Ymgymryd â gwaith bancio ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n ymgymryd â gwaith bancio ar gyfer eu busnes. Arian yw anadl einioes unrhyw fusnes. Mae treulio amser ar y dechrau yn trefnu cyllid, a chael cymorth proffesiynol, yn enwedig buddsoddiadau yn eich busnes, yn hanfodol. Un o'r camau cyntaf yw agor cyfrif banc. Mae'n bwysig eich bod yn treulio amser yn ymchwilio i ba un yw'r cyfrif banc gorau i chi a pha gynhyrchion ariannol sy'n diwallu anghenion eich busnes. Mae bancio yn benderfyniad pwysig i'w wneud. Gall defnyddio cynghorwyr arbenigol proffesiynol arbed amser, arian ac egni sy'n cael ei wastraffu. Mae ymgymryd â bancio yn golygu dewis banc addas a'r math o gyfrif, yr opsiynau ar gyfer bancio a gofyn am help proffesiynol pan fydd ei angen arnoch.
Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os:
dechrau busnes
adolygu eich prosesau busnes a'ch trefniadau bancio;
ystyried newid eich cyfrifon banc neu fanciau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi pa gyfleusterau bancio sy'n bwysig i'ch busnes
- nodi a blaenoriaethu'r gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnoch
- ymchwilio i wahanol fanciau, mathau o gyfrifon bancio a busnes
- ymchwilio a choladu buddion, cynhyrchion ariannol y mae'r banciau yn eu cynnig, eu gwasanaethau a'r holl gostau cysylltiedig
- ymgynghori â chynghorwyr ariannol perthnasol ac arbenigwyr bancio
- dewis y banc a'r math o gyfrif sy'n diwallu anghenion penodol eich busnes
- nodi'r prosesau a'r gwaith papur sydd eu hangen ar gyfer agor y cyfrif banc
- darparu'r dogfennau, y wybodaeth a'r manylion adnabod llofnodwr i agor cyfrif
- cael cardiau debyd neu gredyd, os oes angen
- penodi'r staff sy'n gyfrifol am ddelio â gweinyddu cyfrifon, os oes angen
- sefydlu bancio ar-lein a symudol, os oes angen
- penderfynu pwy fydd yn cael mynediad at y cyfrifon a phrosesau llofnodwyr
- trefnu gosodiadau diogelwch ar gyfer bancio ar-lein a rheoli cyfrifon
- dilyn gweithdrefnau y banciau ar gyfer talu derbynebau, arian parod a sieciau
- cael derbynebau priodol gan y banc
- gwirio'r cyfriflenni banc yn erbyn eich cyfrifon yn rheolaidd
- storio cofnodion bancio yn ddiogel
- adolygu eich cyfrifon banc a sut rydych yn eu gweithredu
- ymchwilio i sut i newid i fath gwahanol o gyfrif neu fanc gwahanol, os oes angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich gofynion busnes mewn perthynas â bancio
- y cyfleusterau bancio a'r amrywiaeth o opsiynau sy'n bwysig i'ch busnes
- sut i nodi anghenion bancio eich busnes a'u blaenoriaethu
- ffynonellau gwybodaeth ar gyfer dewis banc addas
- y gwahanol fanciau a gwahanol fathau o drefniadau bancio
- y gwahanol fathau o gyfrifon ar gyfer eich busnes
- manteision ac anfanteision gwahanol fathau o gyfrifon banc
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer agor cyfrif busnes a'i weithredu
- pwy sy'n gyfrifol am weinyddu'r cyfrif a phwy fydd â mynediad ato
- y broses ar gyfer rhoi arian yn y banc
- y broses ar gyfer tynnu arian o'r banc, gan gynnwys archebu newid, os oes angen
- sut i wneud yn siŵr bod cyfriflenni banc â'ch cofnodion cyfrifyddu yn gyson
- y cynghorwyr ariannol perthnasol a'r arbenigwyr bancio i ymgynghori â hwy ar yr opsiynau bancio
- sut i ddiogelu gwybodaeth eich cyfrif a bancio ar-lein
- pam mae'n bwysig storio cofnodion bancio yn ddiogel
- pwysigrwydd adolygu eich trefniadau bancio
- sut i newid i fath gwahanol o gyfrif neu fanc gwahanol