Nodi gofynion ariannol eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid y mae angen iddynt nodi gofynion ariannol eu busnes. I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi sefydlu bod eich busnes yn gadarn yn ariannol. Dylech nodi'r hyn sydd ei angen arnoch i ddechrau eich busnes a pharhau i'w redeg yn llwyddiannus. Mae nodi eich gofynion ariannol yn golygu cyfrifo faint o arian sydd ei angen arnoch ar gyfer pob rhan o'ch busnes, ei gymharu â'r arian a roddwch yn eich busnes a'r arian y gallai eich busnes ei gynhyrchu, a phenderfynu a oes angen i chi gael unrhyw arian ychwanegol.
Gallech wneud hyn os ydych yn:
sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol;
cymryd drosodd busnes neu fenter gymdeithasol arall;
ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol;
newid y ffordd y mae busnes neu fenter gymdeithasol bresennol yn cael ei rhedeg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu eich cynllun busnes a'i gwblhau
- paratoi a chwblhau eich cyllidebau a rhagolwg llif arian i gyd-fynd â'ch cynllun busnes
- sefydlu faint o gyllid fydd ei angen i redeg eich busnes
- amcangyfrif am ba mor hir y gallai fod angen y cyllid arnoch gan ddefnyddio eich rhagolygon
- amcangyfrif faint o amser y gallai ei gymryd i chi adennill costau
- cynnal asesiad risg
- datblygu cynlluniau wrth gefn i nodi unrhyw gyllid ychwanegol y gallai fod ei angen
- cyfrifo unrhyw fuddsoddiadau posibl a nodi ffynonellau'r rhain
- defnyddio cyllid buddsoddi i dalu am unrhyw gostau datblygu a cholledion cychwynnol
- nodi unrhyw fenthyciadau tymor byr i gefnogi eich gofynion o ran cyfalaf gweithio, os oes angen
- dyrannu unrhyw fenthyciadau tymor hir i gefnogi eich busnes
- sefydlu'r gofyniad am fenthyciadau a faint o arian fyddai o dan sylw
- sefydlu a allai eich busnes fod yn gymwys i gael unrhyw grantiau neu gymorth ychwanegol
- ceisio cymorth a chyngor arian ychwanegol gan y llywodraeth ganolog a lleol, sefydliadau cymorth busnes, cymdeithasau masnach, elusennau a sefydliadau eraill
- gwneud cais am y cyllid sydd ei angen arnoch, os ydych yn gymwys
- nodi unrhyw adegau pan mae llif arian yn gallu bod yn uwch neu'n is na'r arfer neu amrywio yn ôl tymor
- cwblhau eich rhagolygon ar gyfer gwerthiant a gwariant
- gwirio ac adolygu cywirdeb eich rhagolygon
- nodi'r amrywiaeth o gostau sy'n gysylltiedig â rhedeg eich busnes
- cyfrifo'r holl gostau cyfalaf, megis prynu cyfarpar, eiddo, cyflenwadau a gweithgareddau eraill
- ymchwilio i'r costau ar gyfer unrhyw waith ymchwilio i'r farchnad a hysbysebu a gynlluniwyd
- sefydlu costau unrhyw staff y gallai fod angen i chi eu cyflogi ar gyfer eich busnes
- cymharu eich ffigurau â pha arian yr ydych yn disgwyl i'ch busnes ei wneud ac unrhyw arian sydd gennych ar gael i chi eich hun
- ceisio cyngor gan arbenigwyr proffesiynol i'ch cynorthwyo gyda'ch gofynion ariannol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion ariannol
1. hanfodion cynllun busnes
2. sut i gynhyrchu rhagolygon, amcangyfrifon a rhagamcanion cyllid yn eich busnes a'u defnyddio
3. y cyllidebau gwirioneddol a'r rhagolygon o lif arian
4. yr elw a'r colled gwirioneddol, a'r incwm a'r gwariant sy'n gysylltiedig â'ch busnes
5. beth sydd wedi'i gynnwys mewn rhagolygon llif arian, datganiadau a mantolenni elw a cholled, a sut i'w dehongli
6. sut i gyfrifo eich gwariant
7. faint o arian sydd ei angen i redeg eich busnes
8. faint o arian sydd ei angen i chi fyw arno, gan ystyried unrhyw gredyd treth gwaith a budd-daliadau
9. yr incwm gros sydd ei angen ar eich busnes i wneud bywoliaeth
10. hyd y gofynion ariannu yn unol â'ch rhagolygon
11. faint o amser y gallai fod ei angen i chi adennill costau
12. y dulliau cynnal asesiad risg a chynlluniau wrth gefn
13. y cyllid ychwanegol y gallai fod ei angen i redeg eich busnes
14. y mathau o fuddsoddiadau a'r ffynonellau i allu cael y rhain
15. yr arian parod y gallai fod ei angen arnoch i dalu am oedi rhwng talu cyflenwyr a chael taliadau gan gwsmeriaid
16. sut i dalu am unrhyw gostau datblygu a cholledion cychwynnol wrth ddechrau busnes
17. y benthyciadau tymor byr a thymor hir y gallai fod eu hangen ar gyfer eich busnes
18. y gofynion ar gyfer benthyciadau, eu symiau a'u telerau
19. ffynonellau ar gyfer cael grantiau neu gymorth ariannol ychwanegol
20. sut i wirio cymhwysedd a gwneud cais am gyllid
21. yr adegau pan mae llif arian yn gallu bod yn uwch neu'n is na'r arfer neu amrywio yn ôl tymor
22. sut i ymchwilio ac amcangyfrif costau cyfalaf, megis safle, cyfarpar, cyflenwadau, ac unrhyw staff y mae angen i chi eu recriwtio a'u cyflogi
23. cost unrhyw ymchwil i'r farchnad
24. sut i gyfrifo'r pris cywir ar gyfer eich cynhyrchion neu wasanaethau
25. sut i wirio ac adolygu cywirdeb eich rhagolygon
26. sut i osod amcanion busnes ac ariannol clir sy'n realistig, yn gyraeddadwy ac y gellir eu mesur
27. maint yr elw ar gyfer eich busnes a'i gynhyrchion neu wasanaethau
28. sut i gyfrifo'r gwahaniaeth rhwng elw crynswth a net
Gwybodaeth a chyngor
29. yr arbenigwyr sy'n gallu darparu gwybodaeth a chyngor ariannol ar eich busnes
30. ffynonellau gwybodaeth a chyngor perthnasol