Cofrestru'n llawn ar gyfer TAW a chyflwyno ffurflenni ar ran eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cofrestru'n llawn ar gyfer TAW a chyflwyno ffurflenni ar ran eu busnes. Rhaid i chi gofrestru eich busnes ar gyfer TAW gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) os yw ei drosiant trethadwy TAW yn fwy na throthwy penodedig. Gallwch hefyd ystyried cofrestru'n wirfoddol ar gyfer TAW. Byddwch yn talu TAW i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) o ddyddiad cofrestru effeithiol a ddaw i rym. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn codi'r swm cywir o TAW, talu unrhyw TAW sy'n ddyledus i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC), cyflwyno ffurflenni TAW, cadw cofnodion TAW a chyfrif TAW. Hefyd, rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer 'Gwneud Treth Yn Ddigidol ar gyfer TAW' drwy gyflwyno rhai cofnodion yn ddigidol. Mae cwblhau'r cofrestriadau TAW a chyflwyno ffurflenni yn golygu nodi a ddylai eich busnes fod wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, paratoi ffurflen TAW a gofyn am gymorth proffesiynol pan fydd ei angen arnoch.
Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os ydych yn:
dechrau busnes newydd;
paratoi ffurflen TAW.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio a oes angen i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TAW
- penderfynu a hoffech chi gofrestru ar gyfer TAW yn wirfoddol er budd eich busnes
- cofrestru ar unwaith os ydych yn disgwyl i werth popeth rydych yn ei werthu yn y 30 diwrnod nesaf fod dros y trothwy penodedig
- darparu eich trosiant, gweithgareddau busnes a manylion banc i gofrestru ar gyfer TAW
- cofrestru ar gyfer TAW ar-lein neu drwy'r post drwy lenwi'r holl ffurflenni perthnasol
- creu cyfrif TAW i gyflwyno'ch ffurflenni TAW
- gwneud yn siŵr bod eich tystysgrif TAW yn cael ei derbyn a defnyddio'r rhif TAW ar ddogfennau perthnasol.
- cydymffurfio â'r rheolau treth perthnasol a gwneud yn siŵr bod yr holl ffeiliau gorfodol yn cael eu cadw mewn fformat digidol
- defnyddio meddalwedd gydnaws i allu cynnal eich cofnodion yn ddigidol
- dewis y cynllun sy'n gweddu orau i'ch busnes i gyfrifo ar gyfer TAW
- gwneud yn siŵr bod eich anfonebau'n cynnwys cyfradd a swm cywir eich TAW yn ogystal â'ch rhif TAW
- nodi pa wybodaeth fydd ei hangen arnoch i lenwi ffurflen TAW
- gwneud yn siŵr bod cyflwyniadau TAW yn cael eu gwneud yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol
- nodi'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau rydych chi wedi'u prynu a'u gwerthu a'r TAW sy'n berthnasol iddynt
- cyflwyno eich ffurflenni TAW yn ddigidol, gan ddefnyddio data o systemau cofnodi priodol
- ceisio arweiniad gan y Swyddfa TAW pan fo angen mewn modd proffesiynol
- cael cymorth annibynnol, arbenigol a chyngor pan fydd angen
- caniatáu digon o amser i lenwi'ch ffurflen TAW a'i hanfon o fewn y terfyn amser statudol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cofrestru ar gyfer TAW a'i chyfrifo
1. sut i gofrestru ar gyfer TAW
2. sut i gofrestru ar gyfer TAW yn wirfoddol a sut y gallai eich busnes elwa o wneud hynny
3. y gwahanol gynlluniau y gallwch eu defnyddio er mwyn cyfrifo TAW
4. pryd mae angen cyflwyno eich ffurflen TAW a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i chi ei llenwi yn ôl pob tebyg
Cofnodion TAW
5. y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i lenwi ffurflenni TAW (er enghraifft, cyfrifon sy'n cynnwys manylion anfonebau a gwerthiant)
6. sut i gofnodi gwybodaeth gyfrifo (er enghraifft, cofnodion ariannol cyfrifiadurol, cyfrifon ysgrifenedig a llyfr arian parod, derbynebau TAW ac anfonebau)
7. sut gall meddalwedd arbenigol eich helpu i gadw eich cyfrifon
8. enw a chyfeiriad eich busnes a rhifau cofrestru'r cwmni ac ar gyfer TAW
9. y cynlluniau cyfrifo TAW yr ydych yn eu defnyddio
10. y TAW y mae angen i'ch cwsmeriaid eu talu ar nwyddau a gwasanaethau rydych chi'n eu cyflenwi, gwerthu, prydlesu, trosglwyddo neu eu llogi
11. y TAW rydych yn ei thalu ar y nwyddau a'r gwasanaethau rydych yn eu derbyn, prynu, prydlesu, rhentu neu eu llogi
12. yr addasiadau y gallwch eu gwneud i ffurflenni TAW
13. yr 'amser cyflenwi' a 'gwerth y cyflenwad' (gwerth heb gynnwys TAW) am bopeth rydych chi'n ei brynu a'i werthu
14. cyfradd TAW sy'n cael ei chodi ar nwyddau a gwasanaethau mae eich busnes yn eu prynu a'r cyflenwadau
15. y trafodion tâl gwrthdro - lle rydych chi'n cofnodi'r TAW ar y pris gwerthu yn ogystal â phris y nwyddau a'r gwasanaethau rydych chi'n eu prynu
16. cyfanswm gros yr arian a wnewch yn ddyddiol os ydych yn defnyddio cynllun manwerthu
17. yr eitemau y gallwch adennill TAW arnynt os ydych yn defnyddio'r Cynllun Cyfradd Gwastad
18. cyfanswm eich gwerthiant, a'r TAW ar y gwerthiant hwn, os ydych chi'n masnachu mewn aur ac yn defnyddio'r Cynllun Cyfrifeg Aur
Y ddeddfwriaeth bresennol
19. ble i ddod o hyd i'r rheolau a'r rheoliadau presennol ynghylch TAW a llenwi ffurflen TAW
20. y mathau o TAW sy'n berthnasol i'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau rydych chi wedi'u prynu a'u gwerthu, megis cyflenwadau safonol, cyflenwadau wedi'u heithrio, cyflenwadau di-radd, mewnforion ac allforion
Cael help a chyngor arbenigol
21. sut i ddilyn canllawiau am lenwi eich ffurflen TAW a sut i gael rhagor o wybodaeth
22. sut i ddod o hyd i gymorth a chyngor ariannol, pan fo angen