Cael cyllid ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cael cyllid ar gyfer eu busnes. Efallai y bydd angen i'r busnes godi arian i ddechrau arni, newid cyfeiriad neu fynd trwy gyfnod anodd. Mae gallu cael cyllid ar y telerau cywir pan fydd ei angen yn bwysig ar gyfer nodau hirdymor a goroesiad eich busnes. Mae'n bwysig eich bod yn mynd i'r afael â hyn yn y ffordd gywir p'un a ydych yn benthyg arian gan deulu, ffrindiau neu ffynonellau mwy ffurfiol. Mae cael cyllid yn golygu adolygu gwahanol fathau o gyllid, penderfynu ble ac ar ba delerau ac amodau y byddwch yn gallu cael y cyllid, a monitro sut bydd cael cyllid a'i reoli yn effeithio ar y busnes.
Gallech wneud hyn os ydych yn:
dechrau busnes neu fenter gymdeithasol;
buddsoddi mewn busnes neu fenter gymdeithasol i ddatblygu a chynhyrchu cynhyrchion neu wasanaethau newydd;
profi diffyg dros dro mewn llif arian a allai eich atal rhag masnachu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio'r nodau o gael cyllid ar gyfer eich busnes
- asesu sefyllfa ariannol eich busnes a nodi faint o arian ychwanegol sydd ei angen arno
- asesu unrhyw ddatblygiadau yn y farchnad a allai ddylanwadu ar eich penderfyniad i gael cyllid ar gyfer eich busnes
- asesu'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â chael cyllid a'i reoli, a'r risgiau i'r busnes a chi eich hun
- cyfrifo pryd mae angen y cyllid arnoch ar gyfer eich busnes ac o ble
- nodi'r gwahanol fathau o gyllid sydd ar gael
- dadansoddi costau a manteision pob math o gyllid sydd ar gael
- cynnal dadansoddiad risg a datblygu cynlluniau wrth gefn
- nodi targedau a therfynau benthyg arian y gallwch eu derbyn
- nodi'r sefydliadau neu'r unigolion a allai ddarparu cyllid
- dewis y math o gyllid a benthyciwr sy'n diwallu anghenion eich busnes orau
- cwblhau cynnig a chyflwyno anghenion ariannol y busnes i'r benthycwyr
- nodi'r angen i gael benthyciadau wedi'u gwarantu a sut caiff y rhain eu had-dalu
- gwneud yn siŵr y bydd eich elw yn talu am unrhyw ad-daliadau am fenthyciad
- cytuno ar amserlenni ad-dalu sy'n diwallu anghenion eich busnes
- cadarnhau telerau ac amodau cytundebau ariannol, gan sicrhau eich bod yn deall yn union beth ydynt
- ceisio cyngor cyfreithiol neu ariannol gan yr arbenigwyr pan fydd ei angen arnoch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Benthyg arian
1. nodau cael cyllid ar gyfer eich busnes
2. pam mae'n bwysig ceisio cyllid ymlaen llaw a nodi pryd y mae ei angen arnoch
3. y gwahanol fathau o gyllid sydd ar gael a ble i ddod o hyd i wybodaeth amdanynt
4. manteision benthyg gan deulu neu ffrindiau, fel mewnbwn busnes, morâl a chymorth emosiynol
5. anfanteision benthyg gan deulu neu ffrindiau, fel dylanwad dros y busnes, pwysau ar berthnasoedd, colli rheolaeth, dibyniaeth, pwysau i gyflogi teulu neu ffrindiau
6. costau gwahanol fathau o gyllid, megis taliadau llog, taliadau gweinyddol, ffioedd, comisiwn, ecwiti ac enillion cyfalaf, yswiriant, cosbau am ad-dalu'n gynnar, cosbau am fethu â thalu llog a phrif ad-daliadau, gofynion diogelwch a risg, cyfran yn y busnes
7. manteision gwahanol fathau o gyllid, megis argaeledd cronfeydd, llif arian, buddsoddiad, yr effaith ar fusnes
8. pam mae'n bwysig ystyried lwfansau treth a chyfalaf wrth asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â chael cyllid ar gyfer y busnes
9. y risgiau tebygol i fusnes mewn perthynas â benthyg arian, a chanlyniadau posibl
10. sut i asesu'r risgiau, fel methu ad-dalu'r benthyciad a dyledion eraill, y posibilrwydd o golli rheolaeth neu berchnogaeth o'r busnes
11. dulliau asesu cyflwr ariannol y busnes o ran elw, llif arian, asedau cyfredol a rhwymedigaethau
Darparwyr cyllid
12. sut i nodi gwahanol fenthycwyr neu gyllidwyr
13. sut i gyfrifo a fydd eich elw yn talu am unrhyw ad-daliadau am fenthyciad
14. sut gall costau amrywio o ganlyniad i newidiadau mewn cyfraddau llog
15. sut i gyflwyno eich anghenion ariannol i fenthycwyr posibl
16. y technegau a allai ddwyn perswâd ar fenthycwyr i roi benthyg i chi drwy hyrwyddo eich hun a'ch syniadau mewn ffordd gadarnhaol
17. y ffyrdd o roi cynnig at ei gilydd
18. y targedau a'r terfynau ar gyfer cytuno ar delerau gyda benthycwyr
19. swm y cyllid, rhestr ad-daliadau cyfalaf a llog, y gostyngiadau sydd ar gael, manteision ychwanegol, cyfraddau llog, cadw gwarant mor isel â phosibl, capio cyfraddau llog, ffioedd a thaliadau hwyluso.
20. y gwarant y gallai fod angen i chi ei roi i fenthycwyr neu gyllidwyr
21. y gwahaniaethau rhwng benthyciadau a warentir a'r rhai sydd heb eu gwarantu, ac anfanteision gwneud gwarant personol
22. manteision cofnodi cytundebau ariannol a sut y dylai'r rhain gael eu cofnodi
Gwybodaeth a chyngor
23. y ffynonellau gwybodaeth am gael cyllid ar gyfer eich busnes
24. pryd y gallai fod angen cyngor cyfreithiol neu ariannol arnoch