Mewnforio neu allforio cynhyrchion neu wasanaethau
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n mewnforio neu'n allforio cynhyrchion a gwasanaethau. Mae llawer o bethau sy'n wahanol am fasnachu dramor o gymharu â masnachu'n lleol neu yn y DU. Mae'n bwysig monitro ac addasu gweithgareddau tramor a sicrhau bod y rhain yn cael effaith gadarnhaol ar eich busnes. Os ydych chi am fewnforio neu allforio eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau, bydd angen i chi fodloni gofynion cyfreithiol yr holl wledydd dan sylw, defnyddio'r dulliau cyfathrebu a thrafnidiaeth mwyaf effeithlon ac effeithiol, gwirio'r effeithiau parhaus ar y busnes, cael y telerau ac amodau talu cywir, monitro risgiau a sefyllfaoedd yn y gwledydd rydych chi'n masnachu â nhw.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:
gael rhagor o gyflenwyr;
dod o hyd i gwsmeriaid tramor newydd ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau;
dod o hyd i farchnadoedd newydd;
ceisio gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau newydd dramor;
cynyddu gwerthiant a dosbarthiad;
agor busnes neu fenter gymdeithasol newydd sy'n gweithredu dramor.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sy'n addas i'w mewnforio neu eu hallforio
- nodi'r gwledydd neu'r parthau economaidd ar gyfer mewnforio neu allforio
- sefydlu'r ffyrdd o gyfathrebu â'ch cwsmeriaid neu eich cyflenwyr
- dewis gweithgareddau cludo a storio sy'n cwrdd â'ch gofynion
- sicrhau bod eich gwybodaeth a'ch cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau neu fasnach ryngwladol yn gyfredol
- cadw eich gwybodaeth yn gyfredol am newidiadau i ddeddfwriaeth
- sicrhau bod gennych yr holl waith papur perthnasol ar gyfer mewnforio neu allforio yr rydych chi a'ch cwsmeriaid neu eich cyflenwyr yn gyfrifol amdano
- gofyn am wybodaeth ychwanegol neu arweiniad arbenigol proffesiynol ar gwblhau'r gwaith papur
- cadarnhau'r telerau ac amodau talu ar gyfer eich gweithrediadau
- sicrhau bod y telerau ac amodau yn diwallu anghenion eich busnes
- gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a'r dulliau gweinyddu rydych yn eu defnyddio yn iawn ar gyfer eich busnes
- hysbysu'r holl bartïon dan sylw am eu rolau, eu cyfrifoldebau, a newidiadau mewn prosesau
- cadw diweddariadau rheolaidd ar gynnydd gweithrediadau mewnforio neu arbenigol
- monitro yn rheolaidd y risgiau a'r sefyllfaoedd yn y gwledydd rydych chi'n masnachu â nhw
- defnyddio'r systemau TG perthnasol mewn perthynas â mewnforio, allforio a gweithrediadau cysylltiedig eraill
- cymryd camau i leihau risgiau a delio ag amgylchiadau sy'n newid
- nodi unrhyw gyfleoedd newydd sy'n dod i'r amlwg ac adolygu'ch cynlluniau mewnforio neu allforio yn ôl yr angen
- monitro cynnydd eich gweithgareddau tramor yn rheolaidd i sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd a bod masnachu tramor o fudd i'ch busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y deddfau a'r rheoliadau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw ar gyfer gweithrediadau mewnforio neu allforio
- pam mae'n bwysig cael gwybod beth yw'r protocolau a'r prosesau ar gyfer y gwledydd rydych chi'n delio â nhw
- y gwahanol ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir i ryngweithio â'ch cwsmeriaid neu gyflenwyr
- costau a manteision gwybodaeth a dulliau gweinyddu sy'n gysylltiedig â gweithrediadau mewnforio neu allforio
- y systemau TG perthnasol mewn perthynas â mewnforio, allforio a gweithrediadau cysylltiedig eraill
- y systemau logisteg ar gyfer anfon nwyddau ymlaen, cydgrynhoi, llwythi, casgliadau a danfon nwyddau
- y dulliau cludiant a'r trefniadau perthnasol sy'n addas i'ch anghenion
- nodweddion y sianeli cyfredol, megis cost, cyflymder, dibynadwyedd, amlder, maint llwythi
- yr amrywiaeth o opsiynau talu a thelerau
- y gofynion gweinyddol, amser staff, cymorth technegol, gwasanaeth i gwsmeriaid
- manteision defnyddio trydydd parti, fel cludwr, cludwr nwyddau
- y deunydd pacio, dogfennaeth, labeli, yswiriant, nodiadau cadarnhau danfon gofynnol, cytundebau ar ôl gwerthu ac ati
- yr effaith ar ofynion warysau a storio
- y gwaith papur sydd ei angen ar gyfer allforio neu fewnforio
- y telerau ac amodau i chi, eich cwsmeriaid neu gyflenwyr
- y cyfraddau ar gyfer cyfnewid arian tramor a sut gall eich gweithrediadau gael eu heffeithio gan gyfraddau'n codi neu'n gostwng
- y trefniadau danfon neu gasglu
- mae'r telerau masnachol rhyngwladol perthnasol (Incoterms), sy'n manylu ar gyfrifoldebau prynwr a gwerthwr am gludiant, yswiriant, dyletswyddau a chlirio yn berthnasol i'r wlad rydych chi'n masnachu â hi a'r dull cludo rydych chi'n ei ddefnyddio
- sut i ystyried arferion, disgwyliadau a phrosesau busnes diwylliannol anghyfarwydd wrth ddelio â chwmnïau neu gwsmeriaid tramor
- sut i ddelio â chyfleoedd sydd wedi'u cynllunio a heb eu cynllunio
- beth i'w fonitro i allu achub y blaen ar sefyllfaoedd, fel ffactorau gwleidyddol, newidiadau mewn diwydiannau neu farchnadoedd
- sut i warantu elw addas ar eich buddsoddiad
- sut i gyfrifo a yw allforio wedi bod yn llwyddiannus i'ch busnes a sut i sylwi ar gyfleoedd newydd mewn gwledydd eraill
- sut i adolygu'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau o ran eu proffidioldeb ac ystyried cyfleoedd eraill, fel marchnadoedd newydd mewn gwledydd eraill, cynhyrchion neu wasanaethau newydd, cynyddu gwerthiant a dosbarthiad