae gofyn am gyngor a help i'ch busnes yn cynnwys gwybod pa help sydd ei angen arnoch chi, nodi sut a ble i gael yr help sydd ei angen arnoch chi, cael yr help sydd ei angen arnoch chi, a gwneud yn siŵr ei fod yn bodloni eich gofynion.
Gallech wneud hyn os ydych:
newydd ddechrau busnes neu fenter gymdeithasol;
yn adolygu busnes neu fenter gymdeithasol
wedi adolygu eich sgiliau a dod o hyd i wybodaeth a chyngor sydd ei angen arnoch chi
yn awyddus i ddatblygu eich busnes neu ei newid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi eich anghenion busnes, materion neu broblemau y mae angen i chi eu datrys
- diffinio'ch anghenion a'ch targedau cyn ceisio cyngor neu gymorth
- nodi'r help neu'r cymorth sydd ei angen arnoch i symud eich busnes ymlaen
- nodi a choladu ffynonellau gwybodaeth, cyngor a help i gynorthwyo eich busnes
- nodi'r ystod o weithwyr proffesiynol a sefydliadau a dewis y rhai sy'n debygol o ddiwallu anghenion eich busnes
- cyfrifo cost a manteision cael gwahanol fathau o gymorth a chyngor
- penderfynu pryd a sut i gysylltu â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth
- gwirio bod yr help a gynigir yn addas i anghenion eich busnes, yn ddilys a bod modd dibynnu arno
- gofyn am gymorth gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau
- coladu'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r cymorth a'r cyngor a dderbyniwyd a thrafod unrhyw bwyntiau sy'n gofyn am eglurhad
- penderfynu a oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch ac y gallech gael gafael arno
- cadw cofnodion o'r cyngor a'r cymorth a dderbyniwyd ac asesu i ba raddau yr oedd yn addas i anghenion eich busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a chyngor
- y gofynion, y materion neu'r problemau y mae angen i chi eu datrys ar gyfer eich busnes
- beth yw anghenion eich busnes a'r math o help sydd ei angen arnoch chi, fel cynllunio neu ddatblygu busnes, cyllido, lleoliad a safle, staff, TGCh neu farchnata.
- mae ffynonellau cyngor a help yn berthnasol i'ch busnes, megis ffrindiau, teulu, cynghorwyr arbenigol, sefydliadau cymorth busnesau ac asiantaethau'r llywodraeth
- y dulliau cyfathrebu i gael yr help sydd ei angen arnoch
- yr ystod o gwestiynau y gallai fod angen i chi eu gofyn i gael y cyngor sydd ei angen arnoch
- yr help a'r cymorth y gall gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eu cynnig i'ch busnes
- sut i wneud y defnydd gorau o gysylltiadau ac osgoi eu gorlwytho
- pa mor bwysig yw cael y math iawn o gyngor a help
- sut i wirio y bydd y cyngor a'r help sydd ei angen arnoch yn gweithio i anghenion eich busnes
- costau a manteision cymorth a chyngor
- y ffynonellau arian sydd ar gael ar gyfer anghenion eich busnes
- beth mae gwasanaethau cymorth yn gallu ac yn methu ei wneud wrth ddarparu cymorth
- pam mae'n fuddiol cadw cofnod o'r wybodaeth a dderbyniwyd i ddiwallu anghenion eich busnes