Paratoi a thalu cyflogau

URN: INSBE040
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n paratoi ac yn talu cyflogau. Os ydych chi'n cyflogi staff byddwch yn cytuno ar gyflog gyda nhw, sut caiff ei dalu a phryd. Fel cyflogwr, mae'n rhaid i chi weithredu Talu Wrth Ennill (TWE) yn rhan o'ch cyflogres. TWE yw system Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) i gasglu treth incwm ac Yswiriant Gwladol o gyflogaeth. Gall cyflogau ddod yn fwyfwy cymhleth gyda thaliadau pensiwn, taliadau bonws, tipiau, tâl mamolaeth, ffyrlo, tâl salwch statudol, Cynllun Rhoi trwy'r Gyflogres, neu ad-dalu benthyciadau. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cynghorwyr arbenigol proffesiynol i arbed amser, arian ac osgoi gwastraffu egni. Mae paratoi cyflogau'n golygu cyfrifo cyflogau i'ch staff a gofyn am gymorth proffesiynol pan fo angen.

Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os ydych yn:

  1. dechrau busnes sy'n cyflogi staff;

  2. sefydlu cwmni cyfyngedig gyda chi eich hun ar y gyflogres;

  3. adolygu eich prosesau busnes;

  4. cyflogi staff newydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cofrestru gyda Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) a chael manylion mewngofnodi ar gyfer TWE Ar-lein
  2. dewis meddalwedd rheoli'r gyflogres i gofnodi manylion gweithwyr, cyfrifo tâl a didyniadau, ac adrodd i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi
  3. ceisio cyngor proffesiynol ar dalu cyflogau, deddfwriaeth cyflogaeth a rhwymedigaethau pensiwn
  4. cyfrifo faint sydd angen i chi dalu pob aelod staff
  5. cyfrifo unrhyw amrywiadau i dalu a thaliadau statudol neu gontractaidd, gan gynnwys unrhyw dipiau neu fonysau, tâl salwch neu famolaeth statudol
  6. cyfrifo a oes angen talu unrhyw daliadau ychwanegol, megis goramser neu daliadau bonws
  7. cyfrifo treth incwm, cyfraniadau pensiwn, cyfraniadau yswiriant gwladol i bob aelod staff
  8. nodi unrhyw ddidyniadau eraill y mae angen i chi eu gwneud o gyflogau staff
  9. rhoi gwybod am daliadau eich gweithwyr a'ch didyniadau i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar bob diwrnod cyflog neu cyn hynny
  10. hawlio unrhyw ostyngiad neu welliannau i'r hyn sy'n ddyledus gennych chi i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gan ddilyn eu proses
  11. cysylltu â llinell gymorth ymholiadau talu Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi pan fydd angen mwy o wybodaeth arnoch
  12. rhoi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi am unrhyw weithwyr sy'n ymuno neu'n gadael eich sefydliad, ac unrhyw newid mewn amgylchiadau
  13. canfod a oes gan eich staff unrhyw gredydau treth sy'n ddyledus iddynt
  14. talu cyflogau i'ch staff fel y cytunwyd yn eu contractau cyflogaeth
  15. talu taliadau Yswiriant Gwladol, treth a benthyciadau myfyrwyr i Gyllid y Wlad
  16. cadw cofnodion perthnasol cyfredol ar gyfer pob gweithiwr
  17. sicrhau bod eich cofnodion yn cael eu hadrodd yn gywir a'u cadw drwy gydol yr amser gofynnol
  18. cydymffurfio â gofynion diogelu data mewn perthynas â chofnodion gweithwyr
  19. cyflwyno adroddiad terfynol blwyddyn dreth eich cyflogres i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi
  20. rhoi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi am unrhyw ffigurau amcangyfrifedig a dros dro yn eich adroddiad terfynol
  21. cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth y llywodraeth a rhwymedigaethau cyfreithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Talu cyflogau

1. sut i gofrestru gydag Adran Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) a chael mewngofnodi ar gyfer TWE Ar-lein
2. y gwahanol systemau meddalwedd cyflogres sydd ar gael ar gyfer cadw manylion gweithwyr, cyfrifo eu cyflog a'u didyniadau
3. y gweithdrefnau adrodd i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gan gynnwys terfynau amser a chosbau
4. y wybodaeth i'w rhoi i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi am eich gweithwyr, fel ymuno â'r sefydliad, ei adael neu newid yn eu hamgylchiadau 
5. y ffyrdd o redeg system gyflogres eich busnes 
6. y cyflogau sylfaenol neu gyflog sydd wedi ei gytuno arno ar gyfer pob aelod staff
7. sut i gyfrifo yswiriant gwladol a threth incwm
8. y didyniadau neu daliadau ychwanegol y mae angen i chi eu gwneud ar gyfer pob aelod staff, megis cyfraniadau pensiwn, ffyrlo, tâl salwch statudol neu dâl mamolaeth 
9. pryd a sut i dalu treth incwm, yswiriant gwladol i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi
10. sut i gael gwybod am unrhyw gredydau treth sy'n ddyledus i'ch staff a delio â nhw 
11. sut a phryd i gysylltu â gwasanaeth ymholiadau talu Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi neu arbenigwyr eraill am gyngor
12. yr amser a'r dull y cytunwyd arnynt ar gyfer talu cyflogau i staff ac anfanteision a manteision pob un 
13. yr adroddiad terfynol eich cyflogres i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi, sut mae hyn yn cysylltu â chofnodion blwyddyn olaf gweithwyr, a pham mae hyn yn bwysig

Y cofnodion
14. yr hyn rydych chi'n ei dalu i'ch gweithwyr a'r didyniadau rydych chi'n eu gwneud
15. yr adroddiadau rydych chi'n eu gwneud i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC)
16. y taliadau rydych chi'n eu gwneud i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi a Chyllid y Wlad
17. y cofnodion sy'n dogfennu absenoldebau gweithwyr ac absenoldebau salwch
18. sut i brosesu hysbysiadau côd treth
19. y treuliau trethadwy neu fudd-daliadau y mae eich gweithwyr yn gymwys i'w hawlio
20. y gofynion diogelu data mewn perthynas â chofnodion gweithwyr 
21. dogfennau Cynllun Rhoi trwy'r Gyflogres, gan gynnwys contract yr asiantaeth a ffurflenni awdurdodi gweithwyr

Gwybodaeth a chyngor

22. ffynonellau gwybodaeth a chyngor sydd ar gael ar byrth y llywodraeth a thrwy linell gymorth ymholiadau talu Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
23. Y gweithwyr proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor ar dalu cyflogau, deddfwriaeth cyflogaeth a rhwymedigaethau pensiwn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMN10

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW