Darparu gwasanaethau ymgynghori proffesiynol i'ch cleientiaid

URN: INSBE047
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori proffesiynol i'w cleientiaid. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain a rhedeg busnesau presennol, naill ai ar sail wirfoddol neu fasnachol. Mae angen hyn arnoch i ddarparu gwasanaeth ymgynghori proffesiynol dan arweiniad yn seiliedig ar alw sy'n diwallu anghenion cleientiaid. Mae'n ategu safonau galwedigaethol cenedlaethol eraill sy'n gysylltiedig ag ymgynghori drwy amlinellu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i fod yn effeithiol wrth weithio gydag unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain neu'r rhai sydd eisoes yn rheolwyr-perchnogion ar fusnes. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i chi ddatblygu perthynas â'r cleient, rheoli disgwyliadau ynghylch natur y berthynas a'r gwasanaeth i'w ddarparu, darparu gwasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient a chyflwyno'r cleient i ffynonellau cymorth eraill er mwyn ychwanegu gwerth at y profiad o weithio gyda chi.

Mae cymorth busnes yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion neu sefydliadau y tu allan i'r busnes, sy'n gysylltiedig â phroblem neu gyfle penodol yn ymwneud â'r busnes, neu ddatblygiad y busnes. Mae cymorth menter yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain. Gall 'busnes' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau neu fwy o fusnesau'n gweithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau am gymorth busnes a menter
  2. cyfleu eich profiad o weithio gyda chleientiaid sy'n dechrau, neu'n rhedeg, busnes bach
  3. nodi anghenion a gofynion eich cleientiaid
  4. adolygu cryfderau a gwendidau gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau entrepreneuraidd cleientiaid
  5. asesu cymhelliant cleientiaid i ddechrau neu redeg eu busnes eu hunain
  6. holi cleientiaid am ddatblygu'r cyfle busnes
  7. dangos dealltwriaeth o sefyllfa'r cleient, gan gynnwys y cyfleoedd busnes, eu model busnes, y farchnad, y bobl a'r dylanwadau mewnol ac allanol
  8. esbonio'r broses sy'n gysylltiedig â gweithio gyda chi gan gynnwys disgwyliadau, camau penodol ac unrhyw gostau sydd ynghlwm â'r broses
  9. darparu gwasanaeth ymgynghori sy'n gyfoes, yn berthnasol ac yn ychwanegu gwerth i gleientiaid
  10. nodi unrhyw ofynion mentora y gofynnir amdanynt gan gleientiaid
  11. cytuno ar nodau a rheolau'r broses fentora gyda'r cleient a hyd eich perthynas
  12. nodi unrhyw ofynion hyfforddiant y gofynnir amdanynt gan gleientiaid
  13. ymgorffori atebion yn y profiad hyfforddi i helpu i fynd i'r afael â phroblemau a chyfleoedd a nodwyd
  14. darparu hyfforddiant sydd yn gyfoes, yn berthnasol ac yn ychwanegu gwerth ar lefel ymarferol
  15. nodi'r adnoddau i'r cleientiaid sy'n eu hysgogi i symud o nodi'r cyfle i gymryd camau
  16. gwneud yn siŵr bod cleientiaid yn parhau i reoli eu penderfyniadau am eich gwasanaethau proffesiynol
  17. awgrymu i'r cleient sut y gallant wneud pethau yn fwy effeithiol a'r manteision a'r costau cysylltiedig
  18. awgrymu'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i gleientiaid ar lefel bersonol neu fusnes
  19. cyfeirio cleientiaid at ddarparwyr cymorth busnes eraill i fynd i'r afael â meysydd gweithredu penodol, lle bo angen
  20. adolygu eich arferion gwaith a'ch perfformiad eich hun yn rheolaidd
  21. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Empathi gyda menter

1.      y pwysau a'r cyfrifoldebau beunyddiol sy'n gysylltiedig â rhedeg eich busnes neu eich ymgynghoriaeth eich hun

2.      cyd-destun perthnasoedd teuluol a busnes y gallai perchnogion busnesau bach ac entrepreneuriaid orfod delio ag ef

3.      y gwahanol ffyrdd y gall entrepreneuriaid feddwl ac ymddwyn o gymharu âr rhai mewn cyflogaeth

Y busnes bach

4.      y sgiliau mentrus a'r wybodaeth sy'n caniatáu i rywun ddechrau busnes, goroesi a ffynnu

5.      y camau gwahanol sy'n gysylltiedig â dechrau busnes

6.      y gwahanol swyddogaethau sy'n ymwneud â rhedeg busnes gan gynnwys y gydberthynas allweddol a sut maent yn effeithio ar ei gilydd

7.      sut gall eich profiad fod yn berthnasol i wahanol fathau o fusnesau a sectorau

8.      y materion a'r arferion presennol sy'n ymwneud â'r pynciau rydych chi'n darparu ymgynghori arnynt

9.      gofynion cyfreithiol, rheoliadau diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau moeseg a osodwyd gan eich sefydliad neu gorff proffesiynol

Egwyddorion mentora

10.  egwyddorion mentora a osodwyd gan eich sefydliad

11.  beth yw eich rôl fel mentor busnes a menter

12.  yr adnoddau a'r cyfleusterau y gallai fod eu hangen ar gyfer y broses fentora

13.  y rheolau i'w gosod ar gyfer y broses fentora gan gynnwys pa mor aml i gwrdd, y lleoedd a'r amseroedd i gwrdd, beth i'w wneud os na all rhywun fynd i sesiwn a phryd i gynnwys cydweithwyr eraill yn y gwaith

14.  sut i nodi a chytuno ar gontract i fentora

Hyfforddiant proffesiynol

15.  yr ystod o faterion y gallai fod angen i hyfforddiant menter fynd i'r afael â nhw

16.  sut i deilwra hyfforddiant i gyd-fynd ag anghenion cleientiaid unigol

17.  manteision darparu hyfforddiant rhyngweithiol ac ymarferol yn seiliedig ar anghenion a gofynion y cleientiaid mewn perthynas â dechrau eu busnes eu hunain neu redeg busnes bach

Gwasanaeth ymgynghori i fusnes bach

18.  sut i addasu eich gwasanaeth i gyd-fynd ag anghenion cleientiaid

19.  y ffyrdd y gellir ehangu'r gwasanaeth craidd rydych chi'n ei gynnig i ddelio â materion eraill a allai fod yn ddefnyddiol i gleientiaid

20.  manteision cymryd golwg tymor hwy ar y busnes a'r hyn y bydd ei angen yn y dyfodol

21.  pam mae'n bwysig adeiladu gallu'r cleient a sut y gallai hyn arwain at fwy

22.  sut i ddatblygu strwythur prisio fydd yn denu busnesau bach

23.  y gweithwyr proffesiynol a darparwyr cymorth busnes sy'n darparu gwasanaethau sy'n ategu eich rhai chi

Datblygu'r berthynas gyda'r cleientiaid

24.  pam mae'n bwysig dod i adnabod y cleientiaid fel unigolion a meithrin perthynas gyda nhw

25.  sut i ddatblygu ymddiriedaeth y cleientiaid ynoch chi

26.  cryfder argymhelliad personol fel ffynhonnell busnes newydd

27.  pwysigrwydd bod yn rhagweithiol a meddwl am atebion arloesol wrth ymdrin â'r cleientiaid

28.  manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau cyfathrebu

29.  y gwahanol resymau y gallai'r cleient eu cael am ddechrau neu redeg busnes a sut bydd y rhain yn effeithio ar eu nodau

Gwella eich perfformiad

30.  ffiniau eich arbenigedd a'ch gwybodaeth mewn perthynas â chefnogi cleientiaid

31.  sut i gasglu a gwerthuso adborth i wella'r ymgynghoriaeth rydych chi'n ei darparu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABES022

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

busnes; menter; cymorth; cleientiaid; ymwybyddiaeth; ymgysylltu; rhwydweithiau; perthnasoedd; ymddiriedaeth