Archwilio potensial eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen archwilio potensial eu busnes. Chi yw'r ased pwysicaf yn eich busnes, felly mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod eich busnes yn cefnogi eich ffordd o fyw, amcanion busnes a'r nodau ariannol rydych chi'n anelu at eu cyflawni o'ch busnes. Mae archwilio potensial eich busnes yn cynnwys cymharu'r hyn rydych chi'n ei roi gyda'r hyn rydych chi'n ei gael allan o'ch busnes, gan edrych ar eich rôl eich hun yn eich busnes, a chydbwyso eich anghenion eich hun â rhai eich busnes.
Gallech wneud hyn os ydych yn:
dechrau busnes neu fenter gymdeithasol;
adolygu eich busnes neu fenter gymdeithasol;
adolygu eich rhesymau dros barhau i redeg eich busnes neu'ch menter gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r amcanion a'r nodau ariannol ar gyfer eich busnes
- dadansoddi'r gweithgareddau yn eich busnes
- dadansoddi'r hyn rydych chi ei eisiau'n bersonol o'ch busnes
- asesu'r manteision a gewch o'ch busnes
- nodi'r hyn rydych chi'n barod i'w fentro'n bersonol ar gyfer eich busnes
- nodi manteision ac anfanteision rhedeg eich busnes eich hun
- diffinio eich rôl yn eich busnes, pa rannau rydych chi'n eu mwynhau a'ch cryfderau
- nodi agweddau ar eich busnes efallai na fyddwch yn eu mwynhau a ble y bydd angen i chi ddatblygu sgiliau
- meddwl am eich ffordd o fyw a phenderfynu beth sydd bwysicaf, a lleiaf pwysig
- diffinio'r hyn rydych chi'n ei roi yn eich busnes a'r hyn rydych chi'n gobeithio ei gael allan ohono
- casglu'r holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys barn cwsmeriaid a rhanddeiliaid am eich busnes
- gwneud ymchwil i'r farchnad i nodi'r bylchau yn y farchnad, tueddiadau a dealltwriaeth
- archwilio cyfleoedd i'ch busnes dyfu
- ymchwilio i'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn yn y farchnad
- nodi cyfeiriad eich busnes yn y dyfodol
- gosod targedau ar gyfer eich busnes
- penderfynu sut y gallwch chi gydbwyso eich anghenion eich hun ag anghenion eich busnes
- newid yr hyn rydych chi'n ei wneud i wella eich perfformiad eich hun a'ch busnes
- gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich targedau ac yn creu camau os nad ydynt yn cael eu cyrraedd
- gosod targedau newydd i chi eich hun pan mae targedau blaenorol yn cael eu cyrraedd
- monitro eich perfformiad i weld sut mae'n effeithio ar lwyddiant eich busnes
- penderfynu beth yw eich cryfderau a'ch gwendidau a phenderfynu a oes angen i chi ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch ymddygiadau
- ail-asesu ac adolygu targedau ar gyfer eich perfformiad yn rheolaidd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Canolbwyntio ar fusnes
1. y wybodaeth am anghenion cyffredinol eich busnes
2. eich cynlluniau busnes a allai fod angen sgiliau newydd neu gymorth rheoli cyffredinol
3. yr amcanion a'r nodau ariannol ar gyfer eich busnes
4. y gweithgareddau hyrwyddo gwerthiant
5. manteision ac anfanteision rhedeg eich busnes eich hun
6. beth allai eich busnes ei gyflawni, megis gwobrau ariannol, cyflawniad personol, annibyniaeth, llwyddiant busnes
7. y gweithgareddau rheolaidd yn y termau byr, canolig a hir wrth redeg eich busnes
Chi eich hun
8. y mathau o fuddsoddiadau yn eich busnes, megis amser, arian, ymrwymiad, brwdfrydedd, a chreadigrwydd
9. sut i ddadansoddi eich nodau yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir
10. y gwahaniaeth rhwng eich anghenion personol chi ac anghenion a nodau eich busnes
11. faint o arian sydd ei angen arnoch i fyw bob wythnos, bob mis neu bob blwyddyn
12. yr incwm gros y mae'n rhaid i'ch busnes ei wneud i roi'r arian sydd ei angen arnoch i fyw arno
13. effaith ennill neu golli unrhyw fudd-daliadau neu gredyd treth gwaith y gallech ei hawlio
14. sut i wneud i fusnes weithio a sut y gallai hyn effeithio ar eich ffordd o fyw
15. y risgiau posibl a faint o risg rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei gymryd
Eich sgiliau
16. eich sgiliau cynhyrchu busnes
17. y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynorthwyo a datblygu eich sgiliau busnes a'ch galluoedd eich hun
18. eich sgiliau technegol a'r profiad sydd gennych wrth wneud y cynnyrch neu ddarparu'r gwasanaeth
19. eich sgiliau gweithredol i wneud i'ch busnes weithio
20. eich sgiliau rheoli a sgiliau eraill, megis ymchwilio i'r farchnad, datblygu strategaeth fusnes, syniadau newydd a chreadigrwydd
Eich perfformiad
21. eich gallu i ddelio â chyfleoedd a bygythiadau (er enghraifft, unrhyw newidiadau yn y farchnad, technolegau newydd, bygythiadau gan y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn neu o ran cwrdd â deddfau a rheoliadau newydd)
22. sut y gallech chi wella eich gyfraniad at lwyddiant busnes (er enghraifft, dirprwyo gwaith i eraill, recriwtio rhagor o staff, hyfforddi eich hun ac eraill)
23. sut i fonitro ac asesu eich perfformiad eich hun i nodi newidiadau
Ymgynghori
24. pam mae'n bwysig gofyn am adborth o wahanol ffynonellau, megis gan deulu, cyllidwyr, rhanddeiliaid, cwsmeriaid
Gwybodaeth a chyngor
25. lle i ddod o hyd i'r help sydd ei angen i asesu eich perfformiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Rheoli gwaith papur
- Cynhyrchu busnes
- Gweithgareddau hyrwyddo gwerthiant
- Gwerthiant a marchnata
- Sefyllfa ariannol
- Prynu
- Cydymffurfio â chyfraith busnes
- Cael gafael ar gyflenwadau
- Cynnal cyfarpar
- Monitro ansawdd
- Cael cyhoeddusrwydd
- Ysgrifennu deunyddiau hyrwyddo
- Meddwl yn strategol
- Cyfathrebu
- Delio â rhanddeiliaid
- Rheolaeth ac arweinyddiaeth
- Trafod
- Gwneud penderfyniadau
- Datrys problemau a dirprwyo