Rheoli portffolios cleientiaid eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n rheoli portffolios cleientiaid eu busnes. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain a rhedeg busnesau presennol, naill ai ar sail wirfoddol neu fasnachol. Gallai fod angen hyn arnoch i reoli nifer o gleientiaid sy'n adlewyrchu amcanion y strategaeth economaidd ranbarthol ac er mwyn gwneud yn siŵr bod adnoddau ar gyfer cymorth busnes yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Dylai'r portffolio fod yn gytbwys iawn gyda chyfradd briodol o gleientiaid yn ymuno a gadael. Dylai teithiau cleient drwy'r llwybr cymorth busnes gynnal momentwm. Dylid datblygu strategaethau ymadael ar gyfer pob cleient.
Mae cymorth busnes yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion neu sefydliadau y tu allan i'r busnes, sy'n gysylltiedig â phroblem neu gyfle penodol yn ymwneud â'r busnes, neu ddatblygiad y busnes. Mae cymorth menter yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain. Gall 'busnes' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau neu fwy o fusnesau'n gweithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhoi adegau cyswllt gofynnol i'ch cleientiaid
- cynnal cysylltiadau â'ch cleientiaid i olrhain eu hanghenion a'u gofynion sy'n dod i'r amlwg
- diweddaru cleientiaid â chyfleoedd newydd a allai fod yn berthnasol iddynt
- rheoli portffolios cleientiaid yn unol â'u blaenoriaethau, eu hamcanion a'u strategaethau
- cytuno ar y strategaethau i ymgymryd â chleientiaid newydd a gadael cleientiaid sydd wedi cwblhau eu taith cymorth busnes
- gwneud yn siŵr bod pob cleient yn y portffolio yn gwneud cynnydd priodol er mwyn datblygu busnes
- dilyn y strategaethau ar gyfer ymdrin ag unrhyw gleientiaid nad ydynt yn gwneud unrhyw gynnydd
- canfod a mynd i'r afael ag anawsterau wrth gynnal portffolio penodol
- gwneud yn siŵr bod targedau ar gyfer rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er budd y cleientiaid, lle bo angen
- esbonio math a natur y cymorth y gallwch ei gynnig i'r cleientiaid
- defnyddio'r prosesau a'r gweithdrefnau a ddarperir, gan gynnwys casglu data a chofnodi, i gynorthwyo'r cleientiaid
- defnyddio'r system rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM) i reoli hanes y cleientiaid a chofnodi eu cynnydd
- gwneud yn siŵr bod yr holl wasanaethau yr ydych yn eu darparu ac yn gyfrifol amdanynt yn diwallu anghenion a gofynion y cleientiaid o ran ymddygiad a phroffesiynoldeb
- cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rheoli portffolio cleientiaid busnes
1. sut i ddefnyddio technegau rheoli portffolio sy'n cadw at arferion da i lwythi achosion cleientiaid
2. sut i nodi anawsterau yn gynnar wrth gynnal portffolio effeithiol
3. y strategaethau i'w defnyddio i ymgymryd â chleientiaid newydd
4. sut i fonitro neu gyflymu cynnydd y cleientiaid presennol
5. pryd i gael gwared ar gleientiaid sy'n methu gwneud cynnydd, nad ydynt bellach yn ymateb neu'n gofyn am roi'r gorau iddi
6. sut i ddod â chysylltiadau â chleientiaid sydd wedi cwblhau eu taith cefnogi busnes
7. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Perthnasoedd â chleientiaid
8. egwyddorion datblygu perthynas â chleientiaid
9. sut i ddatblygu ymddiriedaeth cleientiaid ynoch chi
10. sut gall egwyddorion gwasanaeth da i gwsmeriaid gyfrannu at adeiladu perthnasoedd hirdymor â chleientiaid
11. y cynnydd o ran datblygiad busnes sydd ei angen ar gyfer eich cleientiaid
12. pam mae'n bwysig dod i adnabod y cleientiaid fel unigolion a meithrin perthynas gyda nhw
13. manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau cyfathrebu
Gwasanaethau cymorth busnes
14. sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynhyrchion a gwasanaethau cymorth busnes newydd ac o fewn y rhwydwaith cymorth ehangach
15. sut i nodi pa gynhyrchion a gwasanaethau cymorth busnes newydd sydd er lles eich cleientiaid