Darparu cymorth busnes a menter i'ch cleientiaid
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n darparu cymorth i'w cleientiaid. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain a rhedeg busnesau presennol, naill ai ar sail wirfoddol neu fasnachol. Mae angen hyn arnoch ar gyfer gweithio gyda chleientiaid i nodi a dewis y gwasanaethau a'r darparwyr gwasanaeth sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu nodau datblygu personol a busnes. Rydych yn cynorthwyo'r cleient i nodi'r hyn y maent am i ddarparwyr ei wneud, yn rhannu meini prawf i ddewis darparwyr gwasanaethau cymorth priodol a nodi ffynonellau cyllid a allai gynorthwyo'r cleient i dalu am wasanaethau lle bo angen.
Mae cymorth busnes yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion neu sefydliadau y tu allan i'r busnes, sy'n gysylltiedig â phroblem neu gyfle penodol yn ymwneud â'r busnes, neu ddatblygiad y busnes. Mae cymorth menter yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain. Gall 'busnes' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau neu fwy o fusnesau'n gweithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi ystod o ddarparwyr gwasanaeth sy'n gallu diwallu anghenion a gofynion y cleientiaid wrth symud o nodi'r cyfle i gymryd camau
- cynghori cleientiaid ar ddulliau priodol o ddewis a defnyddio darparwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter gan gynnwys unrhyw feini prawf y mae'n rhaid eu bodloni os yw arian cyhoeddus am gael ei ddefnyddio
- gweithio gyda chleientiaid i nodi eu gofynion o ran cymorth busnes a menter
- gwneud yn siŵr bod cleientiaid yn gallu paratoi amlinelliad priodol ar gyfer darpar gyflenwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter i gael dyfynbrisiau
- galluogi cleientiaid i ddatblygu a defnyddio meini prawf ar gyfer dewis cyflenwyr fydd yn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt a'r gwerth gorau
- galluogi cleientiaid i fonitro cynnydd gwasanaeth cymorth busnes a menter yn erbyn targedau a cherrig milltir y cytunwyd arnynt
- cynnig opsiynau i gleientiaid gael mynediad at wasanaethau cymorth busnes a menter gan gynnwys ffynonellau cyllid posibl ar gyfer eu hanghenion
- datblygu systemau i gofnodi gwybodaeth reoli am y gwasanaethau cymorth a ddefnyddir gan eich cleientiaid
- gwneud yn siŵr mai'r cleientiaid sy'n gyfrifol o hyd am ddewis a defnyddio darparwyr cymorth busnes a menter
- cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwasanaethau cymorth busnes
1. cwmpas a natur gwasanaethau cymorth busnes a menter sy'n briodol i anghenion gwahanol gleientiaid a sut i gysylltu â nhw
2. y ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i gleientiaid am faint a natur y gwasanaethau cymorth busnes
3. sut gall gwahanol fathau o wasanaeth cymorth busnes a menter ddarparu'r arbenigedd a'r wybodaeth ofynnol i gleientiaid
4. pam mae'n bwysig bod yn glir ynghylch y meini prawf sy'n ymwneud â hygyrchedd gwahanol fathau o wasanaethau cymorth busnes
5. dulliau asesu pa mor ddiduedd ac annibynnol yw gwasanaethau cymorth busnes a menter
6. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Broceriaeth
7. y wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn amlinelliad ar gyfer cyflenwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter
8. y meini prawf ar gyfer dewis cyflenwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter fydd yn diwallu anghenion y cleientiaid orau
9. y cofnodion i'w cadw am gyflwyno'r cleient i ffynonellau cymorth eraill
10. pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr mai'r cleientiaid sy'n gyfrifol o hyd am ddewis a defnyddio cyflenwyr gwasanaethau cymorth busnes a menter
11. ffynonellau cymorth deddfwriaethol, rheoleiddiol, ymgynghorol a sefydliadol
Cyllid
12. ystod y cyfleoedd ariannu posibl sydd ar gael i'r cleientiaid
13. y dulliau ar gyfer cael gafael ar gyllid a gwneud cais am gyllid gan wahanol asiantaethau cyllido