Monitro benthyca ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen monitro benthyca ar gyfer eu busnes. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau angen cyllid o ffynonellau allanol rywbryd yn eu datblygiad. Er mwyn i'ch busnes fod yn llwyddiannus, bydd angen i chi sefydlu perthynas waith dda gyda benthycwyr a chadw llygad ar effaith unrhyw fenthyca ar eich busnes. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi wedi benthyg arian o ffynonellau llai ffurfiol fel teulu neu ffrindiau. Mae monitro benthyca yn cynnwys cadw mewn cysylltiad â chyllidwyr neu fenthycwyr, cadw golwg ar gostau a manteision y cyllid a ddarparwyd i'ch busnes, a bodloni gofynion benthycwyr.
Gallech wneud hyn os ydych:
yn adolygu ac yn diweddaru'r cynllun ariannol ar gyfer eich busnes neu fenter gymdeithasol;
yn asesu effaith unrhyw newidiadau yn y marchnadoedd ariannol ar eich busnes neu fenter gymdeithasol;
yn gyfrifol am reoli cyllid y busnes neu'r fenter gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r swm y mae angen i'ch busnes ei fenthyg
- nodi'r opsiynau ar gyfer benthyg yr arian ar gyfer eich busnes
- dadansoddi opsiynau a dewis y benthyciwr mwyaf addas
- rhoi gwybodaeth i'r benthyciwr/benthycwyr i'w helpu i ddeall eich anghenion benthyg
- cytuno ar delerau benthyg yr arian gyda'r benthyciwr/benthycwyr
- nodi'r risgiau sy'n gysylltiedig â benthyg arian
- gwneud y defnydd gorau o sgiliau a phrofiad eich benthycwyr
- cadw mewn cysylltiad â benthycwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn deall beth maen nhw eisiau i chi ei wneud
- monitro'n rheolaidd y risgiau, y costau a manteision y cyllid a ddarperir
- asesu opsiynau ariannol eraill i wneud yn siŵr mai'r rhai gwreiddiol yw'r rhai mwyaf priodol o hyd
- aildrefnu cytundeb benthyg gyda benthycwyr amgen, os oes angen
- sefydlu systemau i ragweld a monitro effaith y cyllid ar gynlluniau'r busnes
- gwneud yn siŵr bod y busnes yn gallu talu costau, ffioedd benthyg ac amserlen ad-dalu'r benthyciwr/benthycwyr
- asesu sut mae'r cyllid yn diwallu anghenion y busnes a nodi unrhyw broblemau posibl
- bodloni gofynion benthycwyr drwy gymryd camau addas a gofyn am help pan fydd ei angen arnoch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Perthnasoedd â benthycwyr
1. sut i gadw mewn cysylltiad â'ch benthyciwr a pha mor aml
2. y wybodaeth sydd ei hangen ar fenthycwyr, megis y cynllun busnes diweddaraf, rhagolygon llif arian, amrywiannau yn erbyn yr elw, a ragwelir, gwybodaeth am ddyledwyr, credydwyr, stociau a sefyllfa i fenthyca)
3. y dewisiadau o ran rheoli benthyciadau, megis amserlenni ad-dalu cyflymach neu is, newid i wahanol fathau o gyllid neu i gyllidwr arall
4. nodau benthyg y cyllid, megis cyfalaf sefydlog a chyfalaf gwaith, ehangu busnes
5. gwerth y busnes o ran gwerth asedau a therfyn cyllid gan y perchennog
6. pa waith papur y dylid ei ddefnyddio i gofnodi cytundebau ariannol
7. gofynion benthycwyr a sut gellir eu bodloni
8. y ffyrdd o gael gwybod pa sgiliau a phrofiad sydd gan eich benthyciwr a sut i'w defnyddio
9. yr effaith ar berthynas bersonol pan gaiff arian ei fenthyg gan deulu neu ffrindiau
10. y ffyrdd o gynnal perthynas bersonol â ffrindiau a theulu ar ôl benthyg arian ganddynt
Benthyg arian
11. yr opsiynau cyllid amgen, megis benthyciadau a warentir, gorddrafftiau, gwerthu neu brydlesu asedau, cynlluniau cyd-berchnogaeth i weithwyr, polisïau yswiriant, defnyddio cronfeydd pensiwn, cynlluniau gwarantu benthyciadau, cyllid allanol ar gyfer cyllid cyfalaf ecwiti neu ddyledion a chyfalaf menter gan 'angylion' busnes, grantiau, benthyciadau gan ffrindiau neu deulu
12. sut ddylid monitro benthyg arian yn nhermau costau a'r manteision
13. y mathau o gostau, megis taliadau llog, taliadau gweinyddol, ffioedd, comisiwn, ecwiti ac ennill cyfalaf, yswiriant, cosbau am ad-dalu'n gynnar, cosbau am fethu â bodloni llog a phrif ad-daliadau, gofynion diogelwch a risgiau
14. y mathau o fanteision, megis argaeledd cronfeydd, llif arian, buddsoddiad a'u heffaith ar y busnes
15. y peryglon tebygol i fusnes mewn perthynas â benthyg arian
16. sut i fonitro'r risgiau, fel methu ad-dalu'r benthyciad a dyledion eraill, y posibilrwydd o golli rheolaeth neu berchnogaeth o'r busnes, tor-perthynas mewn teulu neu gyfeillgarwch
17. pa mor aml mae angen adrodd ar sut mae eich busnes yn dod yn ei flaen o ran ad-dalu arian i fenthycwyr