Helpu cleientiaid i werthuso eu hatebion eu hunain a'u defnyddio
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n helpu cleientiaid i werthuso eu hatebion eu hunain a'u defnyddio. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain a rhedeg busnesau presennol, naill ai ar sail wirfoddol neu fasnachol. Mae angen hwn arnoch i helpu cleientiaid i nodi a gwerthuso'r cymorth busnes a gynigir gennych chi neu eich sefydliad. Mae'n gofyn i chi ddatblygu cynllun cyflwyno, nodi ffyrdd o gael gwerth o wasanaethau cymorth eraill a gweithio gyda'r cleient i wneud yn siŵr bod unrhyw werthusiad yn ychwanegu gwerth at eich gweithgareddau chi a rhai'r cleient. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i chi gynorthwyo'r cleient i nodi'r hyn y maent am i ddarparwyr ei wneud, yn rhannu meini prawf i ddewis darparwyr gwasanaethau cymorth priodol ac yn nodi ffynonellau cyllid a allai gynorthwyo'r cleient i dalu am wasanaethau lle bo angen.
Mae cymorth busnes yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion neu sefydliadau y tu allan i'r busnes, sy'n gysylltiedig â phroblem neu gyfle penodol yn ymwneud â'r busnes, neu ddatblygiad y busnes. Mae cymorth menter yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain. Gall 'busnes' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau neu fwy o fusnesau'n gweithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio offer cynllunio priodol i greu rhaglen weithredu gyda'r cleient gan gynnwys gweithgareddau a cherrig milltir
- cynnal dadansoddiad risg o fewn y rhaglen sy'n cynnwys cynlluniau wrth gefn
- gwneud yn siŵr bod y cleientiaid yn deall y camau sydd eu hangen i ddatblygu rhaglen weithredu a'i hymgorffori
- adolygu cynnydd yn erbyn y rhaglen weithredu gan wneud yn siŵr bod pob carreg filltir yn cael ei chyflawni
- nodi cyfleoedd lle gall buddsoddiadau gan y cleient helpu i gael mynediad at wasanaethau cymorth busnes a menter eraill
- nodi meini prawf gwerthuso i fesur effaith a gwerth ychwanegol y gwasanaethau cymorth busnes a menter
- dyfeisio fframwaith gwerthuso ar gyfer cleientiaid i'w galluogi i adolygu effaith y gwasanaethau cymorth busnes a menter a ddarperir
- cysylltu'r fframwaith gwerthuso â thaith y cleient wrth symud o nodi'r cyfle i gymryd camau a'r goblygiadau ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau
- datblygu ymwybyddiaeth cleientiaid o'r sgiliau sydd eu hangen i gynnal gwerthusiad beirniado o gynigion gan ddarparwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter
- cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwasanaethau cymorth busnes a menter
1. cwmpas a natur gwasanaethau cymorth busnes a menter sy'n briodol i anghenion cleientiaid
2. sut i ddiwallu anghenion gwahanol gleientiaid
3. dulliau cynnal y cysylltiad â'ch cleientiaid
4. y ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i'r cleientiaid am faint a natur gwasanaethau cymorth busnes
5. sut gall gwahanol fathau o wasanaethau cymorth busnes a menter ddarparu'r arbenigedd a'r wybodaeth angenrheidiol
6. pam mae'n bwysig bod yn glir ynghylch y meini prawf sy'n ymwneud â hygyrchedd gwahanol fathau o wasanaethau cymorth busnes a menter
7. dulliau asesu pa mor ddiduedd ac annibynnol yw gwasanaethau cymorth busnes a menter
8. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymddygiad proffesiynol
Broceriaeth
9. y wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn amlinelliad ar gyfer cyflenwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter
10. y meini prawf ar gyfer dewis cyflenwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter fydd yn diwallu anghenion y cleientiaid orau
11. y cofnodion i'w cadw am gyflwyno'r cleient i ffynonellau cymorth eraill
12. pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr mai'r cleientiaid sy'n gyfrifol o hyd am ddewis a defnyddio cyflenwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter
13. ffynonellau cymorth deddfwriaethol, rheoleiddiol, ymgynghorol a sefydliadol
Cyllid
14. ystod y cyfleoedd ariannu posibl sydd ar gael i'r cleientiaid
15. y dulliau ar gyfer cael gafael ar gyllid a gwneud cais am gyllid gan wahanol asiantaethau cyllido