Nodi gofynion cwsmeriaid ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen nodi gofynion cwsmeriaid ar gyfer eu busnes. Mae'n bwysig gwybod pwy yw eich cwsmeriaid a beth maen nhw eisiau. Bydd hyn yn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn diwallu eu hanghenion fel eu bod yn defnyddio'ch cynhyrchion neu wasanaethau, yn cynllunio'r ffordd orau o farchnata neu werthu eich cynhyrchion neu wasanaethau, datblygu polisi gwasanaeth i gwsmeriaid, ac adolygu pa mor llwyddiannus yw eich busnes. Mae nodi gofynion cwsmeriaid yn cynnwys penderfynu pwy yw eich cwsmeriaid ar hyn o bryd neu eich darpar gwsmeriaid, ymchwilio i'w hanghenion a chasglu gwybodaeth am y canfyddiadau hyn a gwneud yn siŵr bod targedau eich busnes yn cyd-fynd ag anghenion eich cwsmeriaid.
Gallech wneud hyn os ydych yn:
sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;
ehangu busnes neu fenter gymdeithasol;
newid neu addasu'r cynhyrchion neu'r wasanaethau a gynigir gan eich busnes neu'ch menter gymdeithasol;
adolygu pa mor lwyddiannus yw eich busnes neu fenter gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu gwybodaeth am eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- ymchwilio i'r farchnad i nodi'r man ar gyfer eich cynnyrch a'ch gwasanaethau
- penderfynwch a oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi a sut y byddwch yn ei chael
- nodi'r mathau o gwsmeriaid ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- nodi anghenion eich cwsmeriaid a'u hymddygiadau prynu
- casglu adborth gan gwsmeriaid am eich busnes, ei gynhyrchion a'i wasanaethau
- dadansoddi barn gwahanol fathau o gwsmeriaid ar eich cynnyrch a'ch gwasanaethau
- nodi'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn o ran eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- coladu barn eich cwsmeriaid am fusnesau, cynnyrch neu wasanaethau tebyg eraill
- penderfynu a yw eich ymchwil wedi dangos bod cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu fynd at grwpiau newydd o gwsmeriaid
- adolygu'r hyn rydych chi wedi'i ddarganfod a'i baru â chynlluniau eich busnes
- cydymffurfio â gofynion cyfreithiol wrth nodi gofynion cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Ymchwil i'r Farchnad
1. sut gellir dosbarthu eich cwsmeriaid yn ôl amrywiaeth o nodweddion, megis oedran, galwedigaeth, dosbarth cymdeithasol, ffordd o fyw, incwm, ymddygiadau prynu, ardaloedd daearyddol ac ati
2. sut gallwch gael gwybod beth mae eich cwsmeriaid ei eisiau a'i angen
3. lle gallwch gael gwybodaeth gyhoeddedig am yr hyn mae cwsmeriaid ei eisiau a'i angen
4. sut i gael adborth gan eich cwsmeriaid newydd a chyfredol a'i ddefnyddio ar gyfer cynlluniau eich busnes
5. sensitifrwydd a chyfrinachedd gwybodaeth a sut i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol cysylltiedig
6. sut i ddadansoddi canlyniadau ymchwil i farchnadoedd ac anghenion cwsmeriaid
7. y dulliau cyfathrebu â chwsmeriaid
8. y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir gan y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
9. pwy sydd yn cystadlu yn eich erbyn a'u lle yn y farchnad
Ffocws Busnes
10. pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod eich busnes yn canolbwyntio ar anghenion eich cwsmeriaid
11. sut gall anghenion eich cwsmeriaid ddylanwadu ar ddyfodol busnes
12. sut i wneud yn siŵr bod anghenion eich cwsmeriaid yn cyfateb i dargedau'r busnes
13. sut gallwch ddefnyddio anghenion cwsmeriaid yng nghynlluniau eich busnes