Y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cael y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer eu busnes. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod eich busnes, gan gynnwys eich staff, cwsmeriaid a chyflenwyr, yn cydymffurfio'n gyfreithiol ac yn cael ei ddiogelu. Rydych yn gwneud hyn drwy sicrhau eich bod yn cydymffurfio â deddfau a rheoliadau statudol mewn perthynas â'ch busnes. Mae cadw'r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth yn cynnwys ymchwilio i ddeddfau a rheoliadau cyfredol mewn perthynas â sefydlu a rhedeg busnes, datblygu systemau a gweithdrefnau priodol i gydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau cwmnïau.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:
adolygu fformat cyfreithiol eich busnes neu fenter gymdeithasol;
uno â busnes neu fenter gymdeithasol arall;
cymryd drosodd busnes neu fenter gymdeithasol fwy sefydledig;
gwneud yn siŵr bod eich busnes yn cydymffurfio'n llawn â deddfau a rheoliadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- coladu ffynonellau cyngor a gwybodaeth sy'n ymwneud â rhedeg eich busnes
- ymchwilio i ddeddfau a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud â sefydlu eich busnes eich hun a'i redeg
- ceisio cyngor a chefnogaeth ar ddeddfau a rheoliadau gan weithwyr proffesiynol arbenigol
- datblygu systemau a gweithdrefnau i gydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau cwmnïau
- nodi camau i'w cymryd i gydymffurfio â deddfau a rheoliadau
- dirprwyo camau i aelodau staff neu randdeiliaid perthnasol
- penderfynu pa delerau ac amodau sy'n cydymffurfio â safonau masnach y byddwch yn eu cynnig i'ch cwsmeriaid a'ch cyflenwyr
- nodi unrhyw ofynion o ran hawlfraint neu batent ar gyfer eich busnes
- asesu effaith amgylcheddol eich busnes a nodi camau gweithredu ar y materion dan sylw yn unol â hynny
- cydymffurfio â deddfau a rheoliadau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â'ch busnes
- cadw eich gwybodaeth am ddeddfau a rheoliadau sy'n effeithio ar eich busnes yn gyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Deddfau a rheoliadau
1. y ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion statudol y mae angen i chi gydymffurfio â nhw fel perchennog busnes
2. y gofynion i'ch busnes i fasnachu'n gyfreithlon
3. sut gall deddfau a rheoliadau eich amddiffyn chi a'ch busnes
4. eich hawliau a'ch cyfrifoldebau cyfreithiol fel perchennog busnes
5. deddfau a rheoliadau iechyd a diogelwch a'ch dyletswyddau
6. y trwyddedau perthnasol, y mathau o yswiriant, a'r mathau o ganiatâd cynllunio sydd eu hangen ar gyfer eich busnes
7. y safonau masnachu, ystyriaethau diogelu defnyddwyr, contractau a chadw cofnodion perthnasol
8. y trothwyon sy'n effeithio ar eich trosiant a phryd y bydd yn rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW
9. pwy sydd â'r pŵer i arolygu eich gweithgareddau busnes i orfodi deddfau a rheoliadau
10. beth all ddigwydd os ydych chi'n methu â chadw at y gyfraith a rheoliadau eraill wrth weithredu eich busnes
11. y systemau i'w defnyddio i sicrhau bod ffurflenni yn cael eu cwblhau a bod tasgau'n cael eu cyflawni o ran bodloni gofynion cyfreithiol eich busnes
12. y deddfau amgylcheddol sy'n effeithio ar eich busnes
Cytundebau a chontractau
13. pam mae'n bwysig cymryd cyngor proffesiynol am gontractau a chytundebau
14. pam mae'n bwysig cytuno ar delerau ac amodau gyda'ch cwsmeriaid, cyflenwyr a chefnogwyr
Hawlfraint
15. pam a phryd y gallech wneud cais i gael patent neu hawlfraint ar gyfer eich enw neu eich cynhyrchion masnachu
16. sut i wneud cais am batent neu hawlfraint
Cyngor a gwybodaeth broffesiynol
17. ffynonellau gwybodaeth am ddeddfau a rheoliadau
18. pam mae'n bwysig defnyddio gweithwyr proffesiynol arbenigol i wneud yn siŵr bod eich busnes yn parhau i gydymffurfio â deddfau a rheoliadau