Ymchwilio i gefndir a phrofiadau eich cleientiaid
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n ymchwilio i gefndir a phrofiadau eu cleientiaid. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain a rhedeg busnesau presennol, naill ai ar sail wirfoddol neu fasnachol. Mae angen i chi ymchwilio i gefndir a phrofiad eich cleientiaid i reoli'r rhyngweithio cychwynnol â'r unigolion a'r sefydliadau busnes. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i chi nodi'r ffynonellau gwybodaeth perthnasol, gwneud synnwyr o'r wybodaeth a gesglir a'i defnyddio mewn ffyrdd sy'n eich cynorthwyo i ddatblygu perthynas â'r cleient.
Mae cymorth busnes yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion neu sefydliadau y tu allan i'r busnes, sy'n gysylltiedig â phroblem neu gyfle penodol yn ymwneud â'r busnes, neu ddatblygiad y busnes. Mae cymorth menter yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain. Gall 'busnes' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau neu fwy o fusnesau'n gweithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio'r fethodoleg ymchwil, amcanion, a'r math o wybodaeth sydd ei hangen am y cleient
- coladu ffynonellau gwybodaeth am y cleient
- nodi a gwerthuso ffynonellau gwybodaeth posibl o ran eu cyfraniad wrth ymchwilio i gefndir y cleient
- cysylltu â ffynonellau gwybodaeth gan roi esboniad clir o ddiben yr ymchwil
- cael gwybod am y gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn cael gafael ar y wybodaeth.
- pennu'r risgiau sy'n gysylltiedig â ffynonellau gwybodaeth a nodwyd o'r ymchwil
- nodi unrhyw broblemau o ran casglu'r wybodaeth angenrheidiol a chymryd camau priodol i ddelio â nhw
- defnyddio'r ffynonellau gwybodaeth o fewn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
- casglu gwybodaeth yn unol â gofynion yr ymchwil
- cymhwyso dulliau coladu gwybodaeth sy'n bodloni nodau ymchwil
- dadansoddi gwybodaeth yn unol â methodoleg y cytunwyd arno
- datblygu casgliadau addas a nodi'r prif ganfyddiadau
- nodi unrhyw ganfyddiadau annisgwyl ac awgrymu rhesymau drostynt
- ystyried dulliau amgen o gasglu gwybodaeth ychwanegol i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau ynghylch y cleient
- cyflwyno canlyniadau'r ymchwil mewn fformat y cytunwyd arno ac yn unol â'r dull ymchwil diffiniedig
- cydnabod ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddir wrth wneud yr ymchwil
- adolygu cynnydd a chanlyniadau'r ymchwil gyda'r bobl briodol
- cydymffurfio â rheolau cyfrinachedd gwybodaeth yn unol â gofynion cyfreithiol
- asesu a gwerthuso llwyddiant yr ymchwil yn erbyn yr amcanion a nodwyd
- cofnodi gwybodaeth a chanlyniadau'r ymchwil a gesglir yn y systemau priodol
- cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Nodi ffynonellau ac argaeledd gwybodaeth
1. pam mae'n bwysig bod yn glir ynghylch yr ymchwil i gleientiaid sy'n cael ei gwneud
2. y mathau o wybodaeth sydd eu hangen
3. ffynonellau gwybodaeth amgen
4. sut mae ffynonellau gwybodaeth wedi cydweithredu yn y gorffennol
5. rheolau cyfrinachedd sy'n ymwneud â gwahanol ffynonellau gwybodaeth
6. y risgiau y dylid eu hystyried
7. y problemau a allai ddigwydd a'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw
Casglu gwybodaeth i gyflawni amcanion ymchwil
8. y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i gael mynediad at wybodaeth
9. y gweithdrefnau casglu gwybodaeth
10. pam mae'n bwysig cymhwyso dulliau casglu yn gywir ac yn gyson
11. y problemau a allai ddigwydd a'r camau i fynd i'r afael â nhw
12. y systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth a'r gweithdrefnau sy'n ymwneud â defnyddio'r systemau hyn
Coladu canlyniadau'r ymchwil
13. dulliau crynhoi'r canlyniadau o'r ymchwil
14. manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau o goladu canlyniadau o'r ymchwil
15. y dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer casglu'r canlyniadau o'r ymchwil
16. pam mae'n bwysig rhoi rhesymeg dros ganlyniadau'r ymchwil
17. y mathau o ganlyniadau sydd i'w disgwyl a'r rhesymau posibl dros unrhyw ganlyniadau annisgwyl
18. pwy ddylai fod yn gysylltiedig â'r gwaith o adolygu canlyniadau'r ymchwil
Defnyddio canlyniadau'r ymchwil
19. sut i gyflwyno canlyniadau'r ymchwil
20. pwy ddylai fod yn gysylltiedig â defnyddio canlyniadau'r ymchwil
21. y mathau o wybodaeth a allai fod yn gyfrinachol neu sydd angen eu gwarchod
22. y meini prawf i'w defnyddio i werthuso llwyddiant ymchwil
23. pa fathau o system y gellir eu defnyddio i gofnodi canlyniadau'r ymchwil
Cydymffurfio â chanllawiau, deddfwriaeth a chodau ymddygiad
24. y canllawiau, deddfwriaeth a chodau ymddygiad priodol sy'n ymwneud â chynnal ymchwil a defnyddio'r canlyniadau
25. pam mae'n bwysig cydymffurfio â chanllawiau, deddfwriaeth a chodau ymddygiad priodol
26. beth yw goblygiadau peidio â chydymffurfio â'r hyn sy'n briodol o ran canllawiau, deddfwriaeth a chodau ymddygiad
27. sut i gael gwybodaeth am ganllawiau, deddfwriaeth a chodau ymddygiad priodol
28. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol