Dewis fformat cyfreithiol ar gyfer eich busnes

URN: INSBE029
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen dewis fformat cyfreithiol ar gyfer eu busnes. Mae'n bwysig dewis y statws masnachu mwyaf priodol ar gyfer eich busnes yn unol â'r gyfraith. Os bydd eich busnes yn methu, gall y fformat cyfreithiol effeithio ar eich hawliau a'ch cyfrifoldebau. Mae sawl opsiwn ar gael, ac mae angen i chi ddewis y fformat cyfreithiol sy'n gweddu orau i ofynion penodol eich busnes. Mae dewis y fformat cyfreithiol ar gyfer eich menter yn golygu dod i wybod am opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu a rhedeg busnes, cymharu fformatau cyfreithiol a dewis yr opsiwn sydd orau i'ch busnes.

Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:

  1. sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;

  2. adolygu strwythur eich busnes neu fenter gymdeithasol ar hyn o bryd;

  3. cymryd drosodd busnes neu fenter gymdeithasol arall yn ei blynyddoedd cynnar.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dod o hyd i gyngor a gwybodaeth sy'n ymwneud â'r amrywiaeth o strwythurau cyfreithiol ar gyfer eich busnes
  2. ymchwilio i'r fformatau cyfreithiol sydd fwyaf addas i'ch busnes
  3. nodi'r strwythurau cyfreithiol posibl ar gyfer eich busnes
  4. cymharu manteision ac anfanteision pob fformat cyfreithiol
  5. ymgynghori ag arbenigwyr proffesiynol ar y fformat cyfreithiol, lle bo angen
  6. nodi'r dogfennau cyfreithiol gofynnol i'w cwblhau ar gyfer y fformat busnes a ddewiswyd
  7. penderfynu pwy sy'n gwneud y penderfyniadau rheoli ym mhob fformat cyfreithiol
  8. ymchwilio i'r opsiynau ariannol a'r rhwymedigaethau ariannol yn dibynnu ar y fformat cyfreithiol
  9. nodi faint o drethi i'w dalu a'r cofnodion i'w cadw
  10. cael gwybod am gytundebau cyfreithiol a cheisio cyngor ychwanegol ar yr hyn y maent yn ei olygu i chi a nodau eich busnes
  11. ystyried barn eich cefnogwyr wrth ddewis opsiwn masnachu
  12. dadansoddi sut bydd yr opsiynau masnachu yn effeithio ar eich cwsmeriaid, cyflenwyr, rhanddeiliaid a gweithgareddau eich busnes yn y dyfodol
  13. gwneud yn siŵr bod y ffordd yr ydych yn sefydlu eich busnes yn bodloni'r holl ofynion cyfreithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Fformat cyfreithiol

1.      y mathau o strwythurau cyfreithiol sydd ar gael ar gyfer eich busnes, megis unig fasnachwr, partneriaeth, Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC), cwmni cyfyngedig (Cyf), Cwmni Cyfyngedig Preifat (PLC), cwmni Hawl i Reoli (RTM), Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC)

2.      y math o ddogfennaeth sydd ei hangen ar gyfer pob fformat o'r busnes

3.      yr awdurdodau y mae'n rhaid i chi eu hysbysu am eich busnes

4.      y gofynion treth ac Yswiriant Gwladol a sut rydych yn eu talu

5.      yr effaith y bydd gwahanol opsiynau yn ei chael ar eich busnes o ran cwsmeriaid a chyflenwyr

6.      pwy sy'n gwneud y penderfyniadau rheoli yn eich busnes

7.      y mathau o gofnodion a chyfrifon i'w cadw

8.      rhwymedigaethau ariannol gwahanol fformatau cyfreithiol

9.      y math o statws masnachu ar gyfer diwallu anghenion masnachol ac anghenion eraill eich busnes

10.  effaith gwahanol opsiynau ar eich sefyllfa o ran treth a faint o drethi i'w dalu

11.  y risgiau neu'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig

Y gyfraith a rheoliadau

12.  y rhwymedigaethau fydd gennych chi a'ch busnes gan gynnwys yswiriant, caniatâd cynllunio, rheoliadau ac is-ddeddfau lleol, rheoliadau iechyd a diogelwch, rheoliadau tân, rheolau safonau masnach, rheolau hawlfraint a phatentau

13.  yr agweddau ar gyfraith a rheoliadau cenedlaethol a lleol sy'n berthnasol i bob busnes, gan gynnwys eich un chi

Gwybodaeth a chyngor

14.  ffynonellau gwybodaeth am y gyfraith a rheoliadau sy'n ymwneud ag amrywiaeth o strwythurau cyfreithiol ar gyfer eich busnes

15.  pam mae'n bwysig defnyddio cyngor technegol a phroffesiynol i gael gwybod am ddeddfau a rheoliadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

GOV.UK



Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFALG1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW