Datblygu eich gallu eich hun i ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter

URN: INSBE046
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n datblygu eu gallu eu hunain i ddarparu gwasanaeth cymorth busnes a menter. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain a rhedeg busnesau presennol, naill ai ar sail wirfoddol neu fasnachol. Mae angen hyn arnoch i ddatblygu eich galluoedd a'ch sgiliau wrth gynorthwyo unigolion a busnesau wrth symud o nodi'r cyfle i gymryd camau. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i chi ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau wrth ddarparu gwasanaethau cymorth busnes, myfyrio ar gymorth i'ch cleientiaid, a, lle bo'n briodol, adolygu eich anghenion a'ch gofynion gyda blaenoriaethau eich sefydliad.

Mae cymorth busnes yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion neu sefydliadau y tu allan i'r busnes, sy'n gysylltiedig â phroblem neu gyfle penodol yn ymwneud â'r busnes, neu ddatblygiad y busnes. Mae cymorth menter yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain. Gall 'busnes' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau neu fwy o fusnesau'n gweithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu'r canllawiau ar gyfer eich rôl a ddarperir gan eich sefydliad a'ch corff proffesiynol
  2. gwerthuso gofynion eich rôl wrth ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter
  3. gwerthuso eich cyfrifoldebau mewn perthynas â disgwyliadau ac amcanion eich sefydliad
  4. gwneud yn siŵr bod lefel eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth yn bodloni neu'n rhagori ar ddisgwyliadau'r cleientiaid
  5. nodi'r llwybrau i mewn i fusnes ar gyfer unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain a byd bywyd perchennog-reolwr y busnes bach
  6. dadansoddi maint a natur gwasanaethau cymorth busnes a menter i ddiwallu anghenion cleientiaid
  7. coladu'r tueddiadau, y cyfleoedd a'r datblygiadau mewn prosesau ac arferion busnes ar gyfer unigolion sy'n dechrau eu busnes eu hunain neu ar gyfer busnesau bach presennol
  8. nodi ac awgrymu datblygiadau yn y cymorth busnes a ddarperir gennych chi a'ch sefydliad
  9. cytuno ar ddefnyddio technolegau gwybodaeth a chyfathrebu gyda'ch cleientiaid
  10. ymestyn eich gwybodaeth a'ch arbenigedd mewn ymateb i newidiadau mewn prosesau busnes, arferion a gwasanaethau cymorth busnes a menter
  11. cael y wybodaeth berthnasol i ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter
  12. casglu adborth gan gleientiaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill am eich perfformiad
  13. nodi unrhyw fylchau rhwng gofynion eich rôl broffesiynol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a'ch sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau presennol
  14. creu cynllun datblygu personol gan gynnwys nodau ac amcanion
  15. datblygu eich dysgu a'ch sgiliau eich hun i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau ar hyn o bryd o ran sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth
  16. myfyrio ar eich cymhellion eich hun wrth ddarparu cymorth busnes a menter i gleientiaid
  17. gwerthuso eich arferion wrth ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter gan gynnwys asesiad yn erbyn safonau proffesiynol cydnabyddedig a'ch amcanion eich hun
  18. diweddaru eich cynllun datblygu personol i gofnodi cyflawniadau, gan ychwanegu nodau ac amcanion newydd
  19. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Ystyriaethau moesegol a phroffesiynol

1.      y canllawiau perthnasol a ddarperir gan eich sefydliad a'ch corff proffesiynol ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth busnes a menter

2.      egwyddorion moeseg, gwerthoedd a safonau arferion da

3.      pam mae'n bwysig cynnal preifatrwydd a chyfrinachedd wrth ddarparu eich gwasanaethau

4.      cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

Eich datblygiad proffesiynol

5.      egwyddorion datblygiad proffesiynol

6.      yr arddull dysgu sy'n gweddu orau i chi

7.      elfennau allweddol a chwmpas cynllun datblygu proffesiynol

8.      pam mae'n bwysig buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol parhaus

9.      pam mae'n bwysig adolygu gofynion presennol eich rôl a sut y gallai'r gofynion hyn esblygu yn y dyfodol

10.  sut i nodi anghenion datblygu er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau a nodwyd rhwng gofynion eich arferion a'r wybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau sydd gennych ar hyn o bryd

11.  sut i wella eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o fusnesau bach a phrosesau ac arferion datblygu busnesau

12.  pam mae'n bwysig myfyrio ar eich cymhellion i ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter a sut i wneud hyn yn rheolaidd

13.  eich cryfderau a'ch meysydd datblygu eich hun wrth ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter

14.  eich gwerthoedd a'ch nodau personol a gyrfaol a sut i'w cysylltu â'ch rôl wrth ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter

15.  sut i osod amcanion personol sy'n Benodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â Therfyn Amser (SMART) a chynllunio camau gweithredu cysylltiedig

16.  sut i ddiweddaru amcanion gwaith a chynlluniau datblygu yng ngoleuni eich perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter

17.  y ffordd y mae eich sefydliad a chorff proffesiynol yn gweithio gan gynnwys adnoddau, amcanion, targedau a chyllideb hyfforddi a datblygu

18.  amcanion eich sefydliad a chorff proffesiynol ar gyfer datblygiad personol

Gwella eich perfformiad

19.  y safonau perfformiad a bennir gennych chi, eich sefydliad a'ch corff proffesiynol

20.  sut i werthuso eich perfformiad yn erbyn gofynion eich rôl wrth ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter

21.  sut i ddefnyddio adborth ar eich perfformiad i ychwanegu gwerth at y gwasanaethau cymorth busnes a menter a ddarperir

22.  sut i fonitro ansawdd eich gwaith a'ch cynnydd yn erbyn gofynion a chynlluniau

23.  y ffyrdd o ddatblygu eich gwybodaeth am ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter a'ch profiad o wneud hynny

24.  sut i gynyddu eich hyder wrth weithio gydag unigolion a busnesau o wahanol gefndiroedd a sefyllfaoedd

25.  manteision ac anfanteision gwahanol fathau o weithgareddau datblygu

26.  sut mae gweithgareddau datblygu wedi cyfrannu at eich perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau cymorth busnes a menter


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABES018

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

busnes; menter; cymorth; cleientiaid; ymwybyddiaeth; ymgysylltu; rhwydweithiau; perthnasoedd; ymddiriedaeth