Cadw cofnodion ariannol ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n cadw cofnodion ariannol ar gyfer eu busnes. Mae angen i chi gadw eich cofnodion ariannol at amrywiaeth o ddibenion. Maent yn bwysig o ran eich helpu i reoli eich cyllid a pharhau i redeg eich busnes. Maent hefyd yn ofynnol i fodloni gofynion cyfreithiol a rheoleiddio mewn cyfraith cwmnïau ac at ddibenion treth. Mae cadw cofnodion ariannol yn cynnwys ymchwilio i wahanol systemau ar gyfer cofnodi a monitro cyllid eich busnes ac adrodd arno, penderfynu pa gofnodion ariannol i'w cadw, sut, pryd ac am ba hyd i'w cadw, a dewis system rheoli cyfrifeg sy'n berthnasol i fformat cyfreithiol eich busnes.
Gallech wneud hyn os ydych yn:
hunangyflogedig;
dechrau busnes neu fenter gymdeithasol newydd;
cymryd drosodd busnes neu fenter gymdeithasol arall;
yn gyfrifol am reoli cyllid mewn busnes neu fenter gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- coladu pob cofnod ariannol sy'n gysylltiedig â'ch gweithgareddau busnes, asedau a chronfeydd
- defnyddio dulliau cyfrifo sy'n berthnasol i statws masnachu eich busnes
- dewis system gyfrifo fydd yn darparu datganiadau ariannol addas
- cynhyrchu ffurflenni statudol ar gyfer adrodd i'r awdurdodau treth
- cynnal cofnodion o ragolygon llif arian, elw a cholledion
- sicrhau y bydd y system ariannol yn cynhyrchu cofnodion addas o anfonebu a phrynu
- nodi'r systemau a'r prosesau i reoli'r arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan o'ch busnes
- rhannu'r wybodaeth gyfrifo ag aelodau staff perthnasol
- sicrhau bod yr holl drafodion ariannol wedi'u cofnodi'n gywir
- prosesu a storio cofnodion yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth diogelu data
- sicrhau bod y systemau diogelwch yn eu lle ar gyfer storio'r cofnodion papur ac electronig
- dinistrio unrhyw gofnodion ariannol a dogfennau nad oes angen eu cadw bellach
- storio a chadw cofnodion ariannol am y cyfnod gofynnol
- sicrhau bod cofnodion ariannol yn cael eu gweinyddu yn unol â gofynion cyfreithiol busnesau
- ceisio cyngor technegol a phroffesiynol pan fo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cofnodion ariannol
1. y cofnodion ariannol sy'n ymwneud â gweithgareddau eich busnes
2. egwyddorion a gweithdrefnau systemau cyfrifo
3. y cofnodion am eich asedau busnes a'ch cronfeydd
4. sut i gynhyrchu cofnodion ariannol, fel llyfrau cofnodi ariannol a dyddiaduron, anfonebau, derbynebau a thaliadau
5. sut i ddefnyddio cofnodion ariannol ar gyfer monitro cyflwr ariannol eich busnes
6. y datganiadau ariannol a'r ffurflenni statudol o ran eich statws masnachu
7. y trafodion gwerthu arian a chredyd, trafodion prynu a chredydwyr
8. sut i fonitro cyllidebau, anfonebau, taliadau a derbynebau
9. y gwahanol gyfnodau cyfrifo, blwyddyn ariannol a blwyddyn dreth
10. sut i ddewis gwahanol gyfnodau cyfrifo a blynyddoedd ariannol a'u defnyddio
11. rhagolygon llif arian, datganiadau elw a cholled, taenlenni, mantolenni a ffurflenni treth
12. sut i gysylltu llif arian, elw a cholled a mantolenni â'i gilydd
13. pa ddulliau mesur a rhagolygon ariannol sydd eu hangen ar eich busnes
14. y wybodaeth ariannol mewn perthynas â thaliadau cwsmeriaid (rheoli credyd), rheoli faint o arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan (rheoli llif arian), monitro'r gweithgaredd yn eich cyfrif banc a'r taliadau a wneir gan y banc (monitro banc)
15. sut i gadw'r dogfennau papur ac electronig yn ddiogel, a'u diogelu rhag colled, difrod a lladrata
16. pam y dylid storio'r dogfennau electronig ar systemau a ddiogelir gan gyfrineiriau, amgryptio a dulliau dilysu dau-gam
Gwybodaeth a chyngor
17. ffynonellau gwybodaeth am gadw cofnodion ariannol
18. pam mae'n bwysig defnyddio cyngor technegol a phroffesiynol priodol ynghylch gweithgareddau ariannol